o chi, mi fydd yn rhaid iddo godi ei bac oddiyma.Mi ddylech fod yn falch o'ch diwrnod gwaith.
MR. HARRIS: Marged, rwyt wedi anghofio'th barch i'th hunan ac i minnau. Ai dyma'r amser iti fwrw dy lid ar Nel Davis yn i phryder a'i gofid?
NEL: Does dim eisiau sôn am y mhryder i jest rwan, ond mae gen i hawl i wybod beth sy wedi digwydd yma. Ydach chi'n deyd mod i wedi dwyn eich brawd oddiarnoch chi ac eglwys Seilo.
MARGED: Gofynnwch iddo fo. Mae newydd rybuddio'r blaenoriaid o'i fwriad i'ch priodi er y gŵyr o y digia fo bawb drwy'r lle wrth neud hynny.
MR. HARRIS: Marged! Fu arna i rioed o'r blaen gwilydd ohonot.
MARGED: Rwyn teimlo dros fy nhad a mam weithiodd nos a dydd i dy godi di i'r pwlpud i bregethu'r efengyl, a dyma'u tâl.
NEL: Eifion Harris, be sydd wedi digwydd? Mae gen i hawl i wybod.
MR. HARRIS: Fe ddaeth y blaenoriaid yma fel y gwelsoch ac fe ddaeth pethau i boint. Gofynasant i mi oedd y stori'n wir fy mod yn eich caru, ac fe ddywedais ei bod. Fe ddwedais y gwir, rydw i yn eich caru er mai adeg ryfedd i ddweyd hynny yw heno.
NEL: Wel, ewch ymlaen.
MR. HARRIS: Gofynnodd y blaenoriaid i mi oeddwn i'n barod i'ch priodi pe byddai rhaid i mi