ffyrnig gan gau ei dwrn.) Os y cipar seuthodd o, gobeithio y daw barn ar ben y llofrudd!
MARGED (dan gilio'n ol oddiwrthi'n frawychus): Rhag cwilidd i chi'r eneth annuwiol, rydach chi'n waeth na phagan.
MR. HARRIS (daw i mewn o'r chwith a gesyd ei ddwylo'n bwyllog ar ysgwydd Nel): Rwan, Nel bach! wedi torri dros y tresi eto? Rwyn gweld rhen olwg wyllt na yn eich llygaid.
NEL (tyr i lawr i wylo ac eistedd â'i phen ar y bwrdd): Mam!
MR. HARRIS: Mag, dos i weini am dipyn ar y Doctor yn y gegin. (Exit MARGED i'r chwith. Eistedda'r Gweinidog â'i law am wddf Nel â'u cefn at y drws sydd ar y chwith.) Mi fyddwch yn well rwan. Mae'r Doctor yn gneud ei ore i'ch tad yn y stafell na.
NEL: Ydi hi ar ben arno?
MR. HARRIS: Mae gobaith tra bo anadl.
NEL: O! mae'n ddrwg gen i i mi ddychryn eich chwaer rwan.
MR. HARRIS: Mae'n biti nad allech chi goncro'ch tempar, Nel bach.
NEL (yn ddigalon): Rwy'n waeth na phagan, medde'ch chwaer ac mae hi'n iawn. (Daw y tri blaenor, Elis Ifan, a Hopcyn i mewn o'r gegin drwy'r drws ar y chwith, ond ceisiant gilio'n ôl