Hynafiaethydd arall, cawsom ei fod ef wedi darganfod sail yr hên “Gaer" erys llawer o flynyddoedd yn ol, ac wedi dyfod i'r un penderfyniad.
Yn awr, fel y dywedasom lawer gwaith o'r blaen, ystyr y gair "din"="dun" yw "amddiffynfa;" ac y mae "wal" yn gyfystyr a "mur" neu "gaer." Felly, rhoddwn ni sylwedd y casgliad wrth ei gilydd, cawn mai yr hyn a olygir wrth "Llandinwal" yw "LlanMur, neu Gaer-yr-Amddiffynfa." Gwelwn fod cyflead enw "Cefn-Gaer" wedi bod yn foddion i'n harwain at Wersyll milwrol yr hên “ Dinwal"="Castra Vallo," yr hon un amser yn ddiamheuol a fodolai yn y maes gerllaw; gadawer i ni gan hyny wneuthur archwiliad yr un modd yng nghylch y "Llan" y sonir am dani yn yr enw uchod, i gael gweled a goronir ein trafferth â'r cyfryw lwyddiant. Y mae ffordd lydan, am ychydig latheni, yn arwain o'r Palmant Mawr, a elwir “Lôn Colij,” yr hon a derfynai mewn lle a elwid gynt "Y Colij." Rhai ddywedant eu bod yn cofio ychydig o hên furiau y murddyn; ond y mae y cwbl erbyn hyn wedi cael ei gludo ymaith, fel nad oes yma gymmaint ag un maen o hono i'w ganfod; a'r unig "adgof uwch anghof" am yr hên breswylfa yw y goeden sydd yn tyfu ar ganol y cae. Bron ym mhen y “Lôn” y mae Ffynhon Colij," yr hon sydd loyw fel y grisial, ac yn tarddu yn ddiffael yr amser sychaf yn yr haf; ond barnwn fod ei dwfr yn cael ei drosglwyddo i'w gronell bresennol trwy gelfyddyd, a'i bod gynt yn nês i fewn yn y cae, yr hyn sydd yn peru i ni feddwl fod yr hên ffynhon wedi cael ei chau. Nid oes amheuaeth nad "Coleg" yw y "Colij" uchod, ond ei fod yn cael ei ysgrifenu yn ol llafar gwlad; a chan belled ag y mae cyfarwyddiad iaith enwau yn ein harwain, yr hyn fel rheol sydd yn siarad cyfrolau, gellir meddwl fod rhywbeth yn y caddug yn dwyn tystiolaeth fod yma addysg yn cael ei roddi rywfodd mewn cyssylltiad â'r hên “Lan," am yr un rheswm ag y dywedir fod hên Eglwys Aberdaron yn "Collegiate
66
Church." Ac efallai mai olion, neu efelychiad o'r cyfryw sefydliadau yw ein hysgolion Eglwysig.
Gerllaw y "Dinwal," yng nghae talcen tŷ Ffridd Cefn-Gaer, deuwyd ar draws amryw o feddau, o bryd i bryd, wrth aru y maes, yr hyn sydd yn cadarnhau mai yma yr oedd y Fynwent. Cawsom ein hysbysu lawer gwaith yng nghylch y ffaith hon, a daethom o'r diwedd i'r penderfyniad o wneuthur archwiliad, i gael gweled a oedd y peth yn wirionedd. Buom mor ffodus a sicrhâu gwasanaeth dyn a fu am flynyddoedd yn was ar y tyddyn crybwylledig, yr hwn a wyddai trwy ganfyddiadau a'i lygaid ei hun am y manylion yr ymofynem am danynt. Dymunasom arno ddangos i ni un o'r beddau, i'r hyn y cydsyniodd. Ar ol cloddio i lawr, daethom o'r diwedd o hyd i'r llechau oedd ar wyneh y bedd, ac wedi ei agor, cawsom fod yr ochrau wedi cael eu gweithio yn ddestlus â cherryg. Yr unig weddillion a fu dan ein sylw oedd y penglog, yr hwn a roddasom yn ol yn y beddrod yn barchus fel y cawsom ef; a phan yr ymwelasom â'r fangre drachefn, yr oedd y dywarchen lâs wedi tyfu ar ei wyneb, fel nas gallesid byth ddychymygu fod neb wedi cael ei gladdu yn y lle. Gŵyr pawb fod holl Eglwysi Cyssegredig ein gwlad ag un pen yn cyfeirio i'r Dwyrain, a'r pen arall i'r Gorllewin, ac y mae y beddau, fel rheol, yr un fath. Er mwyn gweled pa un a gladdwyd yn y fan hon dan yr oruchwyliaeth Gristionogol ai peidio, pwnc nesaf ein harchwiliad oedd cael allan a attebai y bedd dan sylw i'r desgrifiad uchod, a chaem ar unwaith y gwnai yn hollol, hyny yw, yr oedd un pen iddo yn wynebu y Dwyrain, a'r pen arall yn wynebu y Gorllewin, yn dra agos i gyfarwyddyd ein cwmpawd, yr hyn sydd yn myned ym mhell i brofi fod y beddrod hwn wedi cael ei ffurfio yn gyfochrog â hên furiau "Llandinwal,” ac mai yn y fan yma yr oedd y Fynwent. Y tebygolrwydd yw fod y ffordd yn awr yn myned trwy ddarn o honi. Wrth syn-fyfyrio
uwchben yr olion hynafol hyn, nis gallwn lai na dywedyd, er mor gedyrn yw
Caerau a muriau mawredd,
Enaid byw! ni cheir ond bedd.
O.Y.-Darganfyddwyd yn ddiweddar fod "Llwybr Eglwys" o St. Cwyfan heibio Brynmawr a Nant Seler i Eglwys Llandinwal.
Capel Bryn-y-Gaer.
☑R ydym wedi defnyddio y gair Capel mewn pennawd un waith o'r blaen, a chan ein bod yn tramwyo trwy feusydd Hynafiaethol, efallai y disgwylir i ni egluro beth a olygir wrth yr enw. Olrheinir ef o "Capeleia"=pebyll-mewn-ffeiriau ; "Chape"=mantell; "A Pellibus Caprarum" crwyn geifr, y rhai a orchuddient benau tai; ond mwy na thebyg ei fod wedi cael ei gymmeryd oddiwrth "Cappa," sef capan, neu gob St. Martin, yr hwn a ddefnyddid fel lluman gan frenhinoedd Ffrainc, ac a gedwid yn ofalus mewn pebyll cyfaddas i'r amcan, y rhai ond odid a elwid yn " Gapeli." Beth bynag am hyn, defnyddid yr enw am Eglwysi bychain, neu israddol, y rhai oeddynt bob amser yn amddifad o brif ragorfreintiau y flaenoriaeth. A dyna yn ddiau yw y rheswm fod cynnifer o'r hên sefydliadau hyn wedi myned i lawr yn Lleyn, fel y gwelwn o'n blaen yn y fangre hon.
Yr oedd hên drigolion y wlad yn bur hoff o'r "fre," oherwydd ei hwylusdod at eu gwahanol ddibenion. Yma saif hon un ochr i'r cwm, a Charn Bodfuan yr ochr draw, a'r enw yw "Bryn-y-Gaer," yr hyn sydd yn eglur awgrymu fod yma warchodglawdd yn yr hên amseroedd, a'r prif beth sydd yn cadarnhâu hyn yw ffurf fwäog darn o'r clawdd, yr hwn ellir yn dra phriodol ei alw yn adgyweiriad ar yr ysmotyn o'r hên " Gaer." Oddiwrth y lluaws amddiffynfeydd yma, gallwn gael golwg ar wahanol drefniadau hên lywodraeth y Prydeiniaid cyn, ac ar ol, eu goresgyniad gan y Rhufeiniaid; a dengys eu rhifedi pa fodd yr oedd y wlad wedi ymsefydlu yn amrywiol etifeddiaethau, a hawliau pob un o'r rhai hyn yn cael eu diogelu yn ddiau gan amddiffynfa. Ond pan ddaeth Crefydd Mab Duw i fewn, yr oedd dylanwad yr Efengyl y fath, fel yr oedd mabwysiadu ei hegwyddorion yn atteb y diben yn lle amddiffynfa. Felly yn y fan hon, yn ogystal âg yng Ngwerthyr Nanhoron, cawn fod yr addoldy wedi cymmeryd lle y wersyllfa, a'r waywffon goch wedi cael ei thaflu i lawr tan deyrnwialen aur buddugoliaeth y Groes. Hên furiau diaddurn y Gaer a aethant yn glawdd Mynwent, i warchod llwch y meirw. Yn lle oernadau bygythion, ac ocheneidiau clwyfedigion y frwydr, trawsgyweiriwyd y cwbl yn odlau o orfoledd i byncio cân Moses a chân yr Oen.
Enw un o'r caeau gerllaw yw "Cae-yr-Arian," yr hyn sydd yn dwyn ar gof i ni amser cythryblus y gwrthryfeloedd, pan y byddai y bobl yn gorfod cuddio eu harian a'u trysorau yn y meusydd; ac nid oes dim yn fwy tebygol nag i drigolion y "Gaer" wneuthur hyny yn y fan hon, rhag i'r gelyn ladrata, ac ymgyfoethogi ar bwys eu llafur hwy. Dywedir wrthym fod cerryg y sacra aedes wedi eu cymmeryd i adeiladu amaethdy Penhyrgan, a bod llawer iawn o saint wedi cael eu claddu yn yr hên fynwent.
R
Twtil.
YMA yr enw a roddir ar gopa bryn bychan, ar dir Nyffryn, gerllaw Foel Fawr, ym mhlwyf Llaniestyn. Dywedwyd wrthym ar y cyntaf fod hên Eglwys wedi cael ei hadeiladu yma, ond wedi gwneuthur archwiliad, cawsom fod hyn yn anghywir. Gwnaethom ymgais i gael goleuni ar y pwnc oddiwrth Twtil tref Caernarfon, ond i fesur yn aflwyddiannus. Barnwn mai yr eglurhad goreu fydd yr hyn a gasglwn oddiwrth yr ysmotyn ei hun, yr hwn sydd ryw fath o "tumulus" tomen="tutaigil"=tut= tud, ac yn mesur yn bresennol tua phedair-llath-arddeg o led ac ugain o hyd, er ei fod ar y cyntaf efallai yn grwn. Y mae y crug (barrow) erbyn heddyw yn dra adfeiliedig, a llawer iawn o'r cerryg wedi cael eu cludo ymaith, fel nad yw ar yr olwg gyntaf yn ymddangos ond megys twmpath go fawr o'n blaen. Amlwg yw fod "Twtil" yn tarddu o'r hên air Cymraeg twt=tut=Llydawaeg, tut=tud= Gwyddelaeg, tuat tuad Gaelaeg, tuat Umbraeg, tuta, ffurf arall o'r Lladin totus=pawb, a'r terfyniad "-il," yr hwn ysywaeth a welwn mewn dadblygiad yn y Seisonaeg total. Yma dylem ddywedyd mai ffurf hynaf o ac w oedd u. Ac nid yw yn annhebyg na ddefnyddid y gair yn yr hên amseroedd mewn ystyr fwytheiriol (euphemistic), fel y Lladin "plures," a'r Groeg “hoi pleiones"=y meirw. Ond ar bwys yr holl bethau hyn, nid ydym heb feddwl nad ydyw "Twt" yn "Twtil" (gan fod t=d, ac w=u), yn gyfystyr â'r cyflead Cymreig yn tud, sef, tir=Llad. terra, a bod "-il" yn rhywbeth tebyg i "ment" yn y gair Seisonig "interment"=daearawd, neu yn ol y dull cyffredin o siarad "Y Gladdfa"=Tudell.
Er prawf o hyn, treiddiasom i fewn i'r pentwr, a chawsom ynddo ddarnau o goed wedi cael eu golosgi,