Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn "pail," ond gwelir hi yn "pabhail "=pafail, neu pavail. Rhaid cofio mai "pabh-" neu "pav-" yw y gwreiddyn, yr hwn ddaw i'r golwg yn "pavimentum;" terfyniad yw "-ail" yn "pabhail" yn golygu “fel ; " ond swnir " pabhail " yn "pail," neu "pal," yna, "pal + mant," hyny yw “-mant"="-mentum," terfyniad Lladinaidd, yn arwyddo peth o ystyr gwasanaethgar. Felly, ystyr y gair "palmant" yw peth wedi ei guro, neu ei bwyo yn dda. Daw hyn i'r golwg yn pwyell=bwyell=pwywl. Gwir fod Hynafiaeth y gair "palmant" yn Rhufeinig mewn iaith, etto rhaid fod y ffyrdd a adnabyddir yma wrth yr enw hwn o wneuthuriad Cymreig, gan eu bod yn perthyn i sefydliadau, gorsafoedd, neu gyfryngau a ddaethant i fodolaeth ym mhell ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid o'n gwlad.

Golyga y gair "ffordd," "faran," "fahren," fynedfa trwy ddwfr, ym mhlith y Teutoniaid (=“ford"), tra defnyddir ef gan y Celtiaid ar y llaw arall am fynedfa trwy'r wlad. Y ffurf dalfyredig yn y Gernywaeg ydyw "ffor;" ac yn wir yr ydys wedi arfer y gair lawer gwaith yn Nghymru yn y frawddeg fechan hon-" for yma" this way. Felly, a gadael y gair yn neillduolion ei israddau, sefei eithriadau treigliadol, cawn mai ei ystyr gwreiddiol ydyw tramwyfa i gludo pethau; ac nid yw hyn drachefn, yn ei wahanol gyflëadau ieithyddol, yn milwrio yn y mesur lleiaf, yn erbyn yr hyn a ddywedwyd.

Culion ydyw y mynedfëydd y cyfeiriwn atynt o ran eu gwneuthuriad. Nid ydynt fel rheol, ddim mwy na thua llathen o led, ac y maent wedi eu palmantu yn fanwl â cherryg, y rhai ydynt oll wedi eu sicrhau yn yr ochrau gyda meini cymmwys at hyny. Rhaid fod y ffyrdd hyn, fel y gwelir hwy etto mewn manau, yn llawer iawn lletach na'r mesur a nodasom, a bod y " palmant" yn llwybr caled tan draed fel llinell yn y canol. Yr oedd un o'r hen ffyrdd yma gynt yn arwain o Blâs Meyllteyrn i gyfeiriad rhôs Bod-badrig lawr i Blas Llangwnadl, ac un arall o Meillionydd, yr hon oedd yn croesi ffordd Aberdaron ym mhlwyf Bryncroes yn y lle a elwir hyd heddyw "Lôn-penpalmant." Gwelsom weddillion hen ffordd arall wedi ei phalmantu yr un modd, yr hon oedd yn arwain o gyfeiriad Llandegwning heibio, os nad dan sylfaen tŷ Gelliwig, i fyny heibio Coch-y-Moel. Yr oedd cymmaint o barch yn bodoli tuag at yr hen dramwyfa hon, fel yr ydys yn cofio clywed ddarfod i berthynasau y diweddar John Sorton, Ysw., o'r ardal hon, ar ddydd ei gynhebrwng, ddeisyfu caniatâd i agoryd adwy, er mwyn cael cludo ei gorph marw tros tua chàn llath ar hyd yr hen ffordd gyssegredig wrth fyned ag ef i "Dŷ ei Hir Gartref." Pan fel hyn yn chwilio i fewn i'r hen gyssylltiadau oedd rhwng annedd-dai Lleyn â'r cyssegrfëydd lle y byddid yn addoli ac yn claddu, yr ydym yn cael allan fod y "ffordd Eglwys" yn dra thebyg i'r hyn a ddesgrifiwyd genym, fel y gwelir yn olion hen balmant.y ffordd oedd yn arwain o gyfeiriad Llangian i Gapel Gwerthyr, gerllaw Nanhoron, ac mewn manau yng nglŷn â'r hen fynedfeydd i Eglwys Llaniestyn, yn ogystal a lleoedd eraill yn ddiau. Yr ydym fel yma yn cael ein tueddu i ddywedyd ychydig eiriau am yr hen ffyrdd hyn am eu bod mor wahanol i'r rhai diweddar.

bau Llin.

☑ YMUNWN alw sylw y darllenydd at Hynafiaeth y pennawd hwn drachefn. Pe cymmerid y drafferth o edrych i fewn i nawddogaeth, gofal, ac amddiffyniad cyfreithiau ein gwlad mewn perthynas i ddilysrwydd yr holl drafodaeth, a'r rheolau a osodid

i lawr i wneuthur y defnydd a'r drafnidiaeth briodol o'r llysieuyn gwerthfawr hwn sydd wedi bod ar hyd yr holl oesoedd o gymmaint gwasanaeth i ychwanegu cysur at ddedwyddwch dyn, diau genym y buasid yn synu. Y mae hau llin, a gwneuthur defnydd o hono, ym mhlith y Celtiaid, neu ein hynafiaid, yn hynach nag y buasid fyth yn meddwl, fel y cydnabyddir nad yw y Goideliaid a'r Gaeliaid, fel meistri yn y gelfyddyd hyd y dydd heddyw, yn ail i neb; ac fe ŵyr hanesydd yr hen oesau mai nid gwehyddion Flanders fu yn eu dysgu hwy yn hyn o beth. Rhaid y gwyddai hên etifeddion Prydain a'u holynwyr ar gyfandir Ewrop, am ddefnyddioldeb llin cyn y Concwerwr a Harri y Cyntaf, oblegyd sonia Aeschylus am wisgoedd yn cael eu gwneyd o lin tua phedwar cant a hanner o flynyddoedd cyn Crist ar y cyfandir, ac fe gyfeirir yn llyfr Lefiticus at wisg o "lin a gwlan" can belled yn ol âg yn agos i un cant ar ddeg o flynyddoedd cyn hyny, yn yr hen fyd. Dywedir wrthym hefyd yn llyfr y Brenhinoedd fod edafedd llin yn cael ei werthu i Solomon o'r Aipht, yr hyn, gyda'i gilydd, sydd yn gosod i lawr dystiolaeth gref yng nghylch cyffredinolrwydd y gelfyddyd y soniwn am dani yn Neheu, Dwyrain, a Gorllewin tiriogaeth dynolryw yn y cynoesoedd, lle y ganwyd yr hên Geltiaid, ac o'r lle yr ymfudasant i'w tueddau mwy Gorllewinol. Ac anhawdd meddwl eu bod hwy, y mwyaf cyflym, blaenllaw, ac anturiaethus, mewn medr ar ol eu cyfoedion hŵyrfrydig a chartrefol.

Hefyd, y mae ein gosodiad yn cael ei gadarnhâu ym mhellach, trwy fod y gair llin yn holl dafodieithoedd cyndrigolion Prydain Fawr Gwyddelaeg, lin; Gaelaeg, lin; Manawaeg, lieen; Llydawaeg, lin; Cernywaeg, lin; a Chymraeg, llin. Gan fod y Lladinwyr a'r Groegiaid, gyda'u "linum” a'u λινον ("linon”), yn profi bodolaeth a defnyddioldeb y fath wrthddrych yr ochr draw ar ein ffordd i gymmydogaeth ein hên gartref, nis gallwn ystyried fod y geiriau uchod yn ddifeddwl a diddefnydd yn holl adraniadau ieithyddol ein cyndadau, gartref ac oddi cartref, am y fath rifedi o oesoedd, a bod yn rhaid i ni fyned at bobl Flanders i chwilio am ffynhonell tarddiad ein gwybodaeth hyd y nod i hâu llin, ei drin, gwneuthur defnydd o hono, a'i wau. Etto, yr ydym yn ddigon parod i gydnabod ddarfod i'r gwehyddion crybwylledig ddwyn yn ddiau ddiwylliad i fewn, ond nid y cwbl; oblegyd darllenwn am "rwyd o lin," "hidlo trwy lin," "nenfwd o lin," "sach o lin," "cynfas o lin," &c., ym mhell cyn eu dyfodiad hwy, ac efallai mai o lin y gwneid tannau y delyn ar y cyntaf, fel y mae rhai Hynafiaethwyr yn barnu.

Heblaw hyn, dengys y frawddeg, "y saeth o'r llin-yn," fod llin yn un o anhebgorion y bwa mewn rhyfel, a "llin-yn pysgota," fod llin i'r hên Gymry ar lan eu hafonydd yn ddefnyddiol i ddal eu brithylliaid. Y mae "llin-clwm" yn y Deheudir yn air diarebol am glymiad anhawdd ei ddattod, yr hyn sydd wedi ei fenthyca oddiwrth yr arferiad o glymu llin wrth ei gilydd. Pan y byddent yn myned i weinyddu cospedigaeth am gamymddygiad, gwnaent gordyn o lin, gosodent ef am wddf y drwgweithredwr, tynent ef yn dynach, ac ychydig etto yn dynach, nes ei dynu yn y diwedd i edifarhâu am ei ddrygioni, a galwent hyn yn "llin-dagu." Wrth olrhain gwahanol berthynasau y teulu, a rhoddi ach wrth ach, nis gallent ddychymygu am un gair mwy dealladwy am hyn o un cyfeiriad, nag oddiwrth yr arferiad o roddi llin yn gyfrodaidd, ac ar ol trin a throsi felly yn eu meddwl, galwent eu bonedd yn "llin-ach," neu "ach-lin." Oddiwrth eu galwedigaeth a'u gwybodaeth yng nghylch "quê" o lin, a "gwau" llin, y tarddodd hefyd "gwehelyth," sef "gwê,” a "helyth"= hil; hyny yw, wrth hyn yr ystyrient pa fodd yr oedd eu llinach yn cael ei gwau.

Wrth fyfyrio uwchben yr holl ffeithiau uchod, heb flino neb gydag ychwaneg o honynt, tueddir ni i gredu fod y gelfyddyd o wau ym mhlith yr hên Gymry yn hynach nag y mae neb yn feddwl. Beth bynag am hyn, ystyriem hi yn annhêg â'n cenedl i beidio gosod i lawr yr hyn a wyddem yng nghylch ei medrusrwydd yn y cyfeiriad yma; a'r hyn a'n harweiniodd i chwalu ychydig ar y niwl yn y maes hwn, ydoedd yr hên arferiad o hau llin yn Lleyn. Tuag Ebrill a Mai yr oeddent yn ei hau, a byddent yn ei fedi yn mis Medi. Tyfai yn gorsenau sythfeinion, ac yr oedd ei ddail o liw llwyd-wyrdd. Pan yr oedd tua dwy droedfedd neu dair o uchder, ymranai yn gorsenau hir-feinion, ar flaen y rhai y tyfai blodau bach gleision, ac yr oedd y rhai hyn yn cynnyrchu llestri yr hâd, yr hwn a ddosberthid oddi fewn gan ddeg o gelloedd bychain, y rhai a gynnwysent yr had hir-grwn a elwir yn gyffredin "had llin." Mawr oedd y difyrwch a'r pleser yn yr hên amser gynt, pan yr oedd trigolion Lleyn yn trin a thrafod y llysieuyn gwasanaethgar hwn yn eu meusydd prydferth, lle y dangosent eu cywreinrwydd gyda'i hau, ei fedi, ei gynnull, a'i sychu ar odynau bychain, y rhai sydd i'w gweled yma hyd y dydd heddyw mewn manau. Canfyddir y droell bach, gyda'r hon yr oeddid yn ei nyddu, mewn amryw anneddau etto yn Lleyn. Ond er fod y gelfyddyd o'i amaethu wedi darfod yn yr ardaloedd hyn, a'r gân hwyliog wrth ei nyddu wedi tewi, etto,

Mae edeu lin, Gan bawb yn Lleyn, Er canu'n iach, I'r dröell bach.