MR. HARRIS: Ai ie, dyna chi rwan wedi dod at wreiddyn y gwrthwynebiad sydd iddi, y pechod mawr mae hi'n euog ohono yw, mai Dic Betsi ydi thad hi, dyna wraidd yr holl ragfarn yn ei herbyn. Druan ohoni, merch Dic Betsi ydi hi; pe bae'n ferch i Mr. Blaclcwell y Plas, mi gawsai bob croeso er i'r un ffaeleddau'n union fod yn perthyn iddi, ac eto ni sy'n sôn am ysbryd gwerinol Cymru, a'r un pryd mor falch yr yda ni i gael bowio i wyr mawr a chrach-foneddigion.
HOPCYN: Wel, ofer yw i ni siarad dim yn rhagor. Dyma ni fel swyddogion Seilo wedi gneud ein dyletswydd, ac fe wyddom rwan ymhle mae'r naill a'r llall ohonom yn sefyll pan ddaw'r pwnc i fyny, os byth y daw, ger bron yr eglwys. Dyma ni'n mynd, Mr. Harris. Nos dawch.
MR. HARRIS: Nos dawch. (A'r pedwar allan 'ar y dde ac ar ol iddynt fynd, daw Jared yn ol.) Anghofio'ch het ddaru chi Jared Jones?
JARED: Dod yn ol ddaru mi er mwyn cael ysgwyd llaw â chi, syr, ar ol y sgarmes (gan gymeryd ei law). Mr. Harris, mae na rêl gêm ynoch chi, os ca i usio'r gair. Os byth y daw hi i'r pen arnoch yn Seilo, gobeithio na ddaw hi byth i hynny, ond os digwydd i'r llanw droi yn eich erbyn, mae'r gweithdy acw'n agored i chi pan fynnoch. Hên jeinar ydach chi yntê? Wel, er mae dyn tlawd ydw i, mi ranna'r pres nillwn ni gyda'n crefft. Mi