Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Dull hen o few.

MAE y dull o fyw wrth Helwriaeth yn hên

iawn; ac nid ydym yn meddwl y byddwn yn myned ym mhell y tu hwnt i'r nôd, pan y credwn fod gormod o'r helwriaethol yn gorwedd wrth wraidd rhyfeloedd yn hên oesoedd tywyll y ddaear. Yma yr oedd bywyd yn ymddibynu ar yspail ac anrhaith. Ond, wedi hir ddisgwyl, yng nghanol y caddug tew, dacw Cyfiawnder yn diosg ei fraich, ac yn ei hestyn allan yn erbyn y waywffon oedd wedi ei lliwio gan waed, a chyda theyrnwialen ei drugaredd, gwelwn ef yn arwain dyn adref at fam ei holl gysur, sef y briddell o'r hon yr hanodd, a'r hên ardd oedd erbyn hyn wedi myned yn anialwch llawn o ddrain, mieri, a bwystfilod, ac a geisiodd adgofio iddo rai o hên wersi ysgol Eden, yng nghylch ei ardd, a'r modd oedd iddo "i'w llafurio, ac i'w chadw hi." Ond yr oedd ei “Hên Ddull o Fyw" yn ei anialwch fel "bachgen drwg," mewn fath anghof mawr o'i ardd, ac o hono ei hun, wedi ei wisgo, neu yn hytrach ei lapio a'r fath garpiau, a gorchuddio ffenestri ei feddwl a'r fath lèni o dywyllwch, fel mai tra hŵyrdrwm ac araf y mae yn gallu gwneyd, gwrthwneyd, a dadwneyd gyda chwynu ei efrau, a chofio ei hên wersi. Dyma wirionedd yn Hynafiaeth Lleyn fel pob gwlad arall, pan y mae ei bod dynol yn dychwelyd, ac yn dechreu cyfeirio ei gamrau i'w hên ysgol.

Y peth cyntaf a ddaw i'w feddwl ydyw "twdd," sef yr hyn sydd yn tyfu o'r ddaear; ac ar ol ffurfio llecyn at ei wasanaeth, geilw ef "tyddyn" darn bychan y "twdd." A chan mai pur anfuddiol fyddai iddo ef ei "dwdd” heb ei “dŷ," meddylia am adeilad, a geilw ef "tig" tego gorchuddiaf. Ym mhen amser gadawodd y Cymro yr g allan yn "tig,” ac

"bo"

ysgrifenodd ef yn "ty," tra yr argrephir y gair gan y Gwyddel hyd y dydd heddyw yn "tig," er ei fod yn cael ei swnio ganddo yn "tŷ." Fel y dengys "eilio," ac "ad-eilio," yn y gair "adeilad," "gorchudd" oedd y "tig" o goed plethedig, wedi ei doi â dail, hesg, brwyn, &c. Diweddar mewn cymhariaeth ydyw tai o bridd a cherryg. Yr enw ganddo ar fuwch ydoedd neu "bov," fel y gwelwn yn eglur oddiwrth y gair "beu-dy" buwch-dy; ac fe'i galwodd yn “bo” yn ddiau oddiwrth ei swn yn brefu. Ond odid mai oddiwrth "bo" buwch y ffurfiodd y gair "beichiad," "bwch,” “ebychiad,” ac efallai "bo" y dychrynwr, yn ogystal a "bw-" yn "bwgan.” “Mòch” a “hùch” hefyd a enwodd oddiwrth swn y creaduriaid eu hunain. "Cor" y galwai "ddafad," fel y gwelwn etto yn "corlan" a "corgi." "Migi-moga" oedd ei “i-gàm-o-gàm.” “Es-guit"="is-goed" y galwai ei "esgidiau,” am fod eu "gwadnau" o "goed." "Cen" y galwai ei "ben," yr hyn sydd yn dyfod i'r amlwg yn y gair "talcen." "Llof" y galwai ei "law," fel y mae "llof" yn "llofrudd" genym ni, sef “llof"= llaw, "rhudd"=coch, hyny yw, "llaw-goch." oedd ei ddull yn byw yn rhyfedd, ond yr oedd ei ddull yn siarad yn naw cant rhyfeddach. Wrth sôn am y ddaear, geilw hi yn "di-ar"=di=i (tebyg i'n blaenddawd diweddar ni, sef, "dy-"), ac "ar," h.y., peth "i'w aru." Gorchwyl bychan oedd dywedyd "iw aru," ond nid mor hawdd ydoedd gwneuthur hyny mewn amser mor dywyll, a gwlad mor anial. Gan mai "pawl” oedd ei “bāl"=pālus, hawdd dychymygu mai ychydig oedd yn "balu;" ac mewn brys gwyllt, aeth "tiar" ganddo'n "tir." Fel hyn, gan mai "coed" oedd ei dŷ, a "phawl" oedd ei bâl, ac mai “iscoed" oedd ei esgidiau, dacw ef yn ol ei arfer, o'r diwedd, yn gwneuthur aradr goed, ac yn ei galw yn "gwŷdd." Llawer iawn a rwygodd efe o'r hên ddaear yma gyda hon-mwy o lawer nag a wnaed â'r aradr haiarn. "Bar-lŷs" oedd ei " lysieuyn bara,"

Yr

دو

[ocr errors] ac yr oedd yn hynod o ofalus gyda hwn. Ar bwys ei "fara-lys" gwelwn ei feddwl yn rhedeg megys mewn un llinell gywir trwy y geiriau "ha-ul,” “hâu,” “hâd,” “haf” "cyn-gau-haf" cyn gauaf cynauaf, a "chyn-gau-hafu" cynauafu. Mawr oedd ei ffwdan gyda'i "gynauafu." Gan mai "callestr" oedd ei "gyllell," tueddir ni i feddwl mai “maen crwm" o'r un defnydd oedd ei "grymman," gan na wyddai etto am haiarn. Torai ei ŷd fel yr ydys yn awr yn llifio pren. "Ys-cib," neu "ŷd-fwyd" oedd ei "ysgub," a'r "ysgub" oedd ei "ysgubell," a llawr ei "ysgubau oedd ei "ysgubor." Yr oedd mor ofalus, ac mor hoff o'i "fara-lŷs” fel mai a'i “ddwrn” yr oedd yn “dyrnu.” Y "gwynt" oedd ei "wyntyll," ac “atan” “y tân” oedd ei "odyn." Ei "gûch" ydoedd "ceubal," sef "pawl" mawr wedi ei wneuthur yn "gau," neu yn “wâg” gan dân. "Carreg" oedd ganddo yn malu, a galwai hi “ breuan," am ei bod yn gwneuthur ei ŷd iddo'n "frau.” "Carreg" hefyd, neu "lech" fechan oedd ei "bobdy," fel y gelwir rhyw fath o fara mewn rhyw fanau yng Nghymru hyd y dydd heddyw yn "Pren" oedd ei "fara llech." lyfr," ac arno y naddai ei eiriau, fel y sonir etto yn aml yn ein plith am "dori enw." Pren oedd ei lwy, a phren oedd ei gwpan. Wrth rifo ei fysedd yr oedd yn gallu rhifo ei ddefaid, a chan nad oedd ganddo ond deg bys, nis gallai rifo ym mhellach na deg, heb ail-ddechreu, a chyfrif ei fysedd drachefn. A rhywbeth yn debyg yr oedd hefyd yn mesur; oblegyd oddiwrth "fêdd” ei "ewin" y cafodd ei "winfedd"=ewin-fédd. Oddiwrth ei "ewin" ai ym mlaen at "fêdd” ei “fawd," a galwai hwnw yn "fodfedd." Fel hyn y mesurai yn fanwl holl gonglau ei bethau bychain. Pan yr oedd arno eisiau mesur pethau mwy, tynid ei sylw at ei law, a meddyliai am "fêdd" ei "ddwrn;" yna galluogid ef i fesur gogymmaint a hyny, a galwai ef yn “ddyrnfedd." Ond oddiwrth ei law a'i fysedd, arweinid ei olygon at "fêdd" ei "droed," ac felly, mesurai

[ocr errors] "droedfedd." Ei "wryd" hefyd ydoedd "hyd gwr"pob peth mewn distadledd a symlrwydd.

Na anghofied neb iddo fod unwaith yn blentyn, ac na ddiystyrer ddydd y pethau bychain; oblegyd er mor syml a phlentynaidd yr ymddengys yr Hên Ddull uchod o Fyw a gweithredu, trodd allan yn sylfaen egwyddorion prif gelfyddydau y byd, fel yr achosodd deddf planed fechan afal Newton iddo weled ynddi, megys mewn drych, ddeddf holl blanedau yr eangder.

Coelcerthi Calan Gauaf.

R ol casglu yng nghyd holl ffrwythau y cynauaf, ac wedi i awelon Hydref chwythu ymaith ddail y coed, y mae yn arferiad ym mhlith plant y werin yn Lleyn, i fyned i ddifyru eu hunain gyda chynnull pob math o frigau crinion o'r perthi, yn ogystal a rhedyn ac eithin, y rhai a losgant ar hyd ochrau y bryniau, a lleoedd amlwg eraill, ar Nos Calan Gauaf. Tra y mae y tân yn esgyn i fyny, ac yn goleuo trwy gaddug y fro, cenir hên ganeuon ganddynt,-yna, dechreuir chwareu, yr hyn a ddiwedda yn gyffredin gyda thaflu rhywun i'r tân, os na fyddys yn ofalus.

Deallwn fod y cyfryw arferiad yn cael ei ddwyn ym mlaen yn y Werddon, lle, nid yn unig y gyrir y gwartheg trwy y tân crybwylledig, er sicrhâu eu diogelwch am y flwyddyn ddyfodol, ond y diffoddir hefyd y tấn ar yr aelwyd, ac y cynneuir ef drachefn âg ychydig farwor o'r Goelcerth. Felly hefyd yn yr Alban. Yn lle myned trwy y tân, fel y gwneir gan y Gwyddelod, darperir yno deisen fawr gogyfer â phawb a ddeuant i'r wyl, yr hon a dorir yn gynnifer o ddarnau ag a fydd rhifedi y cynnulliad. Rhwbir un o'r darnau hyn a golosg nes y bydd yn berffaith ddu, a rhoddir ef yn gymmysg â'r holl ddarnau eraill mewn penwisg; yna, tyn pob un, wedi gorchuddio ei lygaid, ddarn allan, a phwy bynag a dyno y dernyn du fydd y person a ddiofrydir i neidio dair gwaith trwy y fflamau, gyda'r hyn y terfynir y ddefod.

Gelwid y tân hwn gan drigolion parthau mwyaf Gorllewinol Prydain yn "Tine-Beil." Ac efallai y gwelwn gyssylltiad dansoddol rhwng yr enw Celtaidd hwn a "Baal" y Phoeniciaid, yn ogystal âg Apollo tir Groeg, gan gofio mai yr ieuengaf fel rheol sydd yn benthyca geiriau oddiwrth yr hynaf. Rhý anhawdd, erbyn heddyw, ydyw gwybod gydag un math o sicrwydd beth allasai fod amcan Coelcerth Ap Haul. Rhai a feddyliant, oddiwrth yr arferiad diweddar o geisio taflu un i'r tân, a rhedeg trwy'r fflamau, ei bod yn arferiad yn yr oesoedd tywyll a aethant heibio i aberthu bodau dynol i Ap Haul. Os felly, rhaid i ni gredu fod ein cyndadau mor llygredig ag addoli Moloch, neu o'r hyn lleiaf, y peth tebycaf ag a wyddom am dano i hyny. Eraill a farnant fod y tân yn cael ei wneuthur yn benaf i goginio bwyd a gwneuthur gwlêdd, fel y gellir casglu oddiwrth arferion y Gaeliaid hynafol yn ucheldiroedd yr Alban, a bod y gwahanol gampau y soniasom am danynt wedi llithro i fewn, a'u mabwysiadu er mwyn difyru y gwyddfodolion, er mai ychydig o'r "Pedair-Gamp-arHugain" a welwn ganddynt mewn arferiad yn y ddefod.

Ond i geisio rhoddi mwy o foddlonrwydd yn ein harchwiliad, gan fyned heibio i'r syniad fod y tân hwn yn goffadwriaeth am "Frâd y Cyllyll Hirion," ni a ddeuwn yn nês at ffurf Gymreig yr enw, fel y mae wedi cael ei osod i lawr genym yn y pennawd. Yr hyn a olygir yn gyffredin yng Nghymru wrth "Goelcerth" ydyw tanllwyth, neu wenfflam; ond y mae yn amlwg oddiwrth y gair ei hun mai meddwl israddol ydyw hwn, wedi ei fenthyca oddiwrth olygfa