Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MR. HARRIS: Mae cymeriad moesol Nel gyda'r gore yn y wlad; does dim blotyn ar ei charitor. Mae'n wir ei bod yn wahanol i bawb arall mewn rhai pethau, ond mae hi cyn bured a grug y mynydd.

MARGED: Rwyn meddwl digon o honot i gredu i bod hi mor bur a finnau, ond—grug y mynydd! Ddaw grug y mynydd byth yn flodyn gardd tŷ gweinidog, a beth am Dic Betsi? Wyt ti am blannu'r sgallen hefyd yn d'ardd? Waeth i ti hynny na rhagor, rwyt ti ar y groesffordd rhwng Nel Davis a'r eglwys.

MR. HARRIS: Rwyn deyd unwaith eto, os ar y groesffordd yr ydw i, nid Nel a'r eglwys yw'r ddau lwybr sy'n agor o mlaen, ond Nel a rhagfarn yr eglwys yn erbyn Nel; Nel a phobl nad ynt erioed wedi cynnig deall Nel.

MARGED: Nel Davis fydd dy ddewis felly?

MR. HARRIS: Wel, os dyna'r groesffordd, os rhwng Nel a rhagfarn yr eglwys rwyn sefyll, mi ddewisaf Nel.

MARGED (cyfyd i gau'r "Concordance" a'r Beibl): Dyma fi'n cau'r Beibl a'r Concordance iti; fydd dim rhagor o eisiau rhain arnat; dyma ddiwedd ar dy got ddu a'th gadach gwyn a dy bregethu.

MR. HARRIS: Nage! Mi bregethaf heb got na chadach gwyn os bydd rhaid yn y prif-ffyrdd a'r