Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Amddiffynfa.* Bu un o honynt yn ein dwylaw, a mesurai bymtheg modfedd amgylch y gwaelod. Gan ei bod wedi cael ei dryllio yn y ddaear dan arfau yr Amaethwr wrth arllwys ei dir, nis gallwn roddi ei huchder; ond rhaid ei bod o gryn faintioli. Hannerog oedd ei phobiad, garw ei chleien, bwaog ei ffurf, llwyd ei lliw, teneu ei chrawen, gydag ychydig addurniadau syml ar yr ochr allanol, ac ymddangosai yn hên iawn.

Yn y dull hwn, ar y cyntaf, fel y dywed Wormius, y cleddid brenhinoedd a thywysogion. Gan hyny, oddiwrth Hynafiaeth y pwnc, megys yn ei ffurf fenthycol, gadawer i ni drachefn dremio i gyfnod hynach y "gynnog." Ac yma, ond odid, y deuwn at gnewullyn y mater. Yn y cyfeiriadau blaenorol, y mae lle i gredu fod "cŵyn" yn y dansoddol (abstract); oblegyd hên ffurf "caoine"=cwyn oedd "cine," yr hwn sydd yn dal cyssylltiad agos âg esgoreddfa (genitive) "ceann"=king, queen, cun, a cen pen. O'r fan yma yr ydym yn cael "cen" yn cenedl; ac yn ei blygyr (flexion), gwelwn ef yn cyn yn cyntaf, a cyn yn "cynnog," am mai llwch y "cun," neu y "cen," sef y brenhin a roddid ynddi. Er y gellir dychymygu fod gwraidd y llythyrent yn "cyntaf," a'r ddwy nn yn "ceann," yn cael eu diogelu yn y gystrawen, mwy priodol fyddai golygu mai ystyr yr adran olaf "-nog" yn суппод" yw "cyflwr, neu ystâd o orphwysdra," o herwydd fod synwyr ychwanegol yn dyfod i'r golwg, trwy fod ein hên iaith mor llawn o eiriau cyfansawdd.

66

Ond erbyn heddyw, y mae gwareiddiad a dylanwad yr Efengyl wedi ymlid yr arferion hynafol hyn i dir ebargofiant, a helyth paganaidd cynoesoedd ein gwlad wedi myned yn bobl Gristionogol. Y mae y caddug oedd yn gordoi glyn tywyll yr hên “Gynhebrwng" wedi troi allan yn "oleuni mawr;" ac yn nisgleirdeb pelydrau y wawr sydd wedi tori, rhoddir gweddillion yr ymadawedig yn ei arch ac yn ei fêdd, mewn diogel obaith o Adgyfodiad ysblenydd y Dydd Diweddaf. Y mae "cŵyn" aflafar yr hên gyndadau yn eu galar wedi trawsgyweirio erbyn hyn yn gân felodaidd sydd wedi lleddfu llawer calon lesmeiriol yn swn y geiriau,

  • Clywsom, ar ol ysgrifenu yr uchod, i ddwy "gynnog" gael eu darganfod mewn lle a elwir Pen-yr-Orsedd, Morfa Nefin.

"A POB GWAHAN-GLWYF YMAITH,

 GLAN FUDDUGOLIAETH MWY; 
  'RWY'N CANU WRTH GOFIO'R BORE, 
 NA WELIR ARNA'I GLWY." 

V Derwyddon.

AN AN fod fod llawer iawn wedi cael ei ysgrifenu ar y

neu

pwnc hwn genym ni ac eraill o'r blaen, afreidiol fyddai disgwyl genym yn ein gofod presennol am ddim manylrwydd pellach nag a ystyriwn yn angenrheidiol i ddeall defion Hynafiaethol Lleyn. Olrheinir yr enw "Derwydd" o'r Hebraeg ("dàrush")=myfyriwr, "Druis" pedwerydd, bummed brenhin Gaul (Gallia), "derw" y Gymraeg, "daru" y Sanscrit, a "drys" derwen yr iaith Roeg. Ond fel y gwelir yn "Druid" y Seisnaeg, "Druidae" y Lladin, a "Druidai" y Groeg, y mae meddwl blaenddodiad ac olddodiad y gair yn dra thywyll. Y dirgelwch gan hyny yn "Derwydd" ydyw, pa un ai "dâr"=y pren derw, ynte “dar"=uchel, neu uwch, a pha un ai "-ydd"=gwr=vir, ynte rhywbeth arall a osodir allan. Ond, fel y dangosir, "heb os ac onibai," mai yr "à" fèr a ddefnyddir yn yr Hebreig "dar-," gadewir yr "a" allan rhwng y dâ'r r, a

Pa

dechreuir y gair, fel y gwelir, gyda "dr- " yn yr ieithoedd classurol, yr hyn sydd yn myned ym mhell i brofi mai y llafariad fèr sydd i ni i'w chymmeryd yn y rhan yma o'r gair yn yr iaith Gymraeg, ac mai "dar" uchel yw y gwreiddyn cyntaf. Yna, cawn yn naturiol mai y cyff olddodol "-wŷdd" ydyw "gwŷdd"=coed. Felly, yn ol pob tebygolrwydd, yr ystyr yw, "uchel-wydd," neu "uwchwydd." Ac nid ydym yn amheu nas gellir priodoli hyn i'r dderwen, am y cyfrifid hi gynt, ac y cyfrifir hi etto, y pren penaf yn y goedwig; ond yn fwyaf neillduol, gallwn feddwl fod cyfeiriad uchod at yr “Uwchwydd" (mistletoe) tlws oedd yn tyfu rhwng ei changau, fel y mae Pliny yn ein rhoddi ar ddeall yn y llinellau canlynol :-" Nid yw y Derwyddon yn cyfrif dim yn y byd yn fwy cyssegredig na'r 'Uchelwydd, a'r pren ar yr hwn y tyf, os bydd yn dderw. beth bynag a ganfyddant yn tyfu ar y pren hwn, heblaw ei ffrwyth ei hun, ystyriant ef yn rhodd o'r nef, ac yn arwydd sier fod y Duw a wasanaethant wedi dewis y pren pennodol hwnw; ac nid rhyfedd, canys y mae yr Uchelwydd" yn anwywedig, ac yn anhawdd ei gael ar dderw: ond pan y cyfarfyddant ag ef, y maent yn ei gasglu yn dra defosiynol, gyda Yn awr, pan y byddant am ei gasglu, wedi iddynt baratoi eu haberthau a'u gwleddoedd yn briodol dan y pren dywededig, y maent yn dwyn dau eidion can wyned a'r llaeth yno, cyrn y rhai wedi hyny, ac nid cyn hyny, a rwymant i fyny. Wedi gwneuthur hyn, ac ar ol i'r offeiriad ddyfod yno mewn gwenwisg swyddogol, y maent yn dringo y pren, ac yn tori yr 'Uchelwydd â bwyellig aur, a hwythau odditanodd yn ei dderbyn i wisg wen. Yna, ymosodant i ladd yr anifeiliaid crybwylledig, gan fyngial llawer o areithiau a gweddiau ar i Dduw weled yn dda fendithio y rhodd hon o'i eiddo, i fod yn ddaioni i'r rhai y rhyngodd bodd iddo ei rhoddi iddynt. Yn

llawer o seremonïau.

  • *

awr, y mae ganddynt y mympwy yma am yr Uchelwydd' wedi ei gasglu fel hyn, sef pa greadur bynag a fyddo anhiliog, pan yr yfo o hono, y daw yn ffrwyth. lawn yn y fan. Hefyd, ei fod yn gyfaredd berffaith yn erbyn gwenwyn," &c. Yn ddiweddaf, mewn cyssylltiad âg enw y Derwyddon, nid yw yn annhebyg nad oes gyfeiriad yn "dar-" yr un modd at y derw uwchaf yn y goedwig, o herwydd yr ystyrid hwy yn gyssegredig i Iou. Efallai y gwelwn y meddylfryd Celtaidd hwn yn dyfod i'r golwg yn y Lladinaeg "quercus," a "quercetum"=gwar + coed. Rhaid cofio nad oedd g na d yn cael eu defnyddio yn yr Hên Gymraeg. Y llythyrenau a'u cynnrychiolent ydoedd cat. Felly, aiff "gwargoed" yn "cwarcoet," sef, gwar uchel, a coed gwydd. Cf., yr hên enw Cymreig "Argoed."

Hen offeiriaid, a phrif athrawon ein cenedl am ganrifoedd dirifedi oedd y dysgawdwyr byd-enwog yma; a chawn fod cymmaint dyryswch yng nglŷn â'u hanes ag a ymddengys mewn perthynas i'w henw; ac y mae y dyryswch hwn wedi tarddu, i fesur, oddiar elyniaeth tuag at eu rhagoriaethau. Etto, yng nghanol y tryblith, gyda gofal a chwilfrydedd, teimlwn yn ddisyfl y gallwn gael gafael ar ffeithiau yn eu cylch. Cytunir gan haneswyr hên a diweddar mai Celtiaid oeddynt o ran cyff ac ach (kith and kin), hyny yw, yr oeddynt o'r un gwaed â ninnau. Gwyddom eu bod wedi ymgartrefu yn yr Ynys hon erys cannoedd lawer o flynyddoedd cyn glaniad Iwl Caisar, 55, C.C.; ac y mae yn amlwg y gallwn ddilyn symmudiadau eu hymdaith ar y Cyfandir ym mynwes eu Cenedl o gymmydogaethau Dwyreiniol Caerdroia, oddiwrth iaith yr enwau lleol a ganlyn :Vannes Gwynedd, Dinan Dinas, Nantes Nant, Aube Afon, Uxelodunum=Uchelddinas (yn llythyrenol, Dun=Amddiffynfa), Ussoldun Iseldun, neu Isddinas, Dreux Dryw Derwydd (Cf., Trer Dryw, Mona Antiq.), Dubis=Dyfi, Garumna Garwafon, Weser= Oise Wysg, Rheydt Rhyd, Rhine Yr Ean=Yr Afon, Geneva Gên Afon, Savona=Safon, Appenine= Penonaidd, Genoa Gên Aw (aw=dŵr), Penne Pen, Carnia Carn, Brünn Bryn, Epidaurum=Upon Daur=Ar-y-Dûr, Tomaeum Tomen, Thalia Tal, Dunax Dinas, Macedonia=(Magh) Maes - y - Dòn,* Dardania Dûr-y-Dòn, Dardanelles Dŵr - y - Dònell, Danube Y Dàn, neu Y-Daen-Afon, Pere Kop=Bèr-yGopa, Crimea=Cimmeria=Cymru. Nid ydym yn amheu na theimla y Cymro yn y tiroedd pell hyn yn hollol gartrefol wrth ein dilyn yn swn y geiriau yma. A pha edmygedd bynag a deimlai ein cyndadau tuag at y "Bryn," y "Pen,” y “Tàl,” y “Gên Aw,” y “Gên Afon,” a'r "Afon," diau eu bod yn gweithredu yn eu holl ddwyfyddiaeth fel yr oeddynt yn cael eu dysgu gan y Derwyddon, y rhai oeddynt eu hathrawon a'u cynghorwyr ym mhob peth.

Y mae rhai wedi barnu, heb wneuthur archwiliad, mai y Groegiaid ym Marseilles a ddysgasant yr A, B, C, i'r hên ddoethion gwybodus yma gyntaf, ond yr ydym yn cael ein hawdurdodi gan Cato, ac amryw gydag ef, i hysbysu fod eu llythyrenau ganddynt ym mhell o flaen y Groegiaid-" yr oen yn dysgu y ddafad i bori" yw hyn. Os dim, y cyntaf fu yn dysgu yr olaf. Dywedir wrthym hefyd eu bod wedi dwyn i fewn i'w hathrawiaethau Derwyddol lawer iawn oddiwrth y grefydd baganaidd oedd tu allan i'w cylch; ond yn ol pob tebyg, yr olaf drachefn fu yn benthyca oddiwrth y blaenaf fel y dengys enwau y gau-dduwiau canlynol:-lanus Ion, Iove= Iou, Vulcan Maelgwn, Venus Gwen, Hercules= Erchyll, Teutates Duw Dad, Saturnus Saf-teyrn, Mercurius March-wron, Neptunus Nof-tòn, Triton= Trwy-dòn, Diana Dianaf, Coelus Coel, Apollo=ApHaul, Apollinus=Ap-Heulyn, Minerva Min-Arfau, &c.

=

Hefyd, hên ystyr "ton," neu "tàn” yw tir heb ei aru. Cf., twn, a dyn=homo.