Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rwan, Mr. Harris, dowch yma a safwch ar y llaw chwith yma; safwch chitha ar y dde Nel Davis, ochr yn ochr a fo. Yn gymaint a bod y ddau hyn eisio priodi â'i gilydd, a chan eu bod yn caru eu gilydd y tu hwnt i bob rheswm, rwyf fi, Jared Jones, Jeinar a Carpentar, ar ran pawb sydd ma yn rhoi caniatâd iddynt i fynd ymlaen at eu diwrnod priodas. Dyna fi wedi cynnig ac eilio, pawb sydd yr un farn,i fyny â'ch dwylo. (Cyfyd pawb eu dwylo.) Welwch chi, Mr. Harris, fe gewch yrru'r gostegion priodas i mewn pan fynnoch chi.

MR. HARRIS (wrth Nel): Dyma nhw wedi'n gollwng ni'n dau rwan o'r groesffordd, ond chi bia'r clod o'u perswadio nhw.

NEL: O, nage, nid fi, ond (annela ei bys at ei wyneb) y pistol galwad hwnnw.

Diwedd