Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AR Y GROESFFORDD

ACT I
Gweithdy'r Saer

[Mae bwrdd hir-gul yn ymestyn gyda'r mur sy gyferbyn â'r edrychwyr. Ar y muriau gwelir ychydig o offer gwaith saer yn grogedig yma ac acw gyda thri neu bedwar o focsis wrth y muriau ar y dde a'r chwith i eistedd arnynt, a naddion ac ysglodion ar y llawr. Arwain y drws sydd ar y chwith i'r tŷ sy'n gysylltiedig ar gweithdy, a'r un ar y dde i'r heol. Pan gyfyd y llen gwelir y saer yn plaenio planc a'i brentis yn dal un pen i'r planc rhag symud. Drwy'r act hon pan bo hynny'n gyfleus, mae'r saer i'w weld yn brysur gyda rhyw ran neu gilydd o'i waith.]

JARED: (gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ychydig): Be fuost ti'n neud a'r plaen yma, Harri?

HARRI: Plaenio, Mistar.

JARED: Ie, plaenio, wrth gwrs; mi wyddwn mai nid codi tatws y buost ti hefo fo. Does dim blewyn o fin arno fo rwan beth bynnag. (Deil ef