ganu ei bregeth yn y pwlpid, a nodai allan y drefn i wneuthur hyny mewn llythyrenau tebyg i hyn:NOJAFNO FEFA FNE-&c. Gwyddom fod y Cymry yn ddigon hoff o ganu, ond nid ydym yn meddwl y buasai neb yn Aberdaron yn cyflwyno Capel i ddyn am weithredoedd fel hyn. A pheth arall, methwn gael cymmaint ag un engraipht yn, nac allan o Leyn, i brofi fod Capeli Anwes= Chapels of Ease, yn cael eu MABwysiadu i Fabsaint yn yr oesoedd cyntefig, am y prif reswm nad oeddynt yn cael eu cyssegru. Gan hyny, rhaid mai rhywbeth arall fu yn achlysur i roddi yr enw uchod ar yr addoldy hwn. Dywed y Celtig Davies fod y Temlau Derwyddol yn myned wrth yr enw "Odo"=Go + dô, am eu bod heb "dô," oddieithr ar golofn-feini y cylch. Rhywbeth tebyg a ddywed Le Gonidec ar y pwnc; a dyna ydyw y desgrifiad roddir o dai cyntaf ein gwlad yn, ac oddiamgylch yr hên Amddiffynfëydd, fel yr ydym yn cael yn MSS. Camden ac eraill, fod un llwyth, neu fyddin yn cael eu galw yn "Otodini"= Ododiniaid=Go=lled + do tô + din amddiffynfa= pobl y ddinas oedd a'i thô yn ychydig, a bythgenir eu clod i ni yng ngherdd ysblenydd y "Gododin." Anhawdd coleddu syniad gwahanol am nenfwd hên adeiladau yr Eglwys ym more ei hoes. Gwyddom ei bod am y Ddwy Ganrif Gyntaf heb fur na phared. A phan oedd trigolion cymmydogaeth y Foelfre yn gweled eu Capel yn yr oes anghelfydd hono yn rhanol tan "dô," nis gellir rhyfeddu llawer iddynt ei alw yn "Gapel Odo." Wrth derfynu, ond odid mai têg fyddai i ni grybwyll i'r adeilad gael ei alw yn "Gapel Odo," ac nid Capel Godô, oherwydd fod yr "g" mewn cystrawen o'r natur yma yn cael ei gadael allan, yn ol deddf gywrain cyfnewidiad llythyrenau yn iaith ardderchog y Britaniaid, yr hon a eilw y dysgedig Lhwyd yn "Permutation or Omission of Initial Consonants." Gwêl ein sylwadau olaf ar Amddiffynfa Mynydd-yr-Ystum.
Capel Annelog.
Ny pant, wrth odre Uwch Fynydd, gerllaw ffynhon ac afon y Saint, y safai y Capel uchod, ond nid oes bellach gymmaint a charreg ar garreg i'w gweled o'i adfeilion erys blynyddoedd lawer. Ystyriwn y fangre yn lle unig a thawel, ag ynddo lawer o gymhwysder i'r hên dduwiolion i ymneillduo iddo o dwrf y byd i addoli eu Creawdwr. Wrth chwalu y fynwent deuwyd o hyd i ddwy garreg-fedd, y rhai ydynt yn bresennol yng nghadwraeth Col. Wynne Finch, Cefnammwlch. Ar un yr oedd yn gerfiedig,
[blocks in formation] Nid awn i wneuthur un math o ymddiheurawd (apology) am aflerwch y cerfiwr yn rhoddi "cum" ο flaen "multitudinem" yn y cyhuddai (accusative case) yn lle yn y gwrthodai (ablative), eithr ni a awn rhagom i roddi ein barn yng nghylch y gair ansoddol sydd yn dullweddu enw y Capel. Ieuan Lleyn a dybiai mai ystyr "Annelog" ydyw "anelwog," am nad oedd arian wedi cael eu rhoddi tuag ato fel gwaddoliad. Gellir dywedyd hyn am y gweddill o'r Capeli Anwes,* yr hyn sydd yn gwneuthur y peth yn amwys, ac yn milwrio ar unwaith yn erbyn y deongliad. Ysgrifenir ef gan Pennant yn "Anhelog;" ond, hyd y gwyddom ni, nid oes y fath air yn yr iaith Gymraeg. Os mai yr hyn a geisiai osod allan oedd, eu bod yn "peidio hèl," nid yw hyn yn wir, oblegyd yr oedd y Cyfundrefnau hynafol hyn yn gwneuthur hyny. Mwy na thebyg, yn ol llafar gwlad, mai yr hyn a feddylir yw "Annelog"="an"= nid, heb, + "dèl," neu "tel"=cam, ac y mae y peth sydd "heb" fod yn "gam" yn "gywir," gyda'r terfyniad "-og," yr hwn a arwydda "gyflawnder" o'r hyn sydd "gywir." Felly, "Annelu" unioni cywiro =cyfeirio, am fod y Capel yn hyfforddi ac yn cyfarwyddo y pererinion i fyned tros y mynydd gwyllt a niwlog yn eu blaen i Eglwys Fair am Ynys-y-Saint, yr hyn sydd, efallai, yn rheswm fod y clogwyn gerllaw hefyd yn myned dan yr un enw.
=
Mabseintiau.
NG ngholofn A, gosodwn i lawr enwau y Seintiau a'u llinach, ac ar eu cyfer yng ngholofn B, crybwyllwn enwau yr Eglwysi a roddwyd ar eu henw, fel y canlyn:
- Gwneir y gair "Anwes" i fyny o "an"=blaenddawd nacäol heb, a "gwes"=ymadael, am nad oedd y Capeli Anwes i dori eu cyssylltiad â'r Fam Eglwys.
AY SAINT.
I. AELRHIW. - Ystyrir mai efe a sylfaenodd yr Eglwys yn y lle hwn. Nid oes sicrwydd mai yr un ydyw ag Aelerw.
BYR EGLWYSI.
Rhiw.
II. BEUNO Bovinus=Bugail, ap Beugi= Bottwnog.
Bovagius, ap Gwynlliw Filwr, ap Gliwys, ap Tegid, ac enw ei fam oedd Perfferen merch Llewddyn Llwyddog o Ddinas Eiddin. Car- trefai yng Nghlynnog, lle y llafuriodd yn galed tua A.D. 616. Bu farw yn y flwyddyn 660, a chladdwyd ef yn Ynys Enlli.
III. BUAN Pascen, neu yn hytrach, Buan, Bodfuan.
ap Ysgwn, ap Llywarch Hên, ap Elidir Lydanwyr, ap Meirchion, ap Grwst, ap Ceneu, ap Coel, brenhin Prydain. Anhawdd gwy- bod i sicrwydd yr amser yr oedd y Sant yma yn byw; ond bernir fod Llywarch Hên yn blodeuo o A.D. 550 i 600. Felly, nid yw yn beth annichonadwy nad oedd Buan yr ŵyr yn cofio Llywarch ei daid.
neu
IV. CAWRDAF, ap Caradawg Freichfras,
tywysog Brycheiniog. Desgrifir ef fel un o dri "cynweisiaid," gadlywyddion Ynys Prydain, tua'r Chweched Ganrif. Ond gadawodd y fyddin, ac aeth yn aelod o Goleg Illtud.
"Gwnaeth Illtud Sant
Ar lan Hodnant Wyth ugain Côr Ag wyth ragor Lle'dd anneddaint Ddwy fil o saint Yn bucheddu Wrth ffydd IESU Cedwaint o neb Coel duwioldeb
Abererch, (Berach, 1673,
yn ol Liber Valorum.)
A Y SAINT.
BYR EGLWYSI.
Dirwest, unpryd Gweddi, penyd Elusenau A chardodau Ag yn eu mysg, Cynnal addysg."
V. CEIDIAW, Ane ac Aeddan Voeddog Ceidio.
ap Caw Cowllog, a oeddynt â'u heglwysi yn y Coedane a Rhod- wydd Geidio. Bonedd y Saint. Blodeuai y Sant hwn yn y Chweched Ganrif.
VI. CIAN.-Gorfodir ni i wrthbrofi mai Llangian.
nid y rhyfelwr y cyfeiria Aneurin ato yn y Gododin oedd hwn, ond gwas Peris, brawd Gwynnin
Llandegwning.
VII. DENEIO, neu Tyneio, ap Arwystl S. Denïo,
Gloff, ap Seithennin Frenhin, o
Pwllheli.
Gantre'r Gwaelod. Diau mai yr achos o'i enciliad ef a'i berthyn-
asau yma, ydoedd y Gorlifiad, yr
hwn a gymmerodd le, fel yr ystyrir, yn y rhan olaf o'r Bum- med Ganrif.
VIII. EDERN, Edyrn, neu Edeyrn=(Etern- Edern.
us), ap Nudd, neu ap Beli, ap Rhun, ap Maelgwn, ap Catwall- awn Law Hir, ap Einyawn Yrth, ap Cynedda Wledig. lig. Yr oedd Maelgwn yn byw yn y 5ed Ganrif, yr hyn sydd yn gosod Edern yn y 6ed, neu ddechreu y 7fed. Nid oedd yr un cyssylltiad rhyngddo ef ag Edeyrn Dafod Aur.
ΙΧ. ΕΙΝΙΟΝ, Engan, Einnyawn, Einon, Llanengan.
Eineon, Eneon=Eneanus (brawd
Seiriol a Meirion), ap Ywain Danwyn, ap Einion Yrth, neu
Urdd, ap Čynedda Wledig, ap
Edern, ap Coel Godhebog (bren