MR. HARRIS: Wel, na, nid ciwrat ydi'r enw cywir: ciwrat eglwys ddywedwn ni yntê? Fi ydi gweinidog newydd capel Seilo, Miss Davis.
NEL (ar y gadair): Lady Nel Davis sgwelwch chi'n dda; dropiwch y gair 'Miss' yna, achos mae o'n nhagu i bob tro y clywaf o.
MR. HARRIS: Dod yma gan ddisgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno—.
NEL: Dear mi! Dyna fel bydd gweinidog yn siarad, ai ê? (Gan watwar.) Disgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno, achos dyda chi, ei ferch, ddim yn werth i'w gweld.
MR. HARRIS (yn swil): Ddwedais i mo hynny; roeddwn am eich gweld chi yn gystal a'ch tad.
NEL: Dyna well dipyn y tro yna, Mr. —, be ydi'ch enw chi, deudwch?
MR. HARRIS: Eifion Harris.
NEL: Gan na fum i rioed o'r blaen yn siarad â chiwrat na gweinidog, wn i ddim yn iawn sut i'ch cyfarch chi; sut mae'ch cyfarch—Mr. Harris, Mr. Eifion Harris, neu'r Parch. Eifion Harris?
MR. HARRIS: Fe wnaiff un ohonynt y tro—Mr. Harris os mynnwch chi.
NEL: Fel y mynnoch chi, Mr. Harris, achos does gen i mo'r gwrthwynebiad lleia i'ch galw'n Eifion, neu—o'r annwyl dad! mae gen i enw dan gamp arnoch, Ivy! Mae o fel enw merch byddigiwns.