Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

AY SAINT.

hin), a Stradwen, tywysoges Gogledd Cymru. Yr oedd yntau hefyd yn Frenhin ac Offeiriad yn Lleyn yn y 6ed Ganrif.

X. GWYNNIN, brawd Brothen Sant, ap

       Helic, ap Glanawe, ap Gwgan, 
      ap Caradawc Freichfras, ap Llyr 
       Merini, ap Einion Yrth, ap Cyn- 
      edda Wledig. Brodor ydoedd o 
        randir helaeth gynt o du y Gog- 
       ledd i Arfon a elwid "Tyno 
       Helic," yr hwn a orchuddiwyd 
      gan y môr, fel y bernir, yn y 
        Seithfed Ganrif. 

BYR EGLWYSI.

Llandegwning.

XI. GWYNODL, Gwynoedyl, Gwynhoydyl, Llangwnadl.

ap Seithennin Frenhin o Faes

Gwyddno a oresgynws môr ei dir, a brawd Merin. Yn Eglwys Llangwnadl ar y golofn gerllaw yr allor y mae yn gerfiedig

S.

GWYNHOYDYL

IACET HIC

hyny yw,

SANT GWYNHOYDYL

A ORWEDD YMA

Ac ar y golofn nesaf ati cawn yn ysgrifenedig,

HECEDESEDIFICATAESTMANO DM hyny yw, Y DEML HON ADEILADWYD YM MLWYDD- YN EIN HARGLWYDD UN FIL,

  ond yr oedd Gwynhoydyl mor 
   fore a'r Chweched Ganrif. 

XII. HYWYN, Howyn, Honwyn, Henwyn, Aberdaron.

       Henyn, Hefnyn, neu Hefin Sant, 
       ap Gwyndaf Hên, ap Emyr 
       Llydaw, taid Cadfan. Bu yn 
         aelod o Gôr Illtud ym Morganwg, 
           o'r hwn y daeth i Enlli, lle y 
       gwnaethpwyd ef yn Esgob. Efe, 
           fel y bernir, sefydlodd yr Eglwys 

AY SAINT.

B YR EGLWYSI.

yn Aberdaron at wasanaeth y pererinion lluosog a gyrchent i Noddfa y Saint. Yn ol y Iolo MSS. yr oedd yn Beriglor (in periculo mortis) Cadfan a'i saint; ac felly yn byw yn y Chweched Ganrif.

XIII. IESTYN, ap Geraint, ap Erbin, ap Llaniestyn.

        Cystenyn Gorreu, ap Cynfar, ap 
        Tudwal. Cyssegrodd y dyn 
         duwiol hwn ei hun a'i eiddo at 

waith yr Arglwydd yn y Chwech- ed Ganrif. Fe ddywedir fod cerflun o hono yn Eglwys Llan-

iestyn, Môn, o'r hwn y mae 

darlun yn yr ail gyfrol o'r Arch- æologia Cambrensis.

XIV. MAELRHYS, ap Gwydno, ap Emyr Llanfaelrhys.

Llydaw, cefnder Cadfan.

XV. MERIN, neu Meiryn, ap Seithennin o Bodferin.

Vaes Gwyddno a oresgynws môr ei dir.

XVI. MIHANGEL, yr Archangel, sef yr hwn a osodir allan yn y Bibl fel gwrthwynebwr eiddigus yn ymladd yn erbyn y ddraig-"yr hên sarph, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo yr holl fyd." Yrun yw Mihangel

Michael )מיכאל(ond fod y llythyrenau Hebraeg, sef Caph ac Aleph, wedi cael eu gosod gan y Cyfieithydd yn fwy gyddfol (guttural) yn y blaenaf na'r olaf.

XVII. MOR, ap Ceneu, ap Coel Godhebog, o Caer Colin; o'r hyn lleiaf, dyna ddywed rhai haneswyr. Ond ymddengys i ni ei bod yn fwy cydweddol âg amseryddiaeth a chydrediad (coincidence) ffeithiau ac amgylchiadau, mai Mor,

Llanfihangel

Bachellaeth. 

Llannor. (YGroes Sanctaidd, yn ol y Liber Valorum.)

AY SAINT.

ap Pascen, ap Urien Reged, oedd ef, a bod Nefyn yn fodryb iddo chwaer ei dad. Claddwyd y Mor

B YR EGLWYSI.

hwn yn Enlli tua diwedd y Chweched Ganrif.

XVIII. NEFYN, merch Frychan, gwraig Cyn- Nefyn.

farch Oer, ap Meirchion Gul, ap Grwst Ledlwm, ap Ceneu, ap Coel Godhebog, a mam Urien ap Cynfarch, yr hwn a elwid Urien

Reged.

XIX. PEDROG, ap Clemens, Tywysog Cern- Llanbedrog. yw. Eraill a farnant ei fod yn hanu o rïaint tywysogaidd yng Nghymru, iddo fod am ugain mlynedd yn cael ei ddysgu yn y Werddon, ac mai oddiyno y daeth trosodd i'r wlad hon. Bu farw tua'r flwyddyn A.D. 564.

XX. SANCTUS PETRUS AD VINCULA Sant Meyllteyrn. Pedr Wrth Gadwyni. Herod greulawn a'i rhoddes yng ngharchar tan ofal Pedwar Pedwariaid o filwyr, ond ar ol gweddi ddyfal gan yr Eglwys at Dduw drosto ef, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, gan ddywedyd, "Cyfod ar frys." A'i gadwyni ef a syrthiasant oddiwrth ei ddwylaw, ac efe a arweiniwyd allan, ac a waredwyd o law Herod.

XXI. ST. CwYFAN. -Blodeuai yn y Seith- Tydweiliog. fed Ganrif. Sylfaenodd Llangwyfan ym Môn, a Llangwyfan yn Ninbych.

XXII TUDWAL BEFR, ap Corinwr, ap Cad- St. Tudwal.

fan, ap Cynan, ap Euddaf, ap Caradog, ap Bran, ap Llyr

Llediaeth.

XXIII. TUDWEN, tybir ei fod yn byw yn y Llandudwen.

Seithfed Ganrif.

D.S.-Fel y dengys enwau a llinach yr hên seintiau yma, y mae yr Eglwys o'r dechreuad yn Lleyn yn hollol Gymreig, yr hyn sydd yn ddigon o brawf nas gall fod yn "Eglwys estronol," fel y dywed rhai honwyr hocedus y dyddiau diweddaf hyn.

Bodkerin.

IAMHEU fod Crefydd wedi cael ei sefydlu yma mor fore a'r Chweched Ganrif gan Merin Sant. Sonir yn "Roll 29 Hen. VIII." am "Boderron," ac oddiwrth y desgrifiad a roddir, tueddir ni i farnu mai Bodferin feddylir. Etto, nis gellir casglu gydag un math o sicrwydd fod yr Eglwys i fyny yr amser hwnw. Yng Nghoflyfr Caer-yn-Arfon, dan y pennawd "Leges et Consuetudines Wallae,” mewn cyssylltiad ag Enlli, crybwyllir am Gaplan Bodfran. Gan fod orgraph enwau lleoedd yn yr ysgrif hon yn hynod o gymmysglyd a gwallus, bernir mai yr un ydyw Bodfran a Bodferin; ac os felly, yr oedd yr Eglwys ar ei thraed yn A.D. 1252, ac offeiriad yn gweinyddu ynddi, er ei bod bellach erys ugeiniau o flynyddoedd yn gorwedd yn ei hadfeilion; ond oddiwrth seiliau ei chynfuriau deallwn ei bod yn mesur tua phedair-troedfedd-ar-ddeg-ar-ugain o hyd, a dwydroedfedd-ar-bumtheg o led. Yr oedd y drws yn yr ochr ogleddol, a phorth y fynwent gyferbyn ag ef, yr hon sydd wrth fesur yn bedair-troedfedd-a-thriugain o hyd, a deuddeg-troedfedd-a-thri-ugain o led. Y mae man ar dir Rhwng-y-Ddwyborth yn cael ei alw yn Llain-y-Capel hyd heddyw. Dywedir mai môr-ladron a ddinystriasant yr Adail Gyssegredig, ac i un o honynt geisio trosglwyddo gydag ef glôch y Llan, ond iddo ar ei redfa syrthio i agen y weilgi

a boddi, tra rhaff y gloch yn cydio yn y graig gadarngref. Gelwir y fan byth oddiar hyny yn "Llam Lleidr."

Nis gwn am ysgolhaig yn fyw, All gyfrif lladron Eglwys Dduw.

Eglwys Fair.

SAFAI yr Eglwys hon gerllaw "Maen Melyn Lleyn," rhwng Uwch-Fynydd a Mynydd y Gwyddel, a dywedir ei bod yn un-droedfedd-arbumtheg-ar-ugain o hyd, ac yn bumtheg troedfedd o led, heb son am yr hun-gelloedd (dormitoria) oeddynt yn perthyn iddi. Adeiladwyd hi uwchlaw y dibyn serth ar wastadedd, lle yr honir fod peth tir ynddo yn perthyn i bob boneddwr yn Lleyn. Islaw, mewn Ile tra anhygyrch, y mae ogof a elwir "Ogof Mair;" ac yn yr Ogof y mae ffynhon gyssegredig i'r Wyryf Fendigaid, yr hon a elwir "Ffynhon Fair," mewn cyssylltiad a'r hon y dywedid yn yr oesoedd ofergoelus a aethant heibio, y byddai i'r sawl a ddygai lonaid ei safn o'i dwfr heb ei golli i ben y bryn, gyflawniad o'r dymuniad a goleddai cyn dechreu dringo y llwybr peryglus i fyny. Diben yr hên grefydd-dy, yr hwn sydd erys llawer o flynyddoedd wedi ei restru ym mhlith y pethau a fu, ydoedd derbyn y pererinion i addoliad eu Ceidwad, a dangos llettygarwch iddynt yn ystod y tywydd ystormus, nes y byddent yn alluog i fyned trosodd i hên “Insula Sanctorum" Enlli, i weled daioni a thrugaredd yr Arglwydd tuag at ei saint yng nghanol dyfroedd chwerw trallodion ac erledigaethau y byd.