gweinidog newydd Seilo; dyma nhad, Mr. Richard Davis, yr oeddech yn holi am dano.
DIC: Dim o dy lol a dy giapars di yn y tŷ ma hefo dy Fistar Richard Davis ne mi dorra d'esgryn di. (Rhuthra ati.) Tyn y tacla na oddiam danat mewn dau funud. (Tyn Nel hwy gan eu rhoi i'w thad; yntau'n eu hyrddio'n ddirmygus at y gweinidog.) Rhowch rhein am danoch mewn amrantiad a dacw'r drws, ac os nad ewch trwyddo cyn i mi gyfri tri, mi'ch dyrnaf chi drwyddo.
MR. HARRIS (gan roi ei got am dano'n bwyllog): Peidiwch a dechreu cyfri tri, ne mi welwch mai dyna'r tri mwya costus ddaru chi rioed gyfri. (Gwel Dic yn nesu'n fygythiol, a saif y Gweinidog heb symud.) Gwell i chi sefyll draw; mae gen i nerth tri chipar yn y mreichiau. Rhowch eich llaw yn agos ataf, Richard Davis, ne beth bynnag ydi'ch enw, ac mi fydd un portsiar yn llai yn yr ardal ma am fisoedd mi gymraf fy llw ar hynny.
NEL (gan ddod rhyngddynt): Nhad, arna i roedd y bai i gyd, ac yn wir mae'n ddrwg gen i, Mr. Harris. Dod yma ddaru o, nhad, i'ch gwâdd chi a finna i'r capel. Nath dim person na gweinidog gymaint a hynny i ni o'r blaen; a fi nath iddo dynnu ei got i mi gael brwsio'r calch oddiarni, ac mewn smaldod mi rhois hi am danaf.
DIC: Yr hen ffŵl ddi-ben yn chware dy gastia o hyd. Be ddeydodd hi oedd eich enw chi?