ei ol, ac eisteddedd NEL yn benisel gan edrych ar y llun; gesyd ef yn y man yn ei le ar y pared. Ar hynny daw curo ar y drws, sych hithau ei dagrau â'i ffedog, ac egyr y drws.)
MR. HARRIS (ar y trothwy): Esgusodwch fi, ai yma mae Mr. Richard Davis yn byw?
NEL (mewn ffug-betruster): Mr. Richard Davis, Mr. Richard Davis. 'Ruwd annwyl dad, ai holi am Dic Betsi yr ydach chi. Mr. Richard Davis! Beth nesa tybed? Mi fydd Dic Betsi wedi mynd yn scweiar mewn chwinciad. Ia, yma mae Richard Davis, escweiar, yn byw, a fi (gan bwyntio ati ei hun) yw ei ferch, Lady Nel, sy'n golchi'r llawr ac yn berwi'r uwd iddo fo. Dowch i mewn i'r sittin room.
MR. HARRIS (gan ddod i mewn): Ydi'ch tad i mewn rwan sgwelwch chi'n dda?
NEL: Nad ydi, mae o newydd fynd am dro ar ol swper rownd i stad; mi fydd yn mynd ddwywaith neu dair yr wsnos rhag ofn fod rhyw gnafon drwg o'r capel na yn seuthu'r gêm sy yn i barc o tu cefn i'r plas ma. Ond rydw i, Lady Nel, yr etifeddes, yn digwydd bod i mewn. Rhowch eich het i mi. (Try'r het yn ei llaw.) O'r annwyl, dyma het ddigri, mae hi'n feddal fel pwdin. (Gw'isg hi ar ei phen a dring i ben y gadair i gael golwg arni ei hun yn y drych uwchben y tân.) Lady Nel mewn het ciwrat! Chi ydi ciwrat capel Seilo?