Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

syna yr anghyfarwydd drachefn ein clywed yn dywedyd fod "month" y Seisonaeg, a "mis" y Gymraeg yn tarddu o'r un ffynhon. "Pen" yr holl aelodau yw "MEN"=Lladinaeg, "mensis"="mensus "="moneo" Seisonaeg, month Groeg, "mên” =" meis"=Italaeg, "mese"=Ffrancaeg, "mois" Cymraeg, "mis"=Seisonaeg (fel cyflead), "measure." Felly, y meddwl ag sydd fel edefyn aur yn rhedeg drwyddynt oll yw "mesur." Gan mai y Derwydd oedd y seryddwr hynaf ar y Cyfandir, yn ogystal âg yn y wlad hon, rhaid fod y "mesur" hwn yn dal perthynas arbenig âg ef yn bersonol. Cawn ef, nid yn unig ar hyd y dydd, ond hefyd ar hyd y nos, gyda'i "Faen Hir" (MEN) yn gwylio ysgogiadau y bydoedd uwchben, yn enwedig y lloer (Mona), gan gyfrif rhifedi nosweithiau ei hoed (Mena)=mis=y mesur, a chadwai mewn cof pa sawl "Ma + en " oedd ddigon i wneuthur i fyny gylch "Bel + an."

V Cromlechau.

☑N hanes rhyfeddodau y byd, cawn fod y gwedd☑illion Derwyddol yma i'w gweled bron ym mhob gwlad yn Ewrop. Sonia Carnhuanawe am Gromlech yng Nghernyw yn pwyso tuag wyth gant o dynelli. Efallai mai y fwyaf nodedig yn yr Ynys hon yw yr un sydd gerllaw Pentref Ifan, yn swydd Benfro. Siarada George Owen am dani fel hyn:"Clamp o garreg o faint anferth ydyw, wedi ei chodi yn uchel, a'i gosod ar benau tair carreg uchel eraill, sydd yn sefyll yn sythion yn y ddaear; ac y mae yn tra rhagori, o ran maint ac uchder ar Lech Arthur, sydd ar y ffordd o Henffordd i'r Gelli, ac ar Lech yr Ast, yn agos i Flaen y Porth, yng Ngheredigion, ac ar bob un arall a welais i erioed, oddigerth rhai yng Ngwaith

Emrys (stonehenge) ar Faesydd Caer Caradog (Salisbury Plain), a elwir Cor Gawr (Chorea Gigantum), sef un o ryfeddodau penaf Lloegr. Y mae y cerryg ar y rhai y gosodir y Gromlech dan sylw mor uchel, fel y gall dyn ar geffyl farchogaeth dani heb ymgrymu; асу mae y garreg sydd wedi ei chodi fel hyn yn ddeunaw troedfedd o hyd, naw troedfedd o led, a thair troedfedd o drwch mewn un pen, ond ychydig yn deneuach yn y llall; ac y mae yn amlwg fod darn wedi ei dori ohoni, er pan osodwyd hi yno, sydd yn ddeg troedfedd o hyd, a phump o led, yr hwn sydd yn gorwedd fyth yn y lle. Y mae'r cwbl yn fwy nag y gall ugain o ychain ei dynu. Y mae saith o gerryg yn sefyll fel cromell, ar lun y lleuad newydd, o'r tu deheu ir garreg fawr, a dwy garreg syth yn gwynebu ar eu gilydd o'r tu arall iddi

Y mae lluaws o gerryg eraill o'i hamgylch, wedi eu gosod mewn dull tra thebyg i'r hyn a ysgrifenwyd yn I. Mac. xiii., ond yn unig fod ein cadgofnod ni yn fwy garw." Sonir wrthym am Gromlech gerllaw Poitiers yn Ffrainc, yn mesur gylch ogylch tua hanner cant o droedfeddi. Y mae amryw ohonynt yn Sir Fôn, ac fe fernir eu bod yn pwyso tros ddeg tynell ar hugain yr un. Yr oedd, hyd ddyddiau St. Patrig, un anghydmarol dlos a drudfawr yn y Werddon, ar fryn Brefin, wedi ei gorchuddio ag aur ac arian, ac yn cael ei hamgylchu gan fodrwy hardd o Feini Hirion, y rhai oeddynt wedi eu harwisgo â phres.

Gwyddom am ddim llai na deuddeg o'r Cromlechau hyn yn Lleyn. Un ar dir y Kim, yr hon sydd wedi cael ei thynu i lawr erys blynyddoedd, a'i defnyddio, fel y deallwn, i wneuthur adeiladau, un yng nghae "Llain-y-Garreg-Lwyd," ar dir Cilan Uchaf, yr hon oedd wedi syrthio, ond ag un gongl ohoni yn gorphwys ar un o'r colofnau pan yr ymwelasom â'r fangre yr haf diweddaf; un gerllaw talcen tý Hên Efail, Mynytho, yr hon sydd wedi ei dymchwelyd, ei hamddifadu o'i cholofnau er cyn cof, ac a fuasai wedi cael ei malurio, yn ol yr hyn a glywsom, onibai i'r tirfeddiannydd roddi gorchymyn am ei gadael yn llonydd; un ar glogwyn Tingwmmwd, Llanbedrog, yr hon sydd, fel yr olaf, yn gydwastad â'r llawr; dwy yn ymyl eu gilydd ar dir y Gromlech, ym mhlwyf Abererch, y rhai ydynt wedi syrthio, ond y mae dwy o'r colofnau i fyny o hyd, er fod lle i ni gredu fod darn o gopa un wedi cael ei dori ymaith; ac y mae un arall hynod o brydferth ar dir Treigwm, gerllaw Cefn Ammwlch, wedi goroesi canrifoedd dirifedi, yr hon sydd ar lechwedd y cae yn gorphwys yn ddisyfi ar dair colofn grêf, mor berffaith o ran ei hymddangosiad, allwn feddwl, a phan y gosododd y Derwyddon hi i fynu gyntaf. Ond y fangre hynotaf yn Lleyn am y gweddillion Hynafiaethol hyn ydyw yr ysmotyn rhyfedd yr arweiniodd y Parch. David Owen, Ficer Bryncroes, ni iddo, yr hwn sydd y tu Deheu-Ddwyreiniol i fynydd y Rhiw, ar dir Tan-y-Muriau, yng ngwyneb y môr tryloyw isod, traethell yr hwn a ymddengys fel hanner lleuad, neu hanner enfys o'n blaen. Yng nghanol yr olygfa orddeniadol hon y saif y Gromlech fawr, ym mòl y clawdd cerryg, ar dair colofn yn cael eu hattegu gan garreg drwchus yn y pen Gogleddol. Y mae ei bwrdd yn bedair troedfedd o drwch, yn un droedfedd-arddeg o hyd, a thros ddeg troedfedd o led. Gwelir dwy golofn yn y ddaear (y drydedd wedi cael ei symmud i ffwrdd), yr hyn sydd yn cadarnhâu fod Cromlech, neu Allor fechan yr ochr Orllewinol iddi pan yr oedd yn ei gogoniant, ond ei bod erbyn hyn wedi cael ei dinystrio. Tua phedair troedfedd-arhugain i'r Deheu oddiwrth yr uchod, deuwn o hyd i Gromlech arall, yr hon sydd etto yn sefyll ar dair colofn, ac yn mesur naw troedfedd o hyd, chwech troedfedd o led, ac un droedfedd o drwch. Maentumia y cerryg a gawn yma yn y ddaear o osodiad celfydd, fod Cromlech fechan neu allor yr ochr Orllewinol i hon etto, ond ei bod ar goll. Dangoswyd llecyn i ni tuag ugain llath oddiwrth yr olaf, lle y cawsom ein hysbysu fod Cromlech arall yn sefyll hyd yn ddiweddar, ond eu bod wedi ei hollti (!!) a'i throsglwyddo i lawr at y ty; ac wedi dangos ini y gweddillion, llwyddasom i fesur un darn ohoni, yr hwn oedd ychydig dros droedfedd o drwch, ac yn saith troedfedd a hanner o hyd, yr hyn sydd efallai yn ddigon i'n rhoddi ar ddeall ei bod yn llai na'r ddwy brif Gromlech arall yn y llanerch ryfedd hon.

Gan y gwna y darnodiad byr hwn y tro i ni fel desgrifiad, ni a awn yn awr yn ein blaen i chwilio beth allasai fod dibenion y rhelyw dieithrol yma yn yr amser gynt; ac nis gwyddom am un cynllun gwell i wneuthur hyn nag ymofyn am eglurhâd yn iaith ein cyndadau. Yr enw a roddir ar "Gromlech " gan hên Gymry Llydaw yw "Toalmen "töad + maen-tô + faen, yr hyn nis gall fod yn gosod allan ddim rhagor na bod y "garreg” yn “dô," neu yn cysgodi. Y gair cyfansawdd yma am "Crom" ydyw "tô,” ac ni fedrwn gael ei fod yn cyfleu mwy i'r deall na'r hyn gawn yn "cronglwyd"=cron, neu grom glwyd. Nid yw hyn yn myned ddim pellach i'r pwnc na dangos y "Gromlech" yn "llech"-y-"gronglwyd" i'r Derwydd i redeg dani. Sonia y Trioedd am "Faen Cetti," a chytuna y rhan fwyaf o ddysgedigion mai clawr y "Gromlech" a olygir; ond beth a feddylir wrth "Cetti" sydd ofyniad hawddach i'w holi na'i atteb. Dywed y "Celtig Davies" mai "Arch" ydyw yr ystyr. Gwyddom am "ceten"=blwch yn y Gymraeg, ond methwn weled un cyssylltiad rhwng y gair hwn ag ארון )aron), neu תבה )tebah)=arch, yr iaith Hebraeg. Anhêg fyddai cymhwyso pobpeth i'r "Arch" a'r "Diluw" heb reswm digonol dros hyny. Heblaw hyn, y mae dau "t" yn "Cetti,” a dim ond un yn "ceten,” heb sôn am ddim arall, yr hyn sydd yn profi ar unwaith ei fod yn air cyfansawdd, sef, "Cet + ti." Trwy gymmorth y Gernywaeg cawn "ti" yn "ty"=annedd, yr hwn a ysgrifenid yn yr Hên Gymraeg yn "tig"=Lladinaeg, "tego"=

gorchuddiaf, yr hyn sydd yn cyfeirio yn ddiau at "lech" y clawr, ac yn cyfatteb i “ Tôal" У Llydawaeg. A thrachefn yn iaith Cernyw, y mae "Cet"=" cyt"="ced"=cyd, yn gwneuthur y gair yng Nghymraeg yr oes hon yn "gyd-dŷ," neu “ gyd-dô," yr hyn sydd yn dangos fod y "Gromlech” yn dal cyssylltiad â'r Deml Dderwyddol, ac yn cyfeirio at "gyd"-gerryg y "gronglwyd" oedd ar ben y "Meini Hirion " yn y cylch. Y mae "-ti "tŷ neu "to" yn arwain y meddwl at yr un peth yn y Wyddelaeg, gyda golwg ar "-ti" yn "Cetti;" ac nis gwyddom ond am un gair yn yr iaith hon a fyddai yn debyg o daflu goleuni ar y blaenddodiad "Cet-," a hwnw ydyw "ceat," sef "colofn," yr hyn sydd yn portreadu mai yr ystyr yw "tó-ar-golofnau," a bod y Derwydd, pan yr oedd ei dderwen yn rhy noethlom i roddi ei nhawdd iddo, yn rhedeg tan "dô" yr adeilfeini hyn rhag y "cawodydd"=" ceata;" ac oddiwrth yr hên arferiad yma y cawsom y gair "llechu "= cysgodi, yr hyn sydd yn rhoddi rheswm tros ein bod yn canfod "llawr" y ddiddosfa hon weithiau wedi cael ei balmantu; a mwy na thebyg mai oddiwrth ffurf neu ogwyddiad y "llech" grybwylledig y cawsom hefyd y gair "llechwedd," yn ogystal â "llechwènu"= crymu (i daro).

Ond er y gall defnyddioldeb ailraddol y "Gromlech" fod yn cael ei amlygu yn y pethau a soniasom am danynt, ymddengys fod iddi ddibenion eraill mwy arbenig heb eu hegluro. Pwnc nesaf ein chwilfrydedd gan hyny fydd gwneuthur ymofyniad yng nghylch gwir ystyr y gair "llech." Yn gyntaf oll, deallwn ein bod ni yng Nghymru erbyn heddyw wedi colli yr "ch" a ddylai fod yn niwedd y gair "lle;" ac o ganlyniad ni fedrwn ei ddeongli yn ol dim cyfarwyddyd a gawn yn ein tafodiaith ein hunain. Dichon y bydd ambell un yn synu wrth gael ei gyfarwyddo i ystyried mai y gwreiddyn yn gyflawn yw "llech;" oblegyd gwelwn fod y diffyg hwn wedi cael ei gadw yn ddilwgr