Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

NEL (yn chwareus): Wel, nid Dic Betsi gnath nhw beth bynnag, er mae fo sy'n dal y rhan fwya o honyn nhw.

DIC: Ia, ond mae'r afon, a'r awyr, a'r coed yn rhydd i bob dyn byw bedyddiol, ne mi ddylent fod.

NEL: Dyda chi a Mr. Blackwell y Plas ddim o'r unfarn ar y mater yna; mae o'n talu cyflog i gipar ne ddau i'ch watsio chi a'ch tebyg.

DIC: Pa hawl sy ganddo fo i hawlio holl greaduriaid y coed a'r afon? Mi rydw i'n perthyn o bell i'r corgi sgwar er na fyn o ddim arddel y berthynas, a dydw inna rioed wedi arddel y berthynas, a wna i byth. Mi rydw i gymaint gŵr bonheddig ag yntau, y lordyn boldew.

NEL: Ydach wrth gwrs, os ydi byw ar gêm yn farc o ŵr bynheddig. Ond unwaith eto, rwyf am i chi aros yma heno os gnewch chi.

DIC: Dos i Jerico, rhen frân ffôl, a phaid a chrawcian ddim yn rhagor. (Gwisg ei gap i gychwyn allan.)

NEL (neidia at y drws gyda llun ei mam yn ei llaw i geisio ei atal): Er mwyn mam peidiwch mynd heno; fe syrthiodd ei llun oddiar y pared nawr jest, a choeliwch fi, arwydd fod rhywbeth drwg ar ddigwydd ydi hynny, a digwydd heno hwyrach.

DIC (gan ei hyrddio oddiwrth y drws): Dos i dy grogi, rhen ddyllhuan y felltith! (Cleciar drws ar