yn clirio rhyw gant y funud ma, a chyn diwedd y dydd mi gynhaliwn Jiwbili i glirio'r holl ddyled.
NEL: O'r annwyl! Na, chi ddeydodd rhyw dro mae gwell oedd gadael i ran o'r ddyled sefyll ar gapel er mwyn rhoi gwaith i'r blynyddoedd i ddod; os cadwch chi Jwbili heddyw, fydd gynno chi ddim i neud y misoedd nesa. Ond beth am Marged?
MR. HARRIS: Mae Marged yn fwy awyddus na neb am gymodi â chi.(Daw Ifan a Hopcyn i mewn o'r chwith.)
HOPCYN: Wel, Mr. Harris, rwyn meddwl fod y Nyrs wedi hanner maddeu i Ifan a fi am yr hyn a fu—ond go oer oedd hi am dipyn, yntê Ifan?
IFAN: Ie'n siwr, mi roddodd bum munud go boenus i ni'n dau, ond yn ol ein haeddiant hwyrach. Nyrs annwyl, gwellwch yr hen Jared os oes modd.
HOPCYN: Ie'n wir—mae'r Doctor na wedi torri'n calon ni yn y pentre wrth ddeyd fod Jared mor beryglus o wael.
NEL: Mi rydw i'n fwy digalon na neb ohonoch. Mi ellwch fod yn siwr y gna i ngoreu er mwyn Jared, yr hen greadur annwyl.
MR. HARRIS: Tybed fod y Doctor yn deall i afiechyd o; mi wariwn y ddimeu ola i gael specialist pe gŵyddwn i y bae hynny o ryw lês.
MARGED (daw i mewn o'r dde): Eifion! Mi alwodd y Doctor acw rwan i ddeyd fod arnat eisiau gweld i.