Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hi yma ambell i noson ddistaw pan y bydda i yma ar ben fy hun.

DIC (braidd yn ofnus): Ia, ond welaist ti hi, Nel?

NEL: Na, welais i mohoni eto, ond rwy'n siwr mod i bron a'i gweld ambell waith; rwy'n i theimlo hi yn y gegin yma weithiau gyda'r hwyr pan y byddwch chi'n y coed.

DIC (yn bryderus): Oes i hofn hi arnat ti?

NEL: Ofn Mam! (cusanna'r llun.) 'Ch ofn chi, mam? Na, ryda ni'n ormod o ffrindia i fod ag ofn ein gilydd, yn tyda ni?

DIC (mewn ofn): Rwyt ti'n siarad yn union fel tae hi'n fyw rwan yn y gegin ma; yn tydi hi'n gorwedd yn ddigon llonydd yn mynwent y Llan.

NEL: Na, dydi mam ddim yno; mae na rywbeth yno, ond nid mam; mae mam yn fyw o hyd yn rhywle, wn i ddim ymhle, ond fe awn ar fy llw i bod hi weithiau yn y gegin ma. Nhad, peidiwch wir a mynd allan heno.

DIC (gan ffyrnigo): Rwyt ti fel sguthan yn sgrechian yr un peth o hyd. Wyt ti wedi troi'n dduwiol, dywed, fel pobl y capel—yn rhy dduwiol i niodde i ddal samons hefo rhwyd yn y nos?

NEL: Nac ydw i, nen tad, ac eto i gyd rwyn teimlo weithia mai nid chi bia'r samons.

DIC: Pwy pia nhw ynte? Pwy nath y samons sydd yn yr afon?