Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth gwrs, ac mi ês yn sâl iawn fel y gwyddoch, drwy ordors Doctor.

IFAN: Yr hen gena drwg gen ti.

JARED: Paid a porthi mhregeth i, Ifan bach, achos ma dy lais di yn y ngyrru oddiar y rêls. Rŵan mi wyddai'r Doctor a'r Scweiar fod Nel yn fy leicioi yn enbyd iawn (peidiwch a phinsio, Nel) a'r funud y clywodd hi mod i'n sâl, dyma hi'n ysgwyd llwch Llunden oddiar ei sgidia ac yn carlamu yma yn y trên i dendio arna i. Wel, dyma hi! yr eneth glysa yn y wlad—roedd yn werth i mi gymryd arna fod yn wael er mwyn i chael hi yma i'r pentre. Rwan am y gusan na, Nel Davies. (Cusanna hi.)Mi nillais hi'n deg.

HOPCYN: Y corgi digywilydd! a fi ac Ifan a pawb bron a thorri'n calon rhag ofn iti farw. Wyddech chi am y tric Mr. Harris?

MR. HARRIS: Dim. Ydach chi'n meddwl y baswn i'n troi yn jeinar yn lle Jared Jones pe baswni'n gwybod?

DOCTOR: Na doedd neb yn gwybod ond y Scweiar a Jared a finnau. Rwyn meddwl y dylai Mr. Harris fod yn fodlon i mi gael un gusan gan Nyrs Davis, achos fi ddaru gynllunio iddynt ddod ati gilydd.

JARED: Howld, Doctor, os rhoith hi gusan ichi, mi ddaw holl brigêd y blaenoriaid yma i fyny am gusan yn cael eu harwain gan General Ifan Wyn.