LLEYN.
Gair am y Cynaniad.
DYMA un o'r enwau mwyaf swynol yng Nghymru. Yr wyf yn cofio am dano er pan yn blentyn, er na wyddwn ym mha gongl o'r ddaear yr oedd y lle hwn y pryd hwnw, ddim mwy na'r dyn yn y lleuad, os oes yno ddyn hefyd. Yn fy anwybodaeth bardduawl, arferwn gynanu, neu seinio y gair yn ol cymmaint of ddeddfau grammadegol âg a wyddwn i am danynt ar sail llafariaid a chydseiniaid, ac mi fyddwn yn swnio Lleyn yn llein-nis gallaswn ddychymygu am ei alw yn ddim amgen na "llein," ond wedi gadael canolbarth tawel Ceredigion, a dyfod i blith trigolion croesawgar deheu-barth Swydd Gaernarfon, cefais allan ar unwaith mai nid "llein" oedd Lleyn. Ac Os oes yna Gymro etto tua gororau pellaf Gwyllt Walia yn cadw at swn pob llythyren mewn gair mor fanyl-graff â'r Lladinwr ei hun, dymunaf ei hysbysu nad yw y bobl yma yn darllen nac yn llefaru Lleyn yn llein," neu yn ol swn y gair "Ülein," eithr yn hytrach er syndod i Faglor Čelfau yr ysgolig lythyrenau, swnir y gair yn Llŷn, bron fel y gair "lun," ond fod sain yr "y" yn Llŷn (=Lleyn), fel yr "y" yn dyn.
Tarddiad yr Enw.
BU llawer o gwyno erys ychydig amser yn ol, am na fyddai yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod un oes, yn rhoddi un testyn tebyg i hwn:—
Geir-darddiad, Ystyr, Hynafiaeth, a Phob Manylion Arall o Werth i Lên, Celf, a Gwyddor, mewn perthynas i Enwan Lleol y Sir, yn yr hon y cynhelid yr