Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DOCTOR: Un twyllodrus iawn ydi'r gwyneb. Wel, i newid y stori, go lew y gweinidog yn cymryd i le fo fel jeinar yntê?

HOPCYN: Mwy na go lew—ardderchog!

IFAN: Ie, iechyd i'w galon o.

DOCTOR: Ydi o'n wir i fod o wedi cael galwad o eglwys fawr yn Lerpwl na?

IFAN: Ydi nen tad! Mae dwy ne dair o eglwysi mawr am i ddwyn o oddiamom yn Seilo, rhen gnafon sâl.

DOCTOR: Aiff o?

HOPCYN: Nac aiff, gobeithio'r annwyl.

DOCTOR: Wel, taswn i yn i le o, mi symudwn, a mi gadawswn chi fynd i'ch crogi yn Seilo ar ôl y tro gwael naethoch chi â fo flwyddyn yn ol.

HOPCYN: Cyfeirio rydach chi at y ngwaith i a blaenoriaid eraill yn sefyll yn erbyn iddo briodi Nel Davis?

DOCTOR: Ie, wrth gwrs.

HOPCYN: Chware teg i ninnau, Doctor; doedd bron neb yn Seilo, ond Jared, druan, yn fodlon iddo briodi Nel Davis yr adeg honno.

IFAN: Heblaw hynny, mi fasa Mr. Harris wedi ei phriodi yn ein dannedd oni bae iddi wrthod yn bendant.

DOCTOR: Lol i gyd! I wrthod o ddaru hi am y gwyddai hi mor groes oeddach chi i'r briodas, yr hen set wael. Ond wedi chi ddeall fod peth o waed