Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y rhai yn ddiau a ddefnyddid i losgi gweddillion marwol y rhai a aethant i ffordd yr holl ddaear. Hefyd, ym mhlith y rhelyw, gwelsom aml garreg gallestr (flint), gyda'r hon, fel yr ymddengys, y cynneuent y tân, ac mewn un man daethom o hyd i ddarn o asgwrn braich, yr hwn a elwir radius. Dywedir wrthym fod dwy gynnog, yn cynnwys llwch dynol, wedi cael eu darganfod yma ychydig flynyddoedd yn ol; ac y mae traddodiad y gymmydogaeth yn cadarnhâu y pwnc yng nghylch "Perthen Bwbach," yr hon sydd gerllaw. Rhydd y pethau hyn eglurhad i ni ar y dull o gladdu yn yr hên amseroedd o leiaf ddeunaw cant o flynyddoedd yn ol.

O.Y.-Rhai dreigliant "Twtil" o "tutela"=diogelfa, gwylfa, neu le yn cael ei wilio.

Eglestadell.

AWN yr enw hwn yn "Taxatio" Nicholas IV., fel enw Eglwysig yn Lleyn; ac er nad yw yr ysgrif hon yn awdurdod mewn Iawn-lythyreniad, nac yn rhoddi i ni ddesgrifiad o'r lle, tueddir ni gydag eraill i feddwl mai yr ystyr ydyw Eglwys-Ystafell, a'i bod wedi cael ei hadeiladu ar dir Coch-y-Moel, gerllaw hên drêf Dindywydd. Gan y cawn fod Crefydd-dai mor luosog yr adeg hon yn Lleyn, anhawdd meddwl fod trigolion y drêf yma heb yr un. Mwy na hyn, os cymmerwn y drafferth o wneuthur archwiliad, gwelwn yn fuan iawn fod yma ddigon o brofion i gadarnhau y golygiad hwn; oblegyd gerllaw, deuwn ar draws y fath enw a "Chae Hên Fynwent," lle yn ddiau yr oedd Claddfa Eglwys-Ystafell, gan ei bod yn y "Taxatio" crybwylledig yn cael ei rhestru gydag Eglwys Bryncroes, a thrêth y ddau le yn cael ei hattodi yn yr un swm. Dywedir wrthym fod cerryg beddau wedi cael eu codi yn y cae uchod tua chan mlynedd yn ol, ac yr oedd darn o fur yr hên Eglwys, fel y tybir, i'w weled yr amser hwnw.

N

Capel Cwm Dyli.

☑N "Cae Cyndal," ar dir Meillionydd, ddim ym mhell oddiwrth hên Amddiffynfa Brydeinig "Lleiniau-yr-Ymryson," y safai y Capel hwn, yng nghysgod mynydd uchel y Rhiw, ac y mae ffordd yn arwain oddiwrtho i hên Eglwys Llanfaelrhys. Sonir am dano mewn hên ysgrifeniadau, 1291 A.D., yn gyssylltiedig a "Denolyant,” ac anhawdd gwybod pa le oedd "Denolyant," os nad Llan "Dinwal." Os felly, y mae hyn etto yn cadarnhâu yr hyn a ddywedasom am yr olaf. Rhai a feddyliant mai ystyr y gair "Dyli" yn y fan hon yw Dylif diluvium= deluge; ond rhaid cofio nad yw y dwfr sydd yn tarddu yn y Cwm ond ffrwd fechan, ac nad yw yn naturiol yn cydweddu a'r hyn a ddeallwn wrth Ddylif. Yr enw ar lafar gwlad yw Capel Cyndal, fel y buasai llawer un yn cael ei arwain i feddwl mai Cyndal oedd ei sylfeinydd; ond y mae lle i farnu fod cyssylltiad rhwng "Cyndal" a "Cwm-Dyl-," ac nad yw yr "i" ar ol yr "l" ond terfyniad. Yn "Taxatio" y Pab Nicholas ysgrifenir ef "Kamdylyon." Anhawdd iawn i Sais yw meistroli yr "w" Gymreig, a gellir meddwl ei bod yn naw gwaith anhawddach i Bab wneuthur hyny; gan hyny nid ydym yn rhyfeddu ei fod yn ysgrifenu "Kam" yn lle "Cwm." Diau mai yr hyn a amcanai ei roddi ar ddu a gwyn oedd "Cwmdylion"=Cwm=A.S. Combe pant + dylion=y rhif luosog o dyl=dyled=tâl yn "Cyn + dal," yr hyn a esyd allan y "tal" oedd ddyledus o'r "Cwm" yr

amser hwnw i Fangor Enlli, a bod Enlli ar y llaw arall yn rhoddi Capel i'r Cwm yn gydnabyddiaeth am y "Cyn + dal." Dywedir wrthym gan rai o'r hên bobl eu bod yn cofio chwalu clawdd yr hên fynwent; ond erbyn heddyw y mae y cwbl wedi ei ddileu mor llwyr, fel nad oes ond y dywarchen lâs â'r blagur ar ei gwyneb, lle y bu seintiau unwaith yn plygu ar eu gliniau i addoli Tad yr holl drugareddau pan yr oeddynt yn fyw, ac a orweddant etto yn llwch ym mhriddellau y fangre wedi marw.

Dywed Owen Jones, yn ei "Gymru Hanesyddol, Barthedegol, a Bywgraphyddol," fod gerllaw ddwfr yn dyfod allan dan y ddaear yn ffrwd lifeiriol, o gafn tebyg i wneuthuriad dyn, er nad ydyw namyn gwaith natur. Gall hyn fod yn wir yn ei ddyddiau ef; ond, er manwl chwilio, methasom ddyfod o hyd i'r tanddaearol gafn; etto, ni a welsom y Ffynhon a berthynai i Gapel Cyndal, yr hon sydd yn llawn dwfr, ac yn derbyn ei chynnwysiad o'r ffrydlif sydd yn rhedeg allan odditan y bryncyn. Diamheu y dangosid cryn lawer o edmygedd tuag ati yn yr oesoedd hyny, ac mai a'i dwfr hi yr oedd offeiriad y Llan yn bedyddio.

V Ffynhonau Cyssegredig.

ARLLENWN yn y Bibl am bethau pwysig

weithiau yn cymmeryd lle gerllaw y ffynhonau, a sonir am lawer o honynt, megys ffynhon Esec, deuddeg ffynhon Elim, ffynhon dyfroedd Nephtoa, ffynhon fawr Sechu, ffynhon Harod, ffynhon Sirah, ffynhon Jacob, &c. Felly gynt ym mhlith y pererinion yn Lleyn, yn ogystal âg ym mhlith y Derwyddon. Cawn yma o leiaf ddwy ffynhon Fair, sef un ym Mryncroes, a'r llall yn Uwch Fynydd yn perthyn i

Eglwys Fair; ffynhon Leuddad (Laudatus), a ffynhon Batrig gerllaw Carrog, ffynhon Odo wrth droed Mynydd-yr-Ystum, ffynhon Dwrdan ar dir Bodwrdda, ffynhon Aelrhiw gerllaw Eglwys y Rhiw, ffynhon Llandudwen, ac eraill ydynt naill ai wedi cael eu crybwyll yn barod, neu ynte wedi eu dinystrio gan amser, fel y mae yr holl rai a enwasom i fesur mawr. Byddai muriau pedronglog (square), a meinciau cerryg tufewn i'r bobl i eistedd, gyda grisiau i fyned i lawr i'r dwfr, yn gyffredin yn perthyn i'r ffynhonau hyn, fel y gallwn etto olrhain yn adfeilion ffynhon Aelrhiw, a ffynhon Fair, Bryncroes. Y mae un peth hynod arall yng nglŷn a'r tarddellau neillduedig yma, hyny yw, y maent yn mynych fwrlymu i fyny fel cawod o sêr i wyneb y dwfr, yr hyn ysywaeth oedd yn rhoddi y pris cyntaf arnynt yn yr oesoedd coelgrefyddol a aethant heibio.

Ond ag i ni ddadlenu ychydig o gyfrinion Hanesyddiaeth, er y gellir dywedyd i'r ffynhonau yma fod o wasanaeth i'r saint i dori eu syched pan ar eu pererindod i Ynys Enlli o wahanol gyfeiriadau, etto, ar bwys ffeithiau Hynafiaethol, gorfodir ni i ystyried mai lleoedd oeddynt at wasanaeth Sacrament y Bedydd, ym more oes Crefydd. Rhaid cofio mai yn afon yr Iorddonen y bedyddiwyd yr Arglwydd IESU GRIST, a dywedir i'r ysmotyn cyssegredig hwnw gael ei gau i fewn a marbl, a bod cannoedd yn myned yno i gael eu bedyddio ar Gosper yr Ystwyll. Rhydd Iestyn Ferthyr a Thertulian ni ar ddeall mai allan yr oeddynt yn bedyddio yn eu hamser hwy. Yr oedd y Fedyddfa (Baptisterium) tu allan i Eglwys y Bêdd yn Jerusalem yn y Bedwaredd Ganrif, a thu allan yr oedd hefyd yn St. Sophia, Constantinople, A.D. 530. Archesgob Cuthbert a adeiladodd ei Fedyddfa tu allan i'r Eglwys Gadeiriol yn Canterbury tua chanol yr Wythfed Ganrif. Deallwn mai hyn oedd arferiad yr Eglwys yn y Dwyrain a'r Gorllewin am y Chwe' Can mlynedd cyntaf, ac mewn rhai eithriadau i fyny i'r Ddegfed Ganrif. Gan hyny nid ydym yn rhyfeddu fod ffynhon (fons) St. Aelrhiw wedi cael ei hadeiladu gerllaw Eglwys y Rhiw, a ffynhon Fair yn ymyl Eglwys Bryncroes, ac i'w dwfr gael ei ddefnyddio ym Medyddiadau yr Eglwys. Ond diau fod y ffynhonau hyn yn hynach o lawer na'n hadeiladau Eglwysig, a bod y genadwri am Waed y Groes yn cael ei phregethu gerllaw iddynt, a'r dychweledigion yn cael eu bedyddio â'u dyfroedd, pan yr oedd y bobl yn cael eu troi o baganiaeth i fabwysiadu Crefydd Mab Duw, yr hyn a rydd esboniad ar y ffaith ein bod yn cael rhai o'r ffynhonau yma lle ni bu Llan erioed, ac hefyd fod cynnifer o'n Heglwysi wedi cael eu hadeiladu gerllaw iddynt, a rhai diweddarach efallai wedi efelychu yr hên gyfundrefn.

Capel Odo.

RWEINIR ein meddwl drachefn i fangre yng nghae Moelfre (bre bryn), lle y dywedir wrthym y safai Capel Odo, wrth droed Mynydd-yrYstum, ym mhlwyf Aberdaron; ond yr unig olion ellir eu gweled yma yn awr, fel y mae gwaethaf modd, ydyw y gwrych ar wyneb y ddaear, lle y dychymygir yr oedd clawdd y fynwent, yn yr hon yr ystyrir i gannoedd o bobl gael eu claddu, fel yr oedd y pridd a gludwyd allan o honi, ychydig o flynyddoedd yn ol, yn "wyn o esgyrn dynol."

Nid ydym yn gwybod fod un petrusder yng nghylch safle a bodolaeth y Capel ei hun, ond y mae cryn lawer o amheuaeth pwy, neu pa beth oedd Odo. Blagurai Sant o'r enw yma tua'r Ddegfed Ganrif yn Cluny, yr hwn oedd yn dra enwog mewn cerddoriaeth, ac nid yw yn annichonadwy i'w glod o'r Cyfandir ymledu i fynyddoedd Cymru. Yr oedd wedi myned mor bell gyda'i fiwsig, fel yr annogai y llefarwr i