Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bocs. Ond wastio amser ryda ni rwan: gad i ni olchi arni yn o gwic, achos ma hi'n mynd ymhell ar y dydd. 'Run pryd cofia ystyr y gair prentis wrth usio'r plaen—dojio'r hoelion wyddost, ydi'r gamp i brentis o jeinar. (Daw Dafydd Elis y postman i mewn o'r dde efo cadair.) Helo, Dafydd Elis, wyt ti'n mudo i rywle?

ELIS: Mae un o goesa'r gadair ma'n rhydd ers plwc byd, Jared, ac mae rhywrai ohonnom yn y tŷ acw'n eiste arni heb gofio, ac i lawr a ni'n glwt i'r llawr. Fu dim ond y dim i Mr. Harris y gweinidog fynd ar i hyd ar garreg yr aelwyd y noson o'r blaen.

JARED: Cato pawb! peth sad fasa i'r gweinidog newydd gael ei godwm cynta yn dy dŷ di. Ond marcia di ngair i, mae rhywun yn mynd i gael codwm yn y gweithdy ma heno. Diaist i, mi rof Ifan Wyn i eiste arni: watsia di 'rhen grydd yn llyfu'r llawr. Mi gosodwn hi i sefyll y fan yma a golwg mor ddiniwed a'r gloman arni hi. (Gesyd hi wrth y wal ar y chw'ith.) Eiste'n rhywle, Dafydd nes daw'r criw i mewn am scwrs: mae gen i ddrws stabl gŵr y Plas i'w orffen.

ELIS: Dos di ymlaen. Rwy'n credu i mi chwysu digon i nofio man-i-war go lew heddiw wrth fynd a dod, a thrwy ryw anlwc roedd gen i feichiau trymach nag arfer heddiw.

JARED: Ond job go iach, wel di, ydi job postman er hynny, allan yn yr awyr iach drwy'r dydd,