law ag ef yn aur pur. Efeallai iddo gael y cymmeriad hwn am ei fod yn gybydd mawr. Diau mai camsyniad oddiwrth swn ei enw "Parch," "March," neu "Marchog," y cymmysgwyd chwedloniaeth Midas yng nghylch ei ben a'i glustiau. Daeth ei enw i lawr, nid am ei wrthuni, ond am ei fod y penaf o "farchogion" Arthur, y rhai a ddesgrifir i ni fel y rhyfelwyr mwyaf dewr ag a sonir am danynt ar dudalenau hanesyddiaeth. Cyssylltir ei enw yn "Englynion y Beddau" gydag eiddo ei Frenhin, a thâd ei Frenhines, yr hyn sydd yn brawf arall o'i urddasolrwydd. Yn gymmaint a bod yr hen chwedl yn dywedyd ddarfod i Arthur, ar ol iddo gael ei wânu yn farwol gan Medrawd, fyned mewn llong o wydr i wella ei glwyf i "LYN," peth naturiol iawn oedd fod ei "Farchog" yn myned ar ei ol i "LEYN," gan fod "llyn" a "Lleyn" mewn sain mor debyg i'w gilydd, a chan y credid y pryd hwnw fod Arthur yn fyw.
Plas Neigwl.
AR wastadedd Lleyn, gerllaw afon Soch, cyferbyn a Phorth Neigwl, y saif amaethdy tra hynafol, a adnabyddir wrth yr enw hwn. Y mae yr adeiladau presennol i gyd yn newyddion, er y ceisir ein darbwyllo fod ychydig o weddillion yr hen balas i'w weled etto ym muriau y gegin. Ym mhen tua phedwar ugain mlynedd ar ol goresgyn Cymru gan Iorwerth y Cyntaf, rhoddwyd talaeth Lleyn i Nigel de Lohareyn, am ei wasanaeth i'r Tywysog Du ym mrwydr Poitiers. Rhai a ddywedant i Neigwl ei hun fod yn byw yn y Plas hwn; eraill a farnant mai ei fab fu. Beth bynag am hyn, cydunir gan bawb fod
y lle wedi cael ei alw wrth ei enw ef, o herwydd mai ei eiddo ef ydoedd. Y mae sôn ar lafar gwlad i'r hen adeilad gael ei losgi, ond ni ystyriwn y cwbl a ddywedir wrthym yng nghylch y trychineb yn werth ei gofnodi.
V Rhufeiniaid yn Llanengan.
R mwyn hwylusdod i'r anghyfarwydd, a chyfarwyddyd i ieuengctyd ein gwlad, efallai mai nid anghaffaeliad fyddai i ni ddywedyd yn fyr pwy oedd y bobl hyn. Ffurf arall o'r gair Rhufeiniaid yw Romaniaid; ac amlwg ydyw fod y naill fel y llall yn tarddu o Roma, prif ddinas Itali, a chanolbwynt llywodraeth yr holl fyd gwareiddiedig un amser. Er fod yr enw ysywaeth mor hên a Roma, merch Evan (=Evander), o Gaerdroia, etto, yn ol croniclau y Rhufeiniaid, y rhai a gymmerant ond odid yr olaf oddiwrth yr enw cyntaf, rhoddir ni ar ddeall iddynt ei gael oddiwrth Romulus a Remus, dau efell, y rhai a daflwyd ar eu genedigaeth i'r afon Tiber, yr hon, yn ol Florus, a attaliodd ei rhediad, nes i fleiddes (Lupa) ddyfod ym mlaen i dori ei syched, ac yn lle eu llarpio ac yfed eu gwaed, hi a'u dygodd i'w ffau, ac a'u magodd ar ei bronau! Dyma ddechreuad y Rhufeiniaid. Cynnyddasant, a daethant yn eu dydd y gallu cryfaf yn Ewrop. Yr oeddynt wedi darostwng y wlad yma trwy rym y cleddyf flynyddoedd lawer cyn y cyfnod Cristionogol, fel mai yn Rhufain yr oedd ein brenhin yn byw pan y ganwyd ein Hiachawdwr. Math o gaeth-weision oeddym ni yr adeg hono, a byddin Rufeinig wedi ei gosod yma a thraw i edrych ar ein hol. Yng Nghaer-yn-Arfon yr oedd eu gwersyll cryfaf yn y parthau hyn. Hawlient ein holl feddiannau, ac fel gwystl o'u hawl, gorfodent ni i dalu iddynt y deyrnged. Os meddylient am rywbeth a fyddai yn gaffaeliad iddynt fel dinasyddion, yr oedd yn rhaid iddynt ar unwaith ei gael. Dyna y rheswm iddynt ddyfod trosodd, a chymmeryd meddiant o Waith-Plwm-Llanengan. Yn y "Penrhyn Du," ac nid yn "Pant-y-Gwyn Mine," yr ydym yn cael eu holion hwy. Ond nid fel mwnwyr, eithr fel rhyfelwyr yr enwogodd y Rhufeiniaid eu hunain. Profa yr holl gynlluniau a'r olion celfyddydol a adawsant yn argraphedig ar "Waith-y-Penrhyn" y gosodiad hwn. Dengys eu "tyllau" mai lled ddiamcan ac afreolaidd oeddynt yn eu hymchwiliad i'r Deyrnas Ddelfeinin. Ymwrient yn ol ac ym mlaen, heb ddangos fawr o ddeheurwydd na dyfais. Ond dilys genym iddynt gael ysglyfaeth lawer yma er hyn. Nid oes amheuaeth na throsglwyddwyd tynelli o'r plwm hwn, heb na thâl na thôll, drosodd i Rufain at wasanaeth Cæsar. Yr oedd gynt hen ffordd Rufeinig, yr hon sydd etto i'w gweled mewn manau, yn rhedeg o gyfeiriad Llanbedrog i lawr i'r Gwaith hwn, yr hyn sydd yn cadarnhâu fod cyssylltiad rhyngddo â Gwersyllfa y Rhufeiniaid yn Caer-yn-Arfon. Anhawdd nodi allan i'r flwyddyn yr amser y buy dieithriaid yma yn gweithio yn y "Penrhyn Du," ond gallwn sicrhau na ddigwyddodd hyn fawr cyn diwedd y ganrif gyntaf, nac ar ol dechreu y bummed ganrif (O.C.) Arferai y Rhufeiniaid, mewn gwledydd estronol, breswylio mewn Gwersyll. Gan hyny, os byddys am wybod rhywbeth yng nghylch dull y bobl yma o fyw yn Lleyn, gwêl yr hyn a ysgrifenasom am Amddiffynfa Pen-y-Gaer, ac yn arbenig Amddiffynfa Ysgubor Hên, yn ogystal âg "Ara Sepulcri " Câd-lŷs Mynytho.
hen Balasau.
MADRYN, o ran sefydliad, sydd yn dyddio yn ol can belled a dechreu y chweched ganrif; Nanhoron, cartrefle disgynyddion Hywel Dda, brenhin holl Gymru, yn nechreu y ddegfed ganrif; Cefnammwlch, yr hwn sydd adeilad tra hynafol, ond wedi myned trwy lawer iawn o gyfnewidiadau; Saethon, hên gartref llinach Merwydd ap Collwyn, un o Bumtheg Llwyth Gwynedd; Preswylfod Carreg, o âch Tewdwr Fawr y Tywysog; Castell March, ymguddfa yr hên Farchog, fel y desgrifiwyd; Meillionydd, Plas-yn-Rhiw, Bodwrdda, Brynodl, Plas-Llan-WynHoedl, a hên Balasdy Meyllteyrn, yr hwn sydd wedi ei dynu i lawr erys blynyddau. Oferedd fyddai i ni geisio rhoddi amlinelliad cyflawn o'r holl chwyldroadau a'r cyfnewidiadau a ddigwyddasant i'r preswylfeydd hyn o oes i oes, gan nas gŵyr hyd y nod y preswylwyr eu hunain ond y nesaf peth i ddim am danynt.
ben ffyrdd.
YWEDIR mai ychydig wyddai y Prydeiniaid am wneuthur ffyrdd cyn dyfodiad y Rhufeiniaid i'w plith. Ond er fod llawer efallai oddiar y farn yna wedi coleddu y syniad mai Rhufeinig yw yr hen ffyrdd a welir etto mewn manau wedi eu palmantu yn Lleyn, nis gallwn ystyried fod y fath olygiad yn gywir, oblegyd y maent oll, oddi eithr y ffordd oedd yn arwain o gyfeiriad Rhyd-y-Clafdy i Waith Plwm y Penrhyn Du, yn gyssylltiedig a hên balasdai Cymreig, yr hyn sydd yn profi mai at wasanaeth yr annedd-dai hyn y ffurfiwyd hwy, ac felly mai Cymreig ydynt.
Ceir allan yr hên weddillion hynafol yma wrth yr enwau "palmant," " palmant mawr," "pen-palmant," a “hên balmant," ond beth ydyw tarddiad y gair, a'r Hynafiaeth sydd yng nglŷn â hyny, sydd destyn teilwng o ymchwiliad. Cyn y gellir ei ddeall a'i egluro, rhaid gwybod pa fodd y mae ei ddosbarthu, a pha adranau o hono ydynt y gwreiddiau priodol; pa un ai "palm + ant," ynte “pal + mant." Os “palm + ant," pa beth ydyw " palm," &c.? Acos "pal + mant," pa beth ar y llaw arall yw "pal” a “mant? " Rhai ddywedant mai ystyr y gair "palm" yw “llech" neu "faen," ac mai terfyniad enwol yw "-ant," yr hyn sydd yn gosod allan mai o gerryg yr oedd y ffyrdd yma yn cael eu gwneuthur, ond methwn ganfod "palm" yn cael ei ddefnyddio felly yn y tafod-ieithoedd Prydeinig. Yn gyssylltiedig a hyn, nis gellir cymmeryd i fewn “balm-feini” yr Yspaen, y rhai a elwir felly oddiwrth y gair Seisnig "palm-of-the-hand," am eu bod yn debyg i "law" dyn. Ond i osod allan yr amheuaeth, ac i ddangos hefyd nad yw yr ystyr a nodwyd, na'r dosraniad "palm + ant" yn gywir, digon yw dywedyd fod y gair yn cael ei ysgrifenu yn y Llydawaeg yn "palfamant," yr hyn a fuasid yn ddeongli ar yr olwg gyntaf yn “ llawr-wedi-ei-wneuthurgyda-phalfau," er y buasai cymmeryd "palfau" am y rhan gyntaf o'r gair yn gymmaint camgymmeriad â'r hyn a wnaed gyda'r gair "palm." Os oedd yr hên sarnau weithiau yn cael eu gwneuthur o goed, nis gall "palmòne" yr Eidal, na "phawl" (palus) y Cymro fod yng nghorph y gair "palmant." Ond i beidio blino neb gyda throellau afreidiol mewn Hynafiaeth yn y cyfeiriad yma, ni a geisiwn gyrchu yn nês at y nôd. Diau mai y dosbarthiad goreu yw "pal + mant." Cyfarfyddwn a'i darddiad yn y Wyddelaeg "pail" llawr-o-gerryg. Y mae "-mant" yma wedi cael ei adael allan fel peth heb ei eisiau, gan mai terfyniad yw. Etto, y mae y llythyren feddal bh-f-v, gan na seinid hi, wedi ei cholli