Canfyddir Meini o'r fath mewn gwahanol fanau eraill yng Nghymru, Lloegr, Cernyw, y Werddon, yr Alban, Manaw, Llydaw, a phob gwlad yn ddiau lle yr ymsefydlodd y Celtiaid, a mawr ydyw y dyfalu sydd wedi bod yng nghylch eu gwasanaeth. Gan eu bod mor debyg o ran eu ffurf i feini beddau yr oes hon, rhai a feddyliasant mai colofnau coffadwriaethol ydynt am hên wroniaid a syrthiasant ar faes y frwydr, ac a ennillasant iddynt eu hunain glod ac edmygedd oesol am eu gwrhydri, ac os ceir un ohonynt mewn mynwent, fel y gwelir yn Meyllteyrn, cymmerir yn ganiatäol fod y pwnc wedi cael ei brofi, heb unwaith feddwl mai un o bethau diweddar Hynafiaeth yw y fynwent. Pe byddid yn gallu profi fod claddu o gwbl wedi digwydd yn ymyl y "Maen Hir," fel ffaith berthynol iddo ef ei hun, buasem yn cael ein gorfodi yng ngwyneb ffeithiau hynach, i y
i ystyried hyny drachefn fel peth diweddar; ac ni fuasai waeth dywedyd wrthym mai adeilad er côf am y meirw yw yr Eglwys, am fod yna rai wedi eu claddu o'i hamgylch ac o dani. Gosodir allan ar y llaw arall fod y Meini hyn yn cael eu haddoli yn yr hên amseroedd, a bod St. Patrig ac eraill, ar sefydliad Cristionogaeth, wedi eu cyfnewid i arddangos Croes Crist mewn amryw leoedd, yr hyn sydd yn rhoddi deongliad efallai i ni o hên enwau, megys Bodegroes=Bôd (=Tŷ)-y-Groes, Penygroes, Bwlch-y-Groes, Bryncroes, am fod yr hên “Feini Hirion" yn y lleoedd hyn wedi cael eu troi i arwain meddwl y cyndrigolion oddiwrth baganiaeth at Groes eu Gwaredwr, ac nid am y rheswm ddarfod i Giraldus Cambrensis a Baldwin, bregethu Rhyfel y Groes yn y parthau yma, yr hyn nid oedd ond cadarnhau y gwaith mawr a wnaed gannoedd o flynyddoedd cyn hyny. I gefnogi y syniad uchod dywedir wrthym fod copau rhai o'r Meini hyn wedi cael eu cafnio yn gawgiau neu phiolau i dderbyn olew, yr hwn a offrymid fel diod-offrwm i'r haul. A chaniatâu hyn oll, yr ydym yn methu gweled ein bod o dan un math o rwymedigaeth i gredu eu bod wedi cael eu gosod i fynu ar y cyntaf i'w haddoli, ddim mwy na'r Sarph Bres yr hon a ddyrchafodd Moses yn yr anialwch i iachâu y bobl, ac a drodd allan ar ol hyn i fod yn eulun i arogl-darthu iddi, fel y galwyd hi yn Nehustan. Ystyrir hefyd fod y Meini yma yn rhyw fath o gyrchnodau i'r drwgweithredwr i ffoi atynt rhag y dialydd, a'u bod felly yn ganolbwynt cynnulliad i weinyddu barn a chyfiawnder-i orseddi a diorseddu. Gwelwn hyn yn dyfod i'r golwg yn amlwg mewn cyssylltiad à Maen Hir Llangwnadl, oblegyd y mae yma le o'r enw "Pen-yr-Orsedd " gerllaw. Ac nis gallwn fyned heibio'r sylw hwn heb gymmeryd i'n hystyriaeth "Faen Tynged" y Goideliaid, ar yr hwn y gorseddid eu brenhinoedd, meddir, o 2764 o Oed y Byd, hyd 518 o Oed Crist, pan y trosglwyddwyd ef ganddynt i goroni brenhinoedd eu talaeth newydd yn yr Alban, lle yr arosodd yn Scone hyd nes y symmudwyd y garreg gan Iorwerth y Cyntaf i i Fynachlog Westminster yn A.D. 1296, ac arni hi y coronwyd brenhinoedd Lloegr o Iago y Cyntaf hyd yn awr. Diau i'r garreg hynod hon gael ei galw yn "Faen Tynged" oddiwrth "cloch na cinneamhna," ond ei hên enw yw Fail"="Maen-y-Cylch," neu y Deml Dderwyddol, lle y coronid brenhinoedd yn y cynoesoedd gan y Derwyddon; a barnwn mai yr un yw y "Maen Llog” â'r “Liagh Fail." Ond er y gallwn edrych ar y gosodiadau hyn o'r dechreu i'r diwedd fel profion cadarnhäol, etto, buasai yn llawn mor rhesymol dywedyd mai amcan cyntaf y Maen ydoedd coroni llywiawdwyr, a dywedyd mai diben Westminster Abbey yw coroni brenhinoedd. Felly, rhaid i ni adael dilyniaeth yn ei rhediad, a cheisio myned rhagom at olyniaeth yn ei tharddiad.
"Lia
Cyn y gellir rhoddi eglurhâd priodol ar wasanaeth hynaf y "Meini Hirion," y mae yn ofynol i ni gael
[ocr errors] gwybod beth a olygir wrth y gair Maen. Gobeithio nad oes neb mor fain ei ddeall â meddwl ei fod yn tarddu o "moin,” “môn,” " muin" y Gernywaeg, sef, "main;" oblegyd y mae llawer o bethau meinion yn y byd yma heblaw y "Meini Hirion." Disail fyddai ei olrhain hefyd o “min,” am y rheswm fod trigolion oes y meini (stone age) yn gwneuthur eu harfau awchlym o gerryg. Os felly, nid "maen" sydd i'w gael o'r "mín,” ond "min" o'r "maen." Byddai ei olrhain o “maneo y Lladin a " meno" y Groeg, am ei fod o ddefnydd parhâus, yr un mor anghelfydd, oblegyd methwn ei weled yn fwy felly na'r awyr uwchben a'r ddaear o dano. Gwir ei fod o'r un natur a “moenia” yr amddiffynwr, ond yr oedd y "Maen" o wasanaeth arbenig o flaen y caerau hynaf ag a wyddom am danynt-nid y "meini" oeddynt yn cael eu gwneyd o'r "moenia," ond y "moenia" o'r "meini." Pan y siaredir am nodweddion y garreg yn llenyddiaeth yr oesoedd, mwy o'r deddfau cenhenid a osodir allan; ond pan y sonir am faen, mwy o'r elfen gelfyddydol sydd yn dyfod i'r golwg; hyny yw, y naturiol sydd yn nodweddu y flaenaf, a ffrwyth meddwl yr olaf. Felly, rhaid i ni fyned i chwilio am y gwir ystyr i faes celfyddydau ein cyndadau, ac yn ysgol y Derwyddon, yn fwyaf neillduol, yr oedd y rhai hyny yn cael eu hanwesu; a dylem gofio faint o ddylanwad a gafodd yr ysgol hono ar wahanol ieithoedd y byd, os ydym am gael gafael yn y gwirionedd. Ysgrifenid y gair "Maen" yn y MSS. cyntefig yn "main,” "mean" a “mên;" ac ystyr yr hên air Cymraeg “mên” ydyw "ffynhonell gallu," yr hyn sydd yn athronyddol gymmwys, oblegyd "ffynhonell gallu" yr holl gyfundrefn Dderwyddol oedd "Maen," gyda'r hwn y cyfrifent y sêr, ac ar yr hwn yr offryment eu hebyrth, a cher bron yr hwn y coronent eu brenin fel y dangoswyd. Cedwir gwreiddyn “mên" genym etto yn y gair ymmenydd, yr hwn a gyfrifid gan yr hên atıronyddion yn "ffynhonell gallu" holl gyfundrefn y corph dynol. Ond i ddyfod yn nês at arbenigrwydd y " Maen Hir," deallwn drachefn fod "maen," neu “mên,” yn tarddu o'r gwreiddair "MEN," yn yr ieithoedd classurol, ac o'r Sanscrit "MAN "=" ystyried," neu "sylwi yn fanwl," a daw y “men” yma i'r golwg yng nghyfraniad gorphenol y perwyddiad Lladinaidd " metior," "MEN"sus="mesur;" ac nid oes eisiau i ni fyned ym mhell i chwilio am reswm tros fod y "MAEN Hir" yn cael ei alw felly, oblegyd trwy ei wasanaeth ef yr oedd y Derwydd yn astudio ac yn mesur y planedau-y "maen" oedd ei "ddeial." Lluniai ef yn bedronglog fel y gallai ddilyn symmudiadau a chyfnewidiadau y cysgod yn well; ac mewn manau y mae llun y cysgod wedi cael ei balmantu yn y ddaear â cherryg i nodi allan ryw adegau neillduol. Gwyddom mai safon ei holl symmudiadau oedd "Maen Llog" y Deml Dderwyddol. "Bor" y cylch ydoedd hwn; ac ond odid o'r "bor" seryddol hwn yr ydym wedi cael y gair "bore," am mai gofal cyntaf y Derwydd yn y "bore" oedd gwylio "bor" ar godiad yr haul, i gael gweled sut yr oedd y cysgod yn ymsaethu, ac yn ymsymmud trwy "Feini Hirion " ei Deml, fel y gallasai gael gafael, a gosod allan wahanol dymhorau Alban Hefin, Alban Eilir, Alban Elfed, ac Alban Arthan yn gywir. Yr unig air yn y Lladin am "fore" yw "mane," ac y mae distawrwydd yr iaith yng nghylch deddf ei ddisgyniad (declension), yn ogystal phethau eraill, yn peru eru i ni feddwl mai oddiwrth y "Maen" uchod y cafodd y Lladinwr "mane" neu "mani." Yn iaith seryddwyr yr Aipht, yr enw a roddir ar "Feini Hirion" yw "Bysedd-yr-Haul;" ac yn y Phoenicaeg, y gair am "faen" yw "pelydryn," oherwydd eu bod trwy offerynoliaeth y "maen" yn myfyrio y goleuni, ac efallai hyd y nod y "pelydrau" eu hunain! Fel yma, dichon mai nid amherthynasol fyddai i ninnau yn yr iaith Gymraeg alw y "Maen Hir" yn
â
"Baladr," yr hwn sydd o'r un gwreiddyn â "pelydr" =peth yn tarddu o'r Haul=Bel=Pel=Ap El; a diau mai o'r fan yma yr ydym yn cael "plygain"= "pylgain"=Pel + cain=Ap + El + càn càn=lliw gwyn, neu wawr wèn yr haul, er fod rhai am ei gael o "pullus + cano," yr hyn, yn ol deddfau olrheiniad, a ellir ddilyn drachefn bron i'r un ffynhonell. Fel yma, efrydai y Derwydd ei " Belgain” yn y “Bore," a'i "Belydrau" yn y "Dydh," gerllaw hên “Baladr" ei "Faen Hir," gan wylio holl droellwaith, lliw, a llun y cysgod, a sylwi pa fodd yr oedd yn byrhâu o'r bore i ganol dydd, yn hwyhâu o ganol dydd hyd yr hŵyr, yn lleihau o'r dydd byraf hyd yr hwyaf, ac yn ymestyn o'r dydd hwyaf hyd y byraf. Trwy eu dyfalwch digyffelyb, a'u gorfanylrwydd yn y pethau hyn, nid oedd y Derwyddon yn ail i neb o seryddwyr yr hên oesoedd ; oblegyd rhaid eu bod wedi darganfod fod y ddaear yn troi oddiamgylch yr haul, ac nid yr haul oddiamgylch y ddaear. Gwelir hyn yn y gair "blwyddyn"=Gwyddelaeg, “bliadhain," neu "bliaghain "=" Bel, + an (=ánus=ring)= " modrwy + Ab + ")="cylch + yr + haul," am yr ystyrient fod y ddaear yn myned o amgylch yr haul unwaith yn y flwyddyn. Rhoddwyd "dd" i fewn yn " bliaddain" er mwyn gochelyd dybryd sain (hiatus), ac felly, nis gall fod yn perthyn i'w adranau gwreiddiol. A'r peth olaf y sylwn arno yn ein harchwiliad yng nghylch "Bel + an" yw, fod y Temlau Derwyddol yn cael eu gwneuthur yn grwn (round), ac nid yn bedronglog (square), am fod y byd yn grwn.
[ocr errors] Eilwaith, gwêl yr hwn sydd yn hyddysg mewn deddfau ieithyddol, nad oes mwy o amhriodolrwydd yn perthyn i olrhain "Maen" o'r hên wreiddyn toreithiog (prolific) "Man," neu "MEN," na threiglio "month" yn yr iaith Seisonaeg o "moon" A. S. "mona"=0. Slav. "menso." Ac yn wir, cenfydd y celfydd eu bod o'r un cyff, hil, ac ach. Efallai y