cyntaf y gair "Tin” ydyw "cau i fewn,” ac y mae y mynydd yn hollol gyfatteb i'r desgrifiad hwn, gan ei fod yn cael ei "gau i fewn" gan y môr a'r cwm sydd o'i amgylch. Felly, oddiwrth y meddylddrych o "gau i fewn" y daeth "Tin" i olygu " Amddiffynfa," yr hyn sydd yn portreadu i'r holl fynydd hwn gael ei ddefnyddio unwaith fel Amddiffynfa; a bod Tŵr Pencastell yn fath o Wylfa (watch-tower) mewn llawn arfogaeth i warchod y gelyn i groesi y cwm; ac nis gwyddom am un lle yn yr holl gymmydogaeth, ag a fuasai yn fwy cyfaddas i'r cyndrigolion i redeg â'u praidd a'u trysorau iddo i'w diogelu, na Tin-gwmmwd, yn amser gwrthryfel.
Ond, gan adael ei hên amlygiadau cyntefig, yng nghyda'u cyssylltiadau, ni a ddychwelwn i roddi ychydig o'r manylrwydd yng nghylch adran Ogleddol yr Amddiffynfa dan sylw. Yma y gwelwn olion dim llai na thri o furiau llydain wedi eu gwneuthur o bridd a cherryg, gyda dwy rigol ddofn (fossa), un tu allan, a'r llall tu fewn i'r mur cyntaf. Diben y diffynweithiau hyn ydoedd diogelu y Castell, am fod safle y tir yn fwy manteisiol i wneuthur ymosodiad yr ochr hon. Ystyriwn mai ffrwyth llafur a dyfais y Rhufeiniaid a welwn yma; oblegyd dywed Sallust eu bod yn sicrhau eu Caerau gyda mur a ffôs"= "circumdare moenia vallo atque fossa." Diau i'r brodorion o Rufain gymmeryd meddiant o'r Amddiffynfa hon, pan yn gwneuthur eu "Strata" i lawr i Abersoch, ac ychwanegu at ei chadernid blaenorol.
Mwy na hyn, canfyddwn adeilweithiau bychain o gerryg, tu fewn i'r Caer, yn yr ochr Orllewinol, y rhai ydynt yn dra thebyg i'r hyn a welsom yn Carn Madryn a Thre'r Ceiri, ac y maent o ran eu gwneuthuriad yr un fath â'r anneddau milwrol a ddefnyddid yn yr Amddiffynfeydd yn amser Owen Gwynedd, yr hyn sydd yn ein harwain i gyfnod diweddarach, ac yn ein rhoddi ar ddeall ddarfod i'r hên Gastell hwn fod eilwaith o wasanaeth yn y dyddiau blin hyny.
“V Clawdd Mawr."
MAE ychydig o'r hên ddiffwyn hwn i'w weled etto ar y terfyn rhwng y Rhandir a Bodwi. Gwelsom olion cyffelyb iddo yn Cilan ar dir Bwlch-yClawdd; ac yr oedd ei faint arswydlawn, yn enwedig yn y lle olaf, yn dwyn ar gof i ni "Glawdd Offa" rhwng Cymru a Lloegr, a "Chlawdd Severus" rhwng Lloegr a'r Alban. Mesura mewn manau tua deg llath o led; ac nid oes amheuaeth yn ein meddwl nad ychydig o weddillion gwrthglawdd y Rhufeiniaid ydyw, yn erbyn pobl Lleyn i adfeddiannu Gwaith Plwm y Penrhyn Du, Porthladd Abersoch, ac i'w hattal rhag gwneuthur difrod ar y "Strata" oedd ganddynt yn dyfod i lawr o "Pig Ystryd i'w gweithfa. Wrth reswm yr oedd yn ofynol iddynt gau i fewn ryw gymmaint o dir at eu gwasanaeth; ac felly, rhoddent y "Cymro Dewr" tan ei rybudd i beidio chwareu ei ystranciau yn hwy, nac i ymyraeth o gwbl a "bonus-bona-bonum" eu hanrhaith tu fewn i linell y terfyn.
[ocr errors] Ond wedi hir ddisgwyl yn ei anobaith a'i ofnau, dacw y "Cymro Dewr" yn tori trwy y "Clawdd Mawr," gan ei chwalu, a chymmeryd meddiant o'i Blwm a'i Borthladd. Yn gymmaint a bod y tir wedi bod yn eiddo arall am ugeiniau o flynyddoedd, y mae yn barod i'w ranu rhwng ei gydfrodyr; a diau mai oddiwrth y weithred hon y cafodd tyddyn y Rhandir ei enw.
Hefyd, ymddengys mai gair Rhufeinig yw " sela" yn Aber-sela; ac ysgrifenir ef yn Gymraeg gydag un 1, am fod ll y Lladinwyr yn cael ei swnio yn l. Yr ystyr ydyw "sedd" neu "orsedd," am i'r Aber fod yn perthyn i'r rhaglaw oedd yn llywodraethu tu fewn i'r "Clawdd Mawr." Gwel yr hyn a ddywedasom am "frenhin" Amddiffynfa Ysgubor Hên.
Ffynhon Arian.
WELIR WELIR y Ffynhon hon islaw y ffordd, gerllaw
Foel Gron. Ond cyn rhoddi desgrifiad o honi, efallai mai doeth fyddai i ni ddywedyd ychydig eiriau yng nghylch yr elfen a gynnwysa. Dywed Proffesor Rhys am " Deva," mai yr hên ffurf Gymreig yw "doiu," neu "duiu"="dwyw"="dwywol"= "dwyfol," o herwydd fod "dwfr" yn cael ei ystyried yn un o'r elfenau cyssegredig yn yr hên amseroedd. Yn unol â'r grêd hon, rhai a farnant oddiwrth yr enw "arian" sydd yng nglyn a gwrthddrych ein pennawd, fod swynyddiaeth wedi cael ei harfer yma yn yr oesoedd ofergoelus a aethant heibio, ac y byddid yn taflu pinau, a darnau o arian i'r dwfr, gan feddwl y buasai hyny yn sicrhau ei amcanion i'r sawl a fyddai yn ymwneyd â'r ddefod. Beth bynag am hyn, y mae y Ffynhon o wneuthuriad digon destlus, ac yn arddangos mwy o arwyddion gwasanaeth teuluaidd na dim arall yn y dyddiau diweddaf hyn. Adeiladwyd ei phedair ochr â pheduir carreg, a gosodwyd carreg arall yn nenfwd iddi, er mwyn cadw ei dwfr yn lân.
Mor aml y gwelwyd plantos
Hên Ysgol dda Foel Gron
Yn rhedeg am y cyntaf
I yfed dyfroedd hon!
Ond llawer un fu'n chwareu,
O'i deutu'n llon ei wêdd,
Sydd erbyn heddyw'n gorwedd,
Yn dawel yn ei fedd.
Fynhon Fyw.
LAWR ar fron y llechwedd, rhwng Ffynhon Arian ag Abersoch, ond ei bod ychydig yn fwy i'r aswy, ar dir Assheton Smith, y mae y ffynhon hon. Amgylchir hi gan fur pedwar-onglog (square), tua llathen o drwch, a dwy lath o uchder, fel nas gellir myned i fewn iddi, ond trwy ddôr dderw yn yr ystlys. Dosberthir ei baddon yn ddwy ran, gan ganolfur o feini wedi eu gweithio yn ofalus; ac y mae yr adran fwyaf o hono yn mesur pedair llathen o hyd, a thair o led; a'r leiaf tua llathen o led, ac ychydig yn rhagor o hyd. Ffurfiwyd grisiau i fyned i lawr i'r dwfr, ac y mae seddau cerryg ar bwys y mur tu fewn, yn yr ochr Orllewinol a'r ochr Ddwyreiniol. Fel y dengys trefniadau y Ffynhon, yr oedd un rhan o honi i'r claf i ymdrochi, a'r rhan arall iddo i yfed ei dwfr. Dywed Traddodiad mai yr achos cyntaf o'i sefydliad ydoedd ymweliad dyn dall, yr hwn, ar ol golchi ei lygaid yn ei dyfroedd oerion, a gafodd ei olwg. Hysbysir ni fod llawer yn ei mynychu yn y blynyddoedd a aethant heibio, ac wedi eu hiachâu. Gan ei bod yn tarddu mewn mangre mor dlawd, a llecyn mor ddiaddurn, a chan ein bod yn gweled yma ffrwyth llafur nid bychan, a chryn lawer o dreuliadau mewn arian yn yr holl gelfyddydwaith, tueddir ni i gredu fod rhyw sail i'r honiadau uchod, beth bynag sydd wir. Pa un ai yn gadarnhäol ynte yn nacäol y derbynir yr hyn a welwn â'n llygaid ac a glywwn â'n clustiau yng nghylch y Ffynhon Fyw, trueni mawr fod neb wedi caniatâu i blant chwareus y lle i labyddio ei dyfroedd â meini, nes y maent bron wedi ei llanw!
Cerfluniad.
AFWYD AFWYD yr ysgrif ganlynol ar garreg uwch ben drws amaethdy y Saethon, ac y mae ym mhell
dros ddau cant oed:
EVAN SAETHON O SAETHON A BRIODODD MARGARET 6ED FERCH MORIS WILLIAMS O HAFODGAREGOG ESQ AC A GENHEDLODD BUMP O BLANT Y GWR YN FYW. MAS. KS. LS. 1666.
Priodas yn yr Oes a fu.
Roedd yr hên drefn briodasol, y cyfeiriwn ati
yma, mewn arferiad hyd yn ddiweddar, os nad etto i fesur, yn Nant Gwrtheyrn, yr hyn sydd yn myned ym mhell i brofi fel cyd-darawiad (coincidence), mai felly yr oedd unwaith trwy Leyn. Ar ol cydsynio i uno mewn glan briodas, y peth cyntaf fyddid yn wneuthur ydoedd dewis gwahoddwr, yr hwn a äi i bob tŷ yn y gymmydogaeth, a chan sefyll ar ganol y llawr, dechreuai fynegu ei neges yng ngeiriau yr hen gân adnabyddus
"Dydd da i chwi, bobol, o'r hynaf i'r baban,
Mae Stephan wahoddwr â chwi am ymddiddan," &c.
Ac wedi i'r dydd pennodedig ddyfod i ben, deuai eu cyfeillion i'r neithior yn llwythog o anrhegion, megys par o hosanau, llwy bren, iar a basgedaid o gywion, cosyn, torth, darn o gig, pecyn o flawd ceirch, &c. Byddid yn cadw cyfrif manwl o'r holl roddion yma, am y telid hwy yn ol ar y cyfryw achlysur i'r rhai