Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MARGED: Fe ŵyr pawb drwy'r lle fod yr eneth wyllt na, Nel Davis, wedi dy ffoli'n deg, ac mae pawb yn methu deall be sydd wedi dod dros dy ben a thithau'n y swydd bwysig o weinidog Seilo.

MR. HARRIS: Meindied yr ardal ei busnes ei hun; does a fynno hi a fy materion personol i.

MARGED: Dyna lle rwyt yn camgymeryd; does gen ti fel gweinidog Seilo ddim materion personol, mae nhw'n faterion i bawb am dy fod yn weinidog yr Efengyl.

MR. HARRIS: Hynny ydi, fe ddylwn gael barn ffafriol yr eglwys ar y ferch brioda i?

MARGED: Mi wyddost gystal a neb y dylai'r ferch briodi di fod yn weddol gymwys o leiaf i lenwi cylch gwraig gweinidog.

MR. HARRIS: Ac wrth gwrs mae Nel Davis yn anobeithiol ym marn yr ardal, ydi hi?

MARGED: Onibae fod yr eneth na wedi dy witsio—witsio ydi'r gair gore am y peth—fe welest tithau nad ydi hi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog; dyna fel mae pawb yn siarad sy'n gwybod am dani. Wn i ddim am dani a does gen i byth eisiau gwybod am dani.

MR. HARRIS (yn brudd): O Mag, Mag! dyna'r gair garwa glywais i di rioed yn ei ddeyd.

MARGED: Wel, mae'n ddrwg gen i fod wedi dy frifo di, achos brawd da fuost i mi, ond (yn benisel) fum innau yn ddim chwaer wael i tithau chwaith,