NEL (ai dwylo ar ei hwyneb): O, na fedrwn i grio; mae na ryw ddistawrwydd yn y mhen i fel pe bae rhywbeth ar dorri o'i fewn.
MARGED: Steddwch ar y soffa ma, mi ddowch. yn well yn y munud.
NEL (gan eistedd): Mae sŵn cerdded araf y pedwar dyn na ar y nghlust i. (Cyfyd yn sydyn.) Rwyn mynd allan i'w cyfarfod.
MARGED (yn erfyniol): Na wir, peidiwch a mynd. Mi fydd Eifion yn ol rwan jest. Ymhle roedd eich tad pan ddigwyddodd hyn?
NEL: Fe aeth allan ar ol tê i bortsio.
MARGED: O! 'r tad annwyl, dyna beth difrifol!
NEL: Be sy'n ddifrifol?
MARGED: Wel, meddwl fod hyn wedi digwydd ac yntau'n—(petrusa).
NEL (ymeifl yn ei braich): Nid amser i ddeyd y drefn am bortsio ydi hi rwan; mae nhad wedi frifo, mae gwaed Dic Betsi'n diferu ar hyd y ffordd.
MARGED: Ydi, mi wn, ond—
NEL: Y nefoedd fawr! Welwch chi ddim mai nhad sy wedi frifo; nid y portsiar ydi o i mi rwan, ond nhad, ac os colla'i nhad, mi golla'r cwbl sy gen i. (Clywir swn traed cludwyr Dic-Betsi yn dod i mewn drwy'r passage ac yn mynd heibio drws y study i'r gegin y tu ol.) Dyna nhw'n cario'i gorff o i mewn. Mae rhywbeth yn deyd wrtho i fod popeth ar ben heno. o nhad bach! (Yn