Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yng Nghymraeg Llydaw, yn yr hon yr ysgrifenir y gair yn "llech," yr hwn, gyda ni erys talm, sydd wedi myned, trwy ddiogi ymadrodd, yn "lle." Rhaid cofio hefyd yr ysgrifenid ll yn l, ac ch yn c, yn yr Hên Gymraeg. Felly, ei ddiwyg disgynol oedd "lec," ond ei hên ffurf ydoedd "loc" Lladinaeg, "locus," yr hwn, gan yr awdwyr classurol, a ddefnyddid nid yn anfynych mewn cyssylltiad â'r "rostra" =yr areithfa, yr hyn sydd yn ein harwain at "Faen Llog" yr Orsedd, lle y traddodai y beirdd eu cenadwri (locutus). Amlwg yw fod yr hyn a gesglir oddiwrth yr awgrymiadau yma yn ein hargymhell i farnu fod "loc" a "llog," nid yn unig yn ddau efell, ond un brawd, ac eithrio y ffaith fod “loc" yn ei hên wisg, a "llog" yn ei ddillad newydd. Diau mai y meddwl cyntefig yw "Y Lle," hyny yw, y "Prif Le," neu os mynwch chwi, "Y Lle Cyssegredig," fel y mae y gair wedi myned erbyn heddyw am “le addoliad" yn Llydaw, megys "Lok"-Ranan, "Lok"-Tudi, a "Lok"-Harn.

Yn awr, i ddyfod â'n harchwiliad i bwynt, cawn mai ystyr y gair "Crom" yw "Cylch," yr hyn sydd ar unwaith yn dwyn ger ein bron "Gylch" y Deml Dderwyddol. Gwyddom oll fod y "Cylch" hwn yn neillduo y "loc," neu " Y Lle Cyssegredig," ac mai o fewn ei derfynau ef yr oedd gweithredoedd y dirgeledigaethau yn cael eu cyflawni.

Ond o herwydd fod pethau yn newid yn fawr trwy hir arferiad, mewn amser, yn ol yr hyn a alwn mewn iaith yn drawsenwad (metonymy), fel y nodasom fod " llechu" wedi ymnewid am gysgodi mewn unrhyw le, oddiwrth lwyfan holl "ddrych" eu gweithredoedd, cymhwyswyd y sylw at "Wrth-ddrych" eu defodaeth, ac aeth "Crom" yn enw ar Dduw. Anhawdd meddwl y gallesid cael enw gwell; oblegyd y mae y "Cylch" (circle) yn hên arwyddlun o dragywyddoldeb'; ac felly, yn deitl ardderchog ar y Bôd Tragywyddol. Fel yna hefyd yr aeth y "Loc" Derwyddol yn "lec," ac i gael ei arfer am lecyn clawr y "Gromlech" pan y byddai efallai, fel Capel Anwes yr oes hon, yn cael ei chodi er mwyn cyfleusdra i'r Derwyddon pan yn rhŷ bell oddiwrth y brif Deml. Felly yr ydym yn cael ddarfod i "lec" fyned yn "allor" "Crom," ac i'r Derwydd a weinyddai wrthi gael ei alw ym mhen amser yn "Cromtear," hyny yw, "Offeiriad Crom." Rhai a farnant fod y garreg wedi cael ei galw yn "Gromlech" am fod ochr ei chlawr yn "grom," ond ni fuasai waeth i'r coleddwyr hyn ddywedyd fod y Derwydd yn cael ei alw yn "Cromtear" am fod ei gefn yn "grwm." Nid oedd na morthwyl na llwyarn i gyffwrdd â hi, a pho fwyaf o briodoleddau ei nhatur gynhenid a welid arni, mwyaf o sicrwydd ei chyssegredigrwydd fyddai yn dyfod i'r golwg, ac yr oedd yn rhaid cael ei hochr isaf mor llefn âg oedd modd, fel y gallesid ei gosod yn safadwy ar ei cholofnau, yr hyn nid oedd yn orchest mor wyrthiol âg a fuasid yn meddwl, gan fod gallu cenedl yn barod at y gorchwyl.

Trwy arllwys y tir at ddibenion amaethyddol, yr ydys o bryd i bryd wedi dyfod ar draws cyrn ac esgyrn anifeiliaid gerllaw y Cromlechau hyn, yn gymmysgedig a lludw, darnau o goed wedi eu golosgi, a cherryg wedi eu cochi gan dân, yr hyn sydd, yn ogystal â'r pethau a nodwyd yn barod, yn arwyddocâu i'r hên allorau yma gael eu defnyddio gynt gan y Derwyddon i aberthu arnynt; ac yn ol cyfarwyddyd ein cwmpawd, yr ydym yn eu cael, er ein mawr syndod, yn cyfeirio o'r Gogledd i'r De, ac yn wynebu y Dwyrain a'r Gorllewin yn dra thebyg i'r Allorau yn ein Heglwysi! Fe ddywed Celtiaid yr Alban hyd heddyw yn eu hiaith gyffredin, naill eu bod yn myned i'r "cerryg," neu yn dyfod o'r "cerryg," pan yn golygu eu bod yn dychwelyd, neu yn myned i “dŷ addoliad," yr hyn sydd, fel y bernir, wedi ei gadw ar lafar gwlad yn eu plith, er pan oeddynt yn addoli ger bron hên allorau cerryg y Derwyddon.

Capel Gwerthyr.

SAFAI y Crefydd-dy bychan hwn ar fryneyn tlws

gerllaw Nanhoron, mewn cae a elwir "Cae-yCapel;" ac anhawdd fuasai cael yn Lleyn brydferthach ysmotyn at yr amcan. Y mae y ddôl werdd yn gwenu gylch ogylch, yr afonig loyw yn ymddolenu heikio, y llwyni gwyrddion yma a thraw yn addurno y maes, a'r adar yn telori rhwng eu canghenau. Yr oedd ffordd yn arwain yma gynt o gyfeiriad Llangian, ac yr oedd darn o'r hên balmant i'w weled mewn cae gerllaw hyd yn ddiweddar. Ystyr y gair "Gwerthyr" yw "Amddiffynfa," ac ar ol dyfal chwilio, cawn fod y Capel wedi cael ei adeilada ar seiliau hên Wersyllfa Brydeinig, lle y bu cyndrigolion y fro yn trafod arfau rhyfel, ac yn amddiffyn eu hawliau yn y cwm. Y mae ogof gyferbyn mewn lle a elwir "Nant-yr-Ala;" ac fe ddywedir wrthym gan un a fu i fewn, fod dwy ystafell fechan bob tu iddi yn y pen draw, a disgynfa ddofn ar derfyn eithaf y fynedfa. Oddiwrth y desgrifiad a gawsom, amlwg yw mai nid gwaith natur yw yr ogof hon, ond diogelfa dan-ddaearol i redeg iddi yn amser gwrthryfel, pan y byddai y gelyn yn anorchfygol, ac yn debyg o roddi terfyn ar fywyd yr ymguddiwr, pe gwybyddai am ei loches. Y tebygolrwydd yw, fod y ddirgelfa yma yn perthyn i gyfrinion Gwerthyr, fel y canfyddir yn aml mewn cyssylltiad â hên amddiffynfeydd.

Ond i fyned ym mlaen oddiwrth y brwydro a fu yn y lle hwn mewn ystyr llythyrenol, rhaid i ni fyned rhagom at y filwriaeth ysprydol a gymmerwyd mewn llaw yn erbyn y diafol a'i aneirif gynllwynion i ddal eneidiau plant dynion yn ei rwydau dinystriol ei hun. Dywedir wrthym mai Capel perthynol i'r "Pabyddion" ydoedd hwn; ond ag i gymmeryd pob

peth i ystyriaeth, er na olygwn ei bod yn annichonadwy i egwyddorion y bobl a adweinir wrth yr enw uchod i gael cyfleusdra i ymsefydlu yn y fangre hon, etto, credwn nas gallasai hyn gymmeryd lle ond yn achlysurol yn y cyfnod y cyfeirir ato gan y rhai a arweiniwyd i goleddu y syniad hwn; oblegyd ychydig, os dim, o ymosodiadau Eglwys Rhufain a gawn yn Lleyn yr amser yna. A chaniatâu i ryw ymwelydd gyda'r fath ddaliadau, trwy ffawd neu anffawd, gael lle i roddi ei droed i lawr, nis gallasai hyny fod ond am adeg fer, onidê, fe fuasai yr achos hwn, fel pob achos arall, wedi gadael ei effaith ar ol. I wneuthur chwareu teg â'r cwbl, rhaid i ni edrych ar y gwirionedd yn ei gyfanrwydd, fel yr ymddadblyga yn yr olygfa sydd o'n blaen. Yma y canfyddwn gylch crwn yr hên amddiffynfa, ar gopa bryn bychan tra chymhwys at y gwasanaeth, a llecyn y fynwent wedi cael ei gyfyngu tu fewn i'r un terfynau, a'r cyssegr yn y canol, yr hyn sydd yn eglur ddangos i'r Eglwys fechan hon gael ei hadeiladu dan nawdd diogelwch amddiffynol y wlad, pan yr oedd y cyfryw drefniadau yn cyfnewid, ac yn awchus fabwysiadu llywodraeth well, dan faner cyfiawnder a heddwch yr Efengyl. Yr oedd ychydig o weddillion yr hên glochdy i'w gweled tua chant a hanner o flynyddoedd yn ol. Cludwyd y rhan fwyaf o gerryg y Llan i adeiladu tai tyddyn gerllaw a elwir Creigfryn. Pan yr oeddid yn chwalu y fynwent, suddwyd i lawr i feddrod, lle yr oedd esgyrn a gwallt dynol; ac wrth aru y fan tua thri ugain mlynedd yn ol, deuwyd ar draws lluaws o esgyrn eraill. Mewn ychydig bellder yng nghyfeiriad Nanhoron y mae "Ffynhon Gwerthyr," ond barnwn fod yma un arall gynt, yn yr ochr Ddeheuol, lle yr oeddynt yn cael dwfr i fedyddio, ac y mae yma ychydig o'i holion i'w gweled yn bresennol.

Llandinwal.

ARLLENWN yn hanesyddiaeth Carnhuanawe fod brenhin o'r enw "Dunwal"="Dunwalon," neu "Dunwallawn," yn y ddegfed ganrif, wedi myned i Rufain i "gymmeryd coryn," hyny yw, i eillio caran ei ben, yr hyn sydd yn arwyddocâu iddo ymgymmeryd âg urddau Eglwysig; ac er y buasai yn ddigon naturiol i ni feddwl y gallasai ar ei ddychweliad deimlo awyddfryd yn ei galon i dreulio gweddill ei ddyddiau yng ngororau Ynys y Saint, gan nad oes genym brawf iddo ymsefydlu yn y parthau yma, nis gallwn sicrhau fod un cyssylltiad rhyngddo ef â'r lle hwn. Ac yn wir, nid oes eisiau i ni fyned o'r fangre ei hun i chwilio am eglurhâd ar hên enw "Llandinwal;" oblegyd y mae neillduolrwydd yr ardal yn esbonio ei hun. Y mae mwy o lenyddiaeth yn guddiedig mewn hên enwau lleoedd nag y buodd y rhan fwyaf o bobl yn tybied. Gallasai y Cymro un-ieithog, a'r mwyaf anllythyrenog ddywedyd wrthym ar unwaith fod "Cefn-y-Gaer" yn ei fynegiant, yn arwain y meddwl at ryw "Gaer" neu gilydd yn y gorphenol; ac os daw yr hwn sydd yn gyfarwydd yng nghynlluniau a dyfeisiau yr hên oesoedd ym mlaen, nid hir y bydd cyn dyfod ar draws ysmotyn yr hên "Gaer," yr hwn sydd grwn fel yr hên amddiffynfa oedd gynt ar ei wyneb, ond sydd yn awr wedi cael ei gau i fewn gan glawdd pridd bwäog tua chan llath o leiaf yn ei amgylchedd, ac wedi ei lanw â choed eithin. Daethom o hyd i'r lle trwy ein chwilfrydedd a'n cyfarwyddyd ein hunain yn unig, gan feddwl wrth reswm nad oedd y peth wedi tynu sylw neb o'r blaen; ond wrth ymgynghori a