Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y maent yn byw ac yn bod, heb feddwl, efallai, fod prydferthwch yn perthyn i ddim ond i ddyn, a'r wisg sydd am ei gefn. Ond y mae y Cymro sydd wedi bod allan o Wyllt Walia am amryw flynyddoedd, ac a welodd lawer lliw a llun ar yr hen ddaear sydd dan ei draed, pan y mae yn dychwelyd yn ol i wlad ei enedigaeth, yn dechreu gweled rhagoroldeb yn yr hyn a ymddangosai iddo o'r blaen yn beth cyffredin, ac y mae erbyn hyn yn sylwi ar y creigiau oesol ydynt yn crogi uwch ei ben, ac hyd y nod y tywod amryliw sydd dan ei draed, gan sibrwd yng nghonglau pellaf ei feddwl—O! y maent yn hardd! Yr wyf yn eu gweled yn dlws! Felly, gadawer i mi alw sylw yr eiddilyn gwladgarol at brydferthwch y wlad y mae yn byw ynddi, yn lle bod fel y pawyn yn edrych ar ddim ond ei blu ei hun. Ac o'r amryw enwau lleol sydd yn britho tudalenau y newyddiaduron, a gwahanol gyhoeddiadau eraill mewn llythyrenau breision, bydded i ni gofio mai nid y lleiaf ei rhagoriaethau ydyw Lleyn, ac nad yw yn ol i'r un gymmydogaeth yng Nghymru am ei phrydferthwch. Pe baem ond esgyn i fyny i Fynydd y Rhiw, caem weled y caeau gwyrdd-leision, y nentydd bychain fel llinynau arian yn gorwedd ar waelod y ddol, yr ychain Cymreig yn prangcio yma a thraw yn y dyffryn, y defaid a'r wyn yn dawnsio ar oriel y mynydd, a'r weilgi gerllaw yn disgleirio megys môr o wydr. Gadewch Garn Madryn a'i rhyfeddodau yn bresennol heb sôn am dani, a dringwch i fyny ar y llaw arall i ben Yr Eifl, y rhai ydynt yn ymddyrchafu fel tair pinnacl, neu yn hytrach, dri chastell ar derfynau y wlad, tra yn anadlu awelon halmaidd y gororau, chwi a ddywedech wrthyf fel y eyfaill hwnw, "Fath olygfa hyfryd! Ni welais ei chyffelyb yn fy oes! Edrychwch ar y gwastadedd tlws obry! Y mae ei deleidion yn dwyn ar gof i mi Ardd Eden!" Yn yr Haf, chwi ganfyddwch flodau yma fel gemau purlan wrth y myrddiynau blith-draphlith â blagur y werddlas, nes y mae yr ymwelydd