ystyr y gair eto? Pwy sy'n ameu fy nghariad i at eich brawd?
MR. HARRIS: Nel bach, mi wyddwn fod popeth yn "all right."
NEL: Rhoswch funud; dydi popeth ddim yn "all right." Waeth un gair na mil phrioda i byth mohonoch.
MR. HARRIS: Ond fe ddwedsoch rwan eich bod yn y ngharu i.
NEL: Ydw, mi ddwedwn hynny ar goedd y byd, ond rwyn eich caru'n rhy fawr i'ch priodi.
MR. HARRIS: Nag ydach, ne mi priodech fi.
NEL: Eifion! Er mai merch y portsiar ydw i, ddwedais i rioed gelwydd yn y mywyd—fum i rioed o'r blaen yn caru â neb, a charai byth neb ond chi, ond mae'n well gen i fod heb weld ych gwyneb chi byth na dod rhyngoch chi a'ch gwaith fel gweinidog, ac mi wn nad ydi merch Dic Betsi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog a fydd hi byth. (Eistedda i lawr yn brudd.)
MR. HARRIS (wrth ei hymyl): Nel, fi ydi'r unig un yn y lle ŵyr eich gwerth, ac r wyn benderfynol o'ch priodi deued a ddêl.
NEL: Mae mhoen i'n ddigon heb roi un arall ato, ond waeth i chi geisio symud y Wyddfa na'ms ymud i o mhenderfyniad. Unwaith eto, ac am y tro ola, phrioda i byth mohonoch. Fe af yn ddigon pell o'r ardal ma i ennill y nhamaid rhywsut ond