Scweiar y Plas yng ngwythiennau Dic Betsi, a bod y Scweiar wedi anfon Nel Davis i Lunden ar i gost i hun i gael dipyn o addysg, dyma chithau'n dechreu newid eich barn am dani'n araf. Ar y ngair i, rwyf bron a choelio y basach chi'n fodlon iddi fod yn wraig y gweinidog erbyn heddiw.
HOPCYN: Hawdd i chi siarad, ond mi wranta fod Nel Davis wedi codi yn eich barn chitha wedi i'r secrat ddod allan i bod hi'n rhyw berthyn pell i Mr. Blackwell.
IFAN: Dydw i'n malio run frwynen am i pherthynas hi â gŵr y Plas, ond mi gymra fy llw y bydd ychydig o ysgol yn Llunden yn siwr o ddofi dipyn arni, ac roedd eisia dofi gryn lawer arni.
HOPCYN: Oedd, nenor tad. Ymhle yn Llunden mae hi, Doctor? Ryda ni bawb wedi gofyn i chi droion.
DOCTOR: Run ateb sy gen i: wn i ddim.
IFAN: Gwyddoch o'r goreu, ond mi gaiff Doctor balu celwydd yn ddi-gosb; mi wyddoch chi a'r scweiar drwy'r misoedd ymhle mae hi, ond na ddeydwch chi ddim.
DOCTOR: Wel, mi wn ymhle mae hi'r funud ma.
Y DDAU: Ymhle?
DOCTOR: I mewn yn tŷ yn tendio ar Jared.
IFAN: Gwarchod pawb, ydi hi yn y tŷ rwan?
HOPCYN: Cellwar â ni rydach chi fel arfar?