Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Sonir am amryw raddau ym mhlith y Derwyddon, megys, Vacerri Coeg-gerddorion, Bardi Beirdd, Eubages Ofyddion, Semnotheoi=Duwinyddion, Saronides Derwyddon y-Ceubren. Beth bynag am hyn, y prif enwau sydd wedi dyfod i lawrini ydynt, (1) Bardd =Bàrydd=Bàr-wŷdd=Celfyddydwr-y-Barau, sef Barau ei Goelbren, yr hwn oedd ei Lyfr. Ar y Barau hyn yr ysgrifenai (nid egwyddorion ei grefydd, ond) yr holl gyfrif (accounts) a gweithredoedd (deeds) gwerinaidd (secularis); ac oddiwrth y gelfyddyd enwog hon y cafodd yr holl ieithoedd Gorllewinol y gair bar, a "bard," sef "pared"=parwyd yn ol awdwr Mona Antiqua, yr hyn sydd bron yr un peth. (2) Ofydd= Cvid=Vates Phates=Prophwyd, neu, ag i ni yn ein hiaith ein hunain gadw yn nes at y gwreiddiau "Go + wydd” (gwêl video)=Dansoddwr Cyfrinion= Dewin=Deonglwr Tynged-cymmaint oedd ei fedrusrwydd yn y gelfyddyd hon fel y dywedir y gallasai yn hawdd roddi gwers i'r Persiaid eu hunain. (3) Derwyddon Prif Ddosbarth y Gyfundrefn, y rhai oeddynt yn Feirdd ac Ofyddion, wedi eu dysgu yn y naill gangen fel y llall, ac wedi eu hethol yn ddiau o blith y cyfryw, fel y mae yr enw mewn cyfansymiad (synecdochê) yn cael ei ddefnyddio am yr holl frawdoliaeth. Yr Archdderwydd oedd y prif swyddog, yr hwn a ddewisid trwy bleidlais, ac os na ellid ddyfod i benderfyniad trwy hyn, yr oedd ei swydd mor urddasol fel yr ymofynid am dani trwy dywallt gwaed.

Y Derwyddon oeddynt y dynion mwyaf dysgedig yn yr holl wlad. Cadwent eu dysgyblion yn eu Hysgol am ugain mlynedd, a rhoddent elfenau eu Hathroniaeth yn drysoredig yn eu côf mewn dim llai nag ugain mil o bennillion, fel nad oeddynt ar ol i philosophyddion penaf tir Groeg, a doethion enwocaf Persia. Edrychent i fewn i ddirgelion cyfansoddiadol "Awyr, a Thir, Dwfr, a Thân." Olrheinient brif ddeddfau Anianaeth; a thrwy eu harchwiliad yng nghylch dygiad y cread i fodolaeth, daethant o hyd i ddi-allu mater, a'r Gallu Mawr, sef Duw ei Hunan. Gosodent eu temlau heb dô ar uchelfanau y maes " yng ngolwg haul a llygad goleuni," gyda llwyni i'w cysgodi yn eu dwfn fyfyrdodau, er mwyn pwyso a mesur y bydyssawd; ac yma y gwnaent eu darganfyddiadau yng ngylch yr haul, y lleuad, a'r sêr, gan chwilio i ddeddfau dydd a nôs, yn ogystal â rheoleiddiad y gwahanol dymhorau, fel y credodd Plutarch

eu

bod yn deall deuddeg Arwydd y Sidydd. Profent nerth a dylanwad holl adnoddau y Deyrnas Lysieuol, a dygent ffrwyth eu meddwl allan yn Feddyginiaeth i ddyn ac anifail. Deallent ddeddfau iechyd, ac un o'u hegwyddorion penaf oedd treiddio i fewn i ddirgelion gweithrediadau y corph dynol, a chyfryngau ei gynhaliaeth. Pan yn myfyrio ar ddyfnion bethau Duw fel yma yng nghanol eu dirgeledigaethau, nis gallent lai na chyrchu at ddefion yr enaid, a'r cyssylltiadau hanfodol a dueddant tuag at ei fythol ddedwyddwch. Credent gan hyny yn y Bôd-o-Dduw, creadigaeth y byd, cwymp dyn ac angylion, barnedigaeth y Diluw, llosgiad y byd yn y diwedd, ac anfarwoldeb yr enaid. Pwy, meddwn, ar bwys y ffeithiau hyn na'u hystyriai yn ddysgedigion disgleiriaf yr oesoedd cyn pregethiad yr Efengyl ei hun?

Yr oedd eu presennoldeb bob amser yn arwydd o Gyfiawnder, Heddwch, a Llwyddiant. Perchid hwy gan bawb. Cynhelid hwy gan ein cenedl fel boneddigion. Rhoddai poh dyn ei ymddiried ynddynt. Yr oedd eu gair yn ddeddf. Ac ni ystyrid neb, na dim, yn ddiogel ond dan eu nawdd. Rhedai natur eu hegwyddorion drwy y bywyd teuluaidd. Diffoddid y tân ar bob aelwyd noson olaf mis Hydref, a chynneuid ef drachefn drannoeth, sef y cyntaf o Dachwedd, a'r Tân Cyssegredig oddiar Allor Fawr y Deml Dderwyddol, fel y dywedasom o'r blaen yng nghylch Coelcerthi Calan Gauaf.

Yn awr, gan ein bod yn teimlo ein bod wedi agor maes cyfundrefn yr hên Dderwyddon yn lled dda, ni a awn ym mlaen i roddi ychydig eglurhad ar y pethau hyny ydynt yn profi eu sefydliad yn Lleyn.

Maen Brudyуп.

=

LAWER o ddyfalu sydd wedi bod uwchben y "Maen" hwn. Gellir meddwl fod yr enw wedi dyfod i'n meddiant ni trwy draddodiad; oblegyd hyd yn hyn nid ydym yn credu fod sillafiaeth y gair wedi cael ei sefydlu. Ysgrifenir ef yn gyffredin yn " Bridin," ond nis gall y llythyreniad hwn ohono fod yn gywir. A'r hyn sydd waeth na'r cwbl, y mae ei ymddangosiad yn y wisg ddieithr hon yn sicr o fod yn camarwain yn ddirfawr, fel yr ydym yn deall ddarfod i lenor cyfrifol erys ychydig o flynyddoedd yn ol gymmeryd ei hudo gan y llythyrenau i ddywedyd mai ystyr "Bridin" yw "Obry-y-(Din": amddiffynfa). Cyfrifwn y deongliad hwn yn un o wallau hynotaf yr oes ddiweddaf. Meddyliem ar yr olwg gyntaf arno mai dymchweliad (ac nid chwaliad) hyd braich ac ysgwydd ydoedd. Wrth edrych trwy ein geir-gronell hynafiaethol, cawsom fod "Maen Brudyn" yn Sir Fôn, ac yr oedd y dysgedig wedi rhoddi yr ystyr i lawr yn ddigon medrus, gan ddywedyd, "The Astronomer's Stone"="Maen y Seryddwr," sef "Brudyn," ac nid "Bridin." Efallai y bydd yr anwybodus yn barod i feddwl mai hollti blewyn yr ydym gyda rhyw fân lythyrenau fel yma, ond fe fyddai yn sicr o fod yn nes i'w le pe dywedai ein bod yn hollti trawst. Gwêl y myfyriwr fod perthynas agos iawn rhwng y gair "Brudyn" yn yr ystyr uchod â "Brudwyr" yr Ysgrythyr, gan y

byddai y "Brudyn" yn ddiau yn myned trwy wasanaeth y sêr at swynyddiaeth. Saif y "Maen" y cyfeiriwn ato tua dau can llath i'r môr o Bwlch Brudyn, Porth-Din-Llaen. Mesura o gylch pum troedfedd o uchder, a thua phedair troedfedd bedronglog. Nis gellir ei weled ond yn amser trai, a hyny ddim ond unwaith yn y flwyddyn, sef mis Mawrth yn ol y dystiolaeth a gawsom. Os felly, y mae yn rhaid fod y môr yn dylifo yn awr yn nes i fewn na phan yr oedd y "Brudyn" yn gwneuthur defnydd o'r "Maen" hwn. Hefyd, cawsom allan fod wyneb, bwrdd, neu glawr y "Garreg" hynod hon yn llyfn a gwastad.

[ocr errors] Wedi gwneuthur ychydig sylwadau ar yr allanolion, gadawer i ni etto roddi rhyw gymmaint o'r manylrwydd yng nghylch y "Brudyn" ei hun. Fel y crybwyllasom eisoes, yr oedd "Seryddiaeth" yn un o'r adranau pwysicaf yn efrydiaeth yr hên Dderwyddon; ac fe ddywedir wrthym mai y blaned gyntaf a dynodd eu sylw oedd y lleuad. Wrthi hi y cyfrifent eu hamser, wrth y nós, ac nid wrth y dydd, fel y gwnawn ni yn awr. Bu Buan y cawsant allan ei bod yn myned trwy ei holl gyfnewidiadau ym mhen tua " deg-ar-hugain o nosweithiau, yr hyn a alwent yn fis; a chyfrifent ddeuddeg cymmaint yn flwyddyn. Gwelai y "Brudyn" felly, trwy ei archwiliad a'i brofion, fod gan y lleuad hefyd ddylanwad mawr ar Drai a Llanw y môr. Ac ymddengys i ni mai ei amcan yn gosod i fyny y "Maen" cywrain hwn lle y mae, ydoedd edrych i fewn i ddirgeledigaethau achosion ac effeithiau y pwnc, fel y byddai ffrwyth ei lafur yn troi allan yn gyfarwyddyd i'r rhai hyny oeddynt yn tramwy ar hyd wyneb yr eigion. Ato ef fel prophwyd y tywydd ac almynag eu mordaith y cyrchai y morwyr i gael ei farn am hinon dêg, a gwrandaw ei ddedfryd yng nghylch rhagarwyddion yr ystorm. Yn ol ei gynghorion y cychwynent i'w mordaith, ac yn

i

anterth eu llawenydd dychwelent drachefn at hên Iŷs ei "Faen," gydag anrhegion, eu holl newyddion o'r wlad bell, a thâl ar ei ganfed. Gany sylwai gyda manylrwydd anghyffredin ar symmudiadau y cymylau, osgo y gwynt, lliw yr wybren, a phob math o ymddangosiadau (phenomena) yn yr awyr uwchben, byddai pobl y tir hefyd yn dyfod ato i ymgynghori yng nghylch llwydd ac aflwydd eu pethau tymhorol, gan ei gynnysgaeddu a phob newydd o'u gwahanol ardaloedd. Fel hyn y daeth y "Brudyn" (brud, brut) yn gofnodydd yr amseroedd, a newyddiadur yr holl gyffiniau. Dengys cyfeiriad ei efrydiaeth, naws ei olygiadau, a'r defnydd a wna o'r garreg, mai perthyn i'r Derwyddon yr oedd; a chan y bydd genym air yn uniongyrchol i'w ddywedyd am ffurf a gwasanaeth ei “Faen” hên dan bennawd y “ Meini Hirion," ni a awn rhagom heb ymdroi, at y gwrthddrychau hyny.

V Weini birion.

N bresennol, ni chawn yn Lleyn, ddim ond dau o'r Meini hynafol hyn, y rhai ydynt i'w gweled, un ym mynwent Llan Meyllteyrn,* a'r llall mewn cae gerllaw Eglwys Gwyn Hoedl, ym mhlwyf Llangwnadl. Sonir wrthym am amryw eraill, sef un ar dyddyn "Maen Hir," Bryncroes, un arall yng nghae "Maen Hir," Cefnèn, un ym mhlwyf Llannor, a rhywbeth tebyg oedd "Lladron Maelrhys," mynydd y Rhiw, ond y mae y rhai hyn oll wedi eu tynu i lawr, a llawer gyda hwy, ac eithrio un o hên feini "Lladron Maelrhys," yr hwn sydd yn prysur ogwyddo ar ol y lluaws fu o'i flaen.

  • Mae y maen hwn yn dair llath a hanner o hyd uwchlawy ddaear, ac yn bedair modfedd ar bymtheg o led.