Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a'u cyfranent; ac oddiwrth hyn y tarddodd yr hên ddywediad a ddefnyddir mor aml yn ein plith "Talu'r Pwyth." Ar ddydd y briodas, wrth gychwyn i roddi eu presennoldeb o flaen Allor y Llan, mor ysmala fyddai castiau diniwaid y priodfab yn ogystal â'r briodferch, er mwyn dyrysu ychydig ar amcanion y cyfeillion a fyddent mewn gofal am danynt; ac ar ol y byddai y pâr ieuanc wedi cyflawni eu hadduned ar air ac ar lyfr yn hên Eglwys eu Plwyf, yn sanctaidd ordinhad Duw, dirif fyddai bendithion a dymuniadau eu hewyllyswyr da, yng nghyda chroesaw diymhongar a gwenau serchoglawn pob gwyneb a gyfarfyddent, yng nghanol swn melusber y clychau hyny fuont yn canu o'r blaen yn llawn mor soniarus ar ddydd priodas eu tad, eu taid, a'u teidiau ydynt erbyn hyn yn tawel huno yn eu beddau gerllaw. Gartref ar y bwrdd yr oedd gwledd wedi ei hilio, a'r bardd yn chwareu ei delyn ar aelwyd yr ystafell oreu. O amgylch y tŷ, fel y mynod o gwmpas eu corlan, yr oedd llanciau y fro yn neidio ac yn rhedeg mor ysgafn-droed â'r ewigod. Mewn gair, y mae teithi eu naturioldeb, a holl nodweddion diledrith eu diniweidrwydd digymmysg, o'r dechreu i'r diwedd, yn ddigon i godi hiraeth yn y galon ddynol, am weled llawer o arferion goruwchgaboledig ein gwlad, yn ailwisgo eu symlrwydd cynhenid.

Archwiliad i'r Dull hynafol o Gladdu.

ID oes dim ym mhlith gwahanol genedloedd y ddaear a dderbyniodd fwy o sylw, gwarogaeth, gofal, a pharch, na chladdu y marw. Ni chyfrifid hi yn weithred o ddynoliaeth i nacâu y gymmwynas olaf i'r gelyn penaf. Ond yr oedd ganddynt lawer

iawn o wahanol ffyrdd i wneuthur hyn, hyd y nod ym mhlith yr un genedl, fel y mae weithiau yn anhawdd gwybod pa un yw y dull hynaf. Felly yn y wlad hon. Tra dyrys ydyw olrhain hên symmudiadau ffurf, a throell holl gyfnewidiadau y ddefod yn yr hên oesoedd, o'r beddrod pum carreg i'r garnedd fawr, ac yn ol drachefn o'r hên garnedd i'r bedd syml.

Byddai drwgweithredwyr yn cael eu claddu mewn croesffyrdd, yn arwydd eu bod yn ysgummunedig, ac yn rhybudd i'r byw ar ei daith i geisio cadw ei hun rhag y fath dynged; a phob tro y byddai Cynhebrwng yn myned heibio'r bedd-rod (=bedd-y-rhawd=road), arferid dywedyd Gweddi yr Arglwydd, yn benaf er mwyn addoliad i'r Hollalluog Dduw, ac yn ddiau er adeiladaeth y geiriau "Nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg," er y dywed un awdwr eu bod yn gwneuthur hyn yn yr oesoedd coelgrefyddol rhag ofn drychiolaethau (lemures) y drwg ddynion uchod, gan fod son hyd yn ddiweddar am yspryd dyn diofryd.

Cleddid y rhai a syrthient mewn rhyfel ym maes y frwydr, lle y darfu iddynt golli eu bywydau. Tynir ein sylw at rywbeth tebyg i hyn ym Mryn Betris, gerllaw Nanhoron, er fod rhai o'r farn mai hên fynwent fu yma. Beth bynag am hyn, sicr yw fod yma weddillion dynol wedi eu darganfod ychydig flynyddau yn ol. Gan hyny, gwnaethom archwiliad manwl o'r ysmotyn, yn ogystal â phobpeth cyssylltiedig ag ef, a'r unig benderfyniad a allem ddyfod iddo oedd, mai claddu ar ol rhyfel fu yn y maes hwn, fel mewn lluaws o fanau eraill yn Lleyn.

Diamheu mai y dull hynaf o gladdu ym mhlith y Cymry oedd gwneuthur bedd yn y ddaear; yna, heb arch o gwbl, gosodid y trancedig i lawr ynddo gyda'r parch mwyaf. Ac os byddai yr ymadawedig yn frenhin neu dywysog, codid carnedd fawr ar ei wyneb, neu gofgolofn. A chan ysywaeth nad oes un genedl ar wyneb y ddaear yn fwy drylliog ei theimladau na'r frawdoliaeth Geltaidd, tra dwfndreiddiol fyddai eu "cwyn" ar ol eu "câr," fel y dygid carreg gan bob un yn ol ei allu, o bell ac agos, i'w rhoddi ar ei "nêdd," er mwyn ceisio bytholi gorweddle ei lwch, fel y dangosir i ni yn holl "garneddau" beddrodol yr Ynysoedd Prydeinig hyd y dydd heddyw. Nis gallwn edrych ar "Bârclodaid y Gawres" yn Lleyn mewn un ystyr arall. Y "Gawres" yw y genedl, neu ei chynnrychiolwyr, ac y mae y "Bârclodaid" yn dangos ei nherth, neu rifedi ei deiliaid, gan fod carreg gan bob un o'i theulu wedi cael ei throsglwyddo yma; ac nid oes eisiau i ni ddilyn enghreifftiau, nac olrhain ail achosion y cyfryw. Felly, yr oedd achlud eu "cwyn," nid yn unig yn argraphedig ar lech eu calonau, yr hyn nid yn anfynych a ddileir, ond hefyd ar y pridd a'r cerryg. Rhag ofn nad yw yr anhyfedr ar unwaith yn gallu cipio cyflead hynafiaethol y gair "cwyn" yn yr ystyr uchod, ni a geisiwn ddwyn i'r amlwg ychydig o gyfrinion ei arwyddocâd. Fel y dengys troell gyfansoddiadol ein hiaith, y cyfenw diweddaraf am roddi dyn yn "Nhir ei hir gartref" yw "Claddedigaeth." Fel yr ydym yn myned yn ol i gyfnod hynach yn hanes ein cenedl, y mae eglurdeb adranau alleiriad y ddefod yn cymylu. Gwelwn hyn yn amlwg yn y gair "Angladd." Rhai farnant mai y gwreidd-eiriau ydynt angau + ladd. Gall hyn, fel cyflythyreniad, fod yn swnio yn dra tharawiadol ar y glust, ond yn hollol ammherthynasol â'r ystyr; oblegyd oddiwrth y ffurf yn y Gernywaeg, canfyddwn mai "en 'en." oedd y blaenddawd "an-"-"," neu fel "en-" yn enfawr, a "claddu." Cf., Enrhydedd, ac anrhydedd. Wrth archwilio gweddillion ieithyddol hynach fyth, y mae ein hanhawsderau yn ychwanegu, a chyflead mynegiaeth yr arferiad yn ymëangu. Diau yr amlygir hyn i ni yn y gair "Cynhebrwng," yr hwn a ddosberthir yn gyffredin yn

"en

[ocr errors] "cyn + heb + rhwng," ond y mae yn amheus genym a ydyw y dadgymmaliad hwn yn iawn; oblegyd mewn cyssylltiad â'r marw, beth yw "cyn?" Іё, beth ddeallwn wrth "heb?" A pha beth hefyd a osodir allan yma gan "rhwng?" Efallai mai yr unig air yn y Tafodieithoedd Celtaidd a rydd eglurhâd ar y gair "hebrwng" yn y Gymraeg, ydyw "ambroug” y Llydawaeg, yr hwn a gyssylltwn âg "approche" y Francaeg, "approach" y Seisnaeg, "approx-" yn "approximo," yn ogystal âg "appropinquo" yn y Lladinaeg, y rhai ydynt oll yn arwyddocân “agoshad,” sef "agoshâu" i'r gladdfa, yr hyn allasai lithro i'n hiaith trwy wasanaeth y gweinidogion Lladinaidd yn yr Eglwys Brydeinig. Ond, er cymmaint y tebygolrwydd perthynasol hwn o du y Llydawaeg, yr ydym yn methu peidio meddwl nad oes a fyno "Cynhebrwng" y Gymraeg a "Funebris" y Lladinaeg, yr hwn, dalier sylw, sydd yn ol dysgedigion yn tarddu o “phònos” yr iaith Roeg. Etto, gan fod "phonos" yn golygu marwolaeth ddamweiniol, yn hytrach na marwolaeth naturiol, a bod ieithwedd hynafiaethol a defodaeth angladdol y gwledydd Gorllewinol yma yn milwrio ychydig yn erbyn y gosodiad hwn, diau mai gwell fyddai olrhain y gair o “phônê" lléf. Gwelwn gyflead " -ebris"=" hebrwng" yn y Sanscrit BHRI= cludo. Yn awr, gan fod f yn "Funebris" yr un o ran sain â ph yn "phôné,” ac yn ol "Grimm's Law," gan fod ph=c, y mae " Funebris" yn y Geltaeg yn myned yn "Cunebris"=" Cynhebrwng." Ac yn ol y Tafodieithoedd Brytanaidd, nid oes amheuaeth nad ystyr "Cun"=" Cyn-" yn y fan hon yw “Cŵyn." Fel y mae yn syn dywedyd, defnyddir "Kaoun" yn y Llydawaeg, a "Caoine" yn y Wyddelaeg etto am wylofain, neu alar am y marw. Dyma ddywed yr anfarwol Esgob dysgedig O'Brien :-" Arwydda y gair 'Caoine' alargwyn, neu lêf ar ol y marw, pan y darlunir mewn iaith a goslef dorcalonus urddasolrwydd, caredigrwydd, a gweithredoedd da yr

ymadawedig, er mwyn creu cyd-deimladrwydd yng nghalonau y gwrandawyr, ac ystyriaeth hefyd o'r golled a gawsant ym marwolaeth eu brawd."

Wrth ddilyn, archwilio, a dwysystyried deddfau iaith ac Hynafiaeth, nid ydym heb feddwl nad "cŵyn” hefyd ydyw hên ystyr "cyn-" yn "cynnog," yr un fath a "cyn-" yn "Cynhebrwng." Gwelir hyn yn fwy amlwg yn y gair a ddefnyddir am "ystên” yn y Wyddelaeg, sef "cuinneog," a'r Hebrae קון

lamentatus est. Gwyddom yn ddigon da mai llestr a ddefnyddir yn y blithdy ydyw y "gynnog" yn yr oes hon, a'i bod yn cael ei hysgrifenu yn "cunnog," a'i holrhain o "cun"=deniadol, a "dawg"=dogn; ond rhaid cyfaddef mai diweddar mewn ystyr hanesyddol ym mhlith ein hynafiaid ydyw ei defnyddioldeb yn y cyfeiriad hwn, ac mai tra chymylog ac anghelfydd y deongliad yma o honi. Diamheu mai amcan a gwasanaeth cyntaf y "gynnog" ym mhlith ein cenedl ein hunain yn ogystal â chenedloedd eraill; ydoedd derbyn gweddillion y marw. Gan yr ystyrid fod tân yn dychwelyd pob peth i'w elfen gynhenid, llosgid corph yr ymadawedig, a chesglid ei lwch yn ofalus i'r "gynnog." Yna, yn anterth eu "cwyn," ar ol tywallt eu dagrau iddi (cf., "dod fy nagrau yn dy gostrel "), claddent hi mewn lle diogel yn y ddaear. Yng ngoleuni y ffaith hon y gallwn ddeall y geiriau dwys hyny yn y Gwasanaeth Claddu, sef "lludw ir lludw;" ac yn y dadgorpholiad alaethus uchod y gwelwn yn ddiau wir ystyr "cуппеи" суппе=cyn + de=gwahanu (cf., deol analyse), a'r gair "ennyn"= en + dyn, hyny yw, "dyn ar dân." Gwnaethom archwiliad i'r cyfeiriad hwn yn Hynafiaethau Lleyn, ac yr ydym yn cael fod "cynnogau" o'r fath wedi eu darganfod mewn dim llai na thri o fanau yn y rhandir hon, sef mewn congl fechan fel gardd, yng nghae Bryn Bugail, Mynytho; gerllaw carreg fawr, yr hon sydd wedi ei chwalu erys talm, ar dir Coch-y-Moel; ac ym mynydd y Rhiw, mewn pant, yn ymyl yr hên