IFAN: Diaist, mae gen i dipyn o ofn i gwynebu hi. Dos di'n gynta Hopcyn.
HOPCYN: Na, ti ydi'r hyna, Ifan.
IFAN: Mae'n rhaid i ti gychwyn achos ti ydi'r pen blaenor. (A'r tri allan ar y chwith, a dechreua Harri guro'r hoelion. Yn y funud daw Mr. Harris i mewn o'r dde, a thyn ei got a'i het yn barod i waith.)
MR. HARRIS: Rwan, Harri! y troed gore mlaen. Orffennwn ni'r job yma erbyn diwedd yr wsnos?
HARRI: Fe ddylem a ninnau'n gweithio'n hwyr fel hyn.
MR. HARRIS (gan estyn ei freichiau'n ol a blaen): Pe cawn i'r breichiau ma i stwytho dipyn,mi drown ragor o waith drwy nwylo.
HARRI: Peth da ydi rhwbio dipyn o embro-cation arnyn nhw cyn mynd i'r gwely, syr.
DOCTOR (daw i mewn o'r chwith): Mi ddeuthoch yn ol o'ch tê, mi welaf.
MR. HARRIS: Do. Rwan, Harri ewch chitha i'ch tê. (Gwisg Harri ei got a'i gap ac â allan drwy'r dde.) Sut mae Jared rwan, Doctor?
DOCTOR: Canolig iawn. Rwyf newydd ddod a nyrs i dendio ar yr hen lanc er mwyn rhoi pob chware teg iddo wella os oes gwella i fod.
MR. HARRIS: Newydd ddod mae'r nyrs?
DOCTOR: Ie. Pan gymrwyd Jared yn wael echdoe mi welais fod y cês yn un seriws, ac mi rois y peth o flaen y scweiar, ac mi ddeydodd wrtho i yn