Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

caeau. (Clywir curo trwm ar ddrws y ffrynt ac â Mr. Harris allan i'r passage a daw a Nel Davis i mewn. Ymddengys Nel fel pe mewn ing mud.) Dwedwch rywbeth, Nel: mae'ch golwg chi'n nychryn i, Mi wyddoch mai fy chwaer yw hon, raid i chi ddim ofni siarad.

NEL (yn araf a syn): Mae na bedwar o ddynion yn cario nhad o goed y Plas.

MR. HARRIS: Oes rhywbeth wedi digwydd?

NEL: Wn i ddim! Wn i ddim! O! fedra i ddim crio. Dic Betsi! Mae arna'i ofn y bydd o farw ar y ffordd cyn cyrraedd adre.

DOCTOR HUWS (daw i mewn heb guro o'r dde): Rwyn dod i mewn yn ddiseremoni iawn, Mr. Harris, ond Dic Betsi—.

MR. HARRIS (gan gyfeirio'i sylw at Nel): Dyma Nel Davis, Doctor; y funud ma roedd hi'n dod i mewn i ddeyd am y digwyddiad.

DOCTOR: Rwyn gofyn cymwynas go fawr gennych, Mr. Harris—gawn ni ddod a Richard Davis i mewn i'r gegin neu rywle; mae pob munud yn werthfawr.

NEL (ar ei gliniau o flaen y Doctor): Oes rhyw lygedyn o obaith?

DOCTOR: Dowch chi, ngeneth i, mi wnawn ein gore rhyngom; peidiwch mollwng rwan. Gawn ni ddod a fo yma, Mr. Harris?