Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

NEL: Pam? Run Nel ydw i heddw yn nillad nyrs ag oeddwn i flwyddyn yn ol ym mwthyn Pantglas.

MR. HARRIS: Nage, Nel bach; yr un yn union ydach chi i mi wrth gwrs, ond i'r bobol sydd yma, merch ifanc ydach chi erbyn hyn, wedi bod dan addysg yn Llunden—Nyrs Nel Davis mewn dillad glas, sy'n gweddu iddi'n ofnatsan las—Nel Davis sy'n perthyn o bell i Mr. Blackwell y Plas. O mae pethau wedi newid yn rhyfedd y misoedd diwedda ma.

NEL: Mi fum yn siarad rwan ag Ifan y crydd a Hopcyn y siop—y ddau oedd fwya'n fy erbyn. Mae'r ddau yn tŷ rwan.

MR. HARRIS: Fuoch chi wir? Sut roedda nhw'n behafio?

NEL: Swil iawn oedd y ddau am dipyn, a mi rois snap ne ddwy iddyn nhw er mwyn rhen amser gynt. Ond eisia cymodi oedd arnyn nhw'n amlwg, a mi doddais dipyn bach atyn nhw yn y diwedd.

MR. HARRIS: Dyna fo eto; mi wyddwn fod Ifan a Hopcyn wedi newid cryn lawer ar i barn. Y gwir yw, fe allwn briodi fory cyn belled ag y gwn i.

NEL: Priodi fory! Be sy haru'r dyn?

MR. HARRIS: Mi wyddoch o'r goreu be ydi meddwl i; does dim ar y ffordd rwan i ni briodi pan fynnwn. Ond cyn mynd ymhellach mae arnoch chi ddyled o flwyddyn o gusanau i mi. Beth pe baech