Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y tân; oblegyd nid oes amheuaeth nad yw y gair yn cael ei wneyd i fyny o "coel" a "certh." Cytunir mai ystyr "coel" ydyw "arwydd,” neu “gréd;" ond y mae cryn amheuaeth yng nghylch arwyddocâd y gair "certh." Os mai ansoddair yw yr olaf, dylasai yr "c" fod yn "g," gan mai sylweddair yn y rhyw fenywaidd ydyw "coel"-yna, byddai yn "coelgerth," yn ol priod-ddull diweddar yr iaith Gymraeg. Felly hefyd y dylai y gair fod, os mai enw cadarn ydyw "certh;" oblegyd ni ddywedwn "coelpren," ond "coelbren," yr hyn sydd ar unwaith yn profi fod diwyg y gair "coelcerth" yn hynach na Chystrawen bresennol ein hiaith; ac felly, rhaid fod y ddefod dan sylw yn arwain ein meddwl at arferiad oedd yn bodoli yn y cynoesoedd. Meddwl y gair "certhain" yw "ymladd," neu "ryfela," a diau ei fod wedi ei ffurfio oddiwrth "certh" yn "coelcerth," am y byddai ein cyndadau yn arfer cynneu tân ar ben y mynyddoedd yn arwydd fod y gelyn yn neshâu, ac yn rhybudd i bawb i ymbaratôi i ryfel; ond y mae lle i farnu fod arwydd y "Goelcerth" yma wedi cael ei gymmeryd oddiwrth "Goelcerth" fwy hynafol, er fod yr swydus" yn dyfod i'r golwg yn amlwg yn y ffurf Gymreig. Mwy na thebyg mai ystyr gwreiddiol "certh" ydyw "tân,” neu “tân-fwdwl," a bod "certhir" a "carthu" yn tarddu o hono, fel “puro” o “pur,” neu "pyr"=tân. Gellir cyfrif am y gwahanol ystyron eraill, naill ai oddiwrth yr effaith, neu y perygl sydd yng nglŷn a'r elfen ysol yma. Felly, ar bwys ein harchwiliad manwl mewn defod ac iaith, y peth agosaf y gallwn ddyfod ato yw, fod yr hên "Goelcerth" yn arwyddlun o buredigaeth, diogelwch, a llwyddiant, ym mhlith yr "Hên Gymry" cyn dyfodiad yr Efengyl i'n gwlad, a bod y syniad wedi cael ei fenthyca oddiwrth yr arferiad o ddiffodd tân ar bob aelwyd, a'i ail-gynneu gyda'r Tân Cyssegredig oddiar Allor y Derwyddon yn nechreu mis Tachwedd.

"ar

"Pig Ustryd," Llanbedrog.

WRTH ymddiddan û hên bobl y gymmydogaeth hon, sonir mwy wrthym am ryfeloedd yn eu hardal nag un lle arall yn Lleyn; ac y mae eu henwau lleol yn profi hyny, megys Bodlas Tyddyny-Lladdfa; Cytiau Cenawon=Bythod Ysglyfaethwyr; Gadlys Llys-y-Fyddin; Bodgadle=Tyddyn-Maesy-Frwydr; a Rhydyclafdy, sef yr Afonig, lle yr oedd y clwyfedigion yn cael eu glanhâu, a'r Tý lle yr oeddynt yn cael eu meddyginiaethu. Ac er fod lle i amheu yr hyn a ddywed Traddodiad yng nghylch yr olaf, gyda golwg ar reolau hynafiaethol cyfluniad Cystrawen yr enw, a'r ffeithiau cyssylltiedig a hyny, etto, rhaid cofio y gall ffurf ddiweddaraf iaith gyfeirio at wirionedd hynach, yr hyn nid yn unig yw ei rhesymol wasanaeth, ond ei gwasanaeth bob amser. Heblaw hyn, a chaniatâu fod enw Rhydyclafdy yn ddiystyr yn y cyfeiriad hwn, llefara diwyg hynafiaethol yr holl enwau eraill am ryfel yn y cwmmwd yma yn fore iawn. Nid awn i son am ystranciau Rhodri a Maelgwn; ac er fod y Trioedd yn cyfeirio at frwydrau teulu "Belyn o Lŷn," rhaid fod yma ryfeloedd ym mhell cyn hyny.

Y mae yr hyn a ddywedasom am Segontium, Ara Sepulcri Tir Llosg Cae Cerryg, a Gwaith Plwm Llanengan, yn cadarnhâu ein gosodiad ddarfod i'r Rhufeiniaid ymweled ac hefyd ymsefydlu yn y rhandir hon, yr hyn ni ddigwyddodd yn ddiau heb gryn lawer o dywallt gwaed; a pha le bynag y cynniweiriai canlynwyr yr Eryr, yr oedd ganddynt yno eu ffyrdd, y rhai, er syndod efallai i fabon mewn Hynafiaeth, a elwid yn " Ystrydoedd," megys "Ystryd Watling," yr hon oedd yn cyrhaedd o Lundain i Sir Fôn; "Ystryd Ikenild" (Iceni), yr hon a gyrhaeddai o

Great Yarmouth i Gernyw; "Ystryd Ermyn," yr hon oedd yn ymestyn o Ddwyreinbarth yr Alban i Lundain; ac "Ystryd Ryknield," yr hon oedd yn cyrhaedd o Dy Ddewi (Menavia), i enau y Tyne. Gan fod hyn yn ddigon i atteb y diben sydd genym mewn golwg, heb fyned i fanylrwydd pellach yng nghylch y gweddill o'r ffyrdd hyn, ni a grybwyllwn fod dysgedigion yn barod i wneuthur archwiliad am olion Rhufeinig, os deuant i gyfarfyddiad a'r gair, neu yr enw " Ystryd" mewn parthau gwledig.

Yn awr, gadawer i ni gymmeryd i'n hystyriaeth "Pig Ystryd," Llanbedrog, i gael gweled a ddeil y gosodiad ei brawf. Mewn pwnc o Hynafiaeth, diweddar yma yw yr holl adeiladau. Anfynych y mae un pentref a "heol" ynddo yn myned dan yr enw "Ystryd." Gwir fod yma bentref bychan, ond nid oes ynddo gymmaint ag un "Ystryd;" gan hyny, nis gallasai y lle hwn gael ei enw oddiwrth hyn. Felly, tra afresymol fyddai galw "pentref" yn "Ystryd," heb gymmaint ag un " Ystryd" ynddo! A gwneyd y gair Cymraeg "pig," yn air Seisnaeg, a'i gyfieithu yn "fochyn!" Ond heb ymdroi gyda ffaeledd a ffoledd, ni a geisiwn gyrhaedd at wreiddyn y mater. Tadogir y gelfyddyd o ddechreu gwneuthur ffyrdd yng Nghymru i'r Rhufeiniaid (er fod yma ffyrdd cyn hyny), ac y mae ol eu llafur yn y cyfeiriad hwn i'w weled yn argraphedig ar ein gwlad mewn manau hyd y dydd heddyw. Eu canolbwynt mwyaf pwysig yn y parthau yma ydoedd eu Gorsaf Filwrol yn Caer-yn-Arfon, i'r hon yr oedd ganddynt ffyrdd o gyfeiriad Caergybi, Caer, a Chaer Chaer Gai yn y Bala. Arweiniai eu ffordd o'r Bala i fangre a elwir “Tomen Fawr," lle yr ymranai yn ddau benäi un trwy Feddgelert i'w Caer yn Arfon, a'r llall trwy Dolwyddelan i'r un lle. Deallwn iddynt agoryd ffordd hefyd o'u "castra" yn Segontium i Leyn, yr hon a ddaw i fewn yn Rhydyclafdy, ac a ä ym mlaen i'w "castra" yn Cilan. Yr hen air Rhufeinig am y ffyrdd hyn, yn cael ei ddilyn gan "via" yn ddiau, ydoedd "Strata," ac oddiwrtho ef yr ydym wedi cael "Ystryd." Fel yr ydym yn clywed ddarfod i derfyniad y "Strata" sydd yn arwain o Gaer Gai i Drawsfynydd gael ei alwyn "Ben-y-'Stryd," felly y cafodd y pentref sydd wrth "ben” y “Strata " sydd yn tywys o Rydyclafdy ei alw yn "Pig Ystryd;" hyny yw, nis gellir rhoddi gwell cyfrif, nac un rheswm priodol tros fod y pentref hwn yn cael ei alw yn " Ystryd," na'i fod wedi cymmeryd yr enw oddiwrth yr hên “Strata" Rufeinig, yr hon oedd gynt yn rhedeg yn ddidor heibio Nantcastell i lawr i Abersoch, ac oddi yno, fel y dywedasom, i fyny i'w Gwersyll gerllaw Gwaith Plwm Llanengan. Ar ol agoryd y ffordd yn y gwaelod gyferbyn a Nantcastell, ym mlaen heibio Llanbedrog i Bwllheli, cauwyd i fyny hên ddarn y "Strata" oedd yn arwain i fyny heibio Nantcastell i "Pig Ystryd," ond gellir gweled ei hol yma etto yn eglur mewn manau. Felly, ymddengys fod yr Ystryd Rufeinig yn y fangre hon yn hynach o lawer na'r pentref, a bod ei enw yntau yn gofgolofn o'r ffaith.

[ocr errors] Ond hyd yn hyn, nid ydym wedi gwneuthur nemawr sylw o'r gair "Pig," yr hwn a osodir i lawr ym mlaenaf yn enw yr "Ystryd;" ac nis gallwn ystyried fod cyssylltiad neillduol rhyngddo a “pig” neu "pike" yn "turnpike," nac ychwaith a “pig” neu "pick" y mwnwyr, er fod y ffordd yn myned i'r gwaith mŵn a enwyd; a byddai ei ddirwasgu i'r gair "picell" yr un mor annhêg. Diau mai "Ystryd oedd yr hên enw; ond wedi cau darn o'r hen "Strata" i lawr o "Pig Ystryd" heibio Nantcastell i ffordd Abersoch, yr oedd " terfyn" yr " Ystryd," yn y pentref, a galwyd ef o ganlyniad yn "Pig "= "pen," neu " bwynt" yr " Ystryd." Hawdd y gallesid mabwysiadu y gair "Pig" yn lle "Pen," am fod y meddylddrych o gasineb efallai yn gorwedd wrth ei wraidd, yr hyn ddaw i'r golwg, naill ai oblegyd i'r

ffordd fod unwaith yn eiddo ein gelynion, neu ynte o herwydd y drafferth a gafwyd i'w chau yn y lle y cyfeiriasom ato.

Oddiwrth yr hyn sydd yma dan ein hystyriaeth, yr ydym yn cael ein harwain rhag blaen at

Amddiffynfa Pencastell.

MES MESURA y Wersyllfa hon tua phum-cam-ar

hugain o led, ac oddeutu pum-cam-a-thriugain o hyd y tu fewn i'w muriau, y rhai ydynt erbyn heddyw wedi cael eu chwalu bron yn gydwastad a'r llawr. Gwir nad ydyw o ran maintioli yn haeddu cael ei gosod ochr yn ochr gyda lluaws o Amddiffynfeydd eraill yn Lleyn; etto, y mae ffurf ei hadeiladaeth, a safle ramantus ei gwneuthuriad, yn hawlio nid yn unig edmygedd yr edrychydd, ond ystyriaeth fanylaf yr efrydydd. Y mae y bryncyn, ar yr hwn y saif, wedi cael ei naddu bob ochr yn ddwfn gan natur, yn debyg i big neu saeth, ac felly yn hynod o fanteisiol i wneuthur gwrthsafiad diysgog yn erbyn y gelyn. Gorwedda y saeth ddaearol hon gydag un pen yn cyfeirio i'r Gogledd, a'r llall yn cyfeirio i'r Deheu, ac arni y saif y Castell. Gellir canfod yn amlwg fod yr ochrau Dwyreiniol a Gorllewinol yn cael eu hamddiffyn gan furiau pridd, ond y mae yr ochr Ddeheuol yn benagored, am y prif reswm fod Caer ofnadwy y Saeth Ddaearol hon fan yma yn amddiffyn ei hun, o herwydd fod trwyn y dibyn mor serth.

Barnwn fod cymmaint a ddesgrifiwyd o'r Amddiffynfa o wneuthuriad Celtiberaidd, ac wedi bod o wasanaeth yn erbyn y Cynwys. Rhaid fod Geirhaniaeth Tin-gwmmwd hefyd yn perthyn i'r cyfnod hwn, ac yn maentumio tarddiad Goidelaidd. Ystyr