Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fydd hynny'n deg yn fydd o? Bendith ar ych pen! Mae na rêl gêm ynoch chi, fel sydd yn y dynion na yn y Beibl. Nos dawch!

MR. HARRIS: Nos dawch, a diolch i chi Jared Jones. (A Jared allan ac eistedda'r Gweindiog yn benisel. Daw Marged i mewn o'r chwith ac ymeifl yn gariadus yn ei law)

MARGED: Eifion, mae golwg digalon iawn arnat ti.

MR. HARRIS: Tipyn o gur sy yn y mhen i.

MARGED: Mae mwy o gur yn dy galon di, Eifion bach. Dywed beth yw'r mater.

MR. HARRIS: Rwyf wedi gadael y groesffordd.

MARGED (yn llon): Ac wedi dewis llwybr yr eglwys?

MR. HARRIS: Naddo, rwyf newydd hysbysu'r blaenoriaid y prioda i Nel Davis, boed y canlyniadau y peth y bônt. (Egyr y drws o'r chwith a daw Nel i mewn.)

MARGED: Nel Davis! Rydach chi wedi mynd a mrawd oddiarnaf, ac wedi dwyn y gweinidog oddiar eglwys Seilo.

NEL: Dwyn? Beth ydach chi'n feddwl? Tybed nad oes digon o faich arna i heno heb i chi roi chwaneg arnaf?

MARGED: Mae Eifion newydd ddeyd wrth flaenoriaid Seilo ei fod am eich priodi, er y gŵyr o o'r goreu beth fydd y canlyniad; y funud y priodith