adael Seilo am wneud hynny, ac fe ddwedais y priodwn chi beth bynnag fasa'r canlyniadau.
NEL: Ah! mae Nel Dic Betsi'n sgymun i bawb yn yr ardal, ac mi fydd byth. Does dim maddeuant byth i mi am fod yn ferch y portsiar.
MR. HARRIS: Does waeth gen i am farn neb yn y wlad, gan mai chi ydi cannwyll fy llygad i.
NEL: Mi fydd yn rhaid diffodd y gannwyll heno.
MR. HARRIS: Beth?
NEL: Phrioda i chi byth!
MR. HARRIS: Mi fynna'ch priodi.
NEL: Mi gewch weld yn amgenach. Ddoi byth yn dragywydd rhyngoch chi ag eglwys Seilo na dim eglwys arall.
MR. HARRIS: Fe rois fy ngair y fan yna heno ddiweddaf y priodwn chi pe troid fi dros y drws fory nesaf.
NEL: Pwy ddywedodd wrthych y priodwn ichi?
MR. HARRIS: Chi.
NEL: Naddo rioed!
MR. HARRIS: Fe roisoch le i mi gasglu drwy'r misoedd yma eich bod yn y ngharu i.
NEL: Ah, dyna rywbeth gwahanol. Marged Harris, dydi'ch cariad chi at eich brawd yn ddim ond fel cannwyll frwyn wrth yr haul yn ymyl ynghariad i ato; mi awn drwy ffaglau tân er ei fwyn. Cariad! Marged Harris, wyddoch chi mo