Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daearyddiaeth y Lle.

YR ydym yn barod wedi sôn am ffrwythlonrwydd y diriogaeth brydferth yma, ac am yr amlygiadau hyny ydynt yn llefaru yn uchel yng nghylch ei hinsawdd tymherus. Yn bresennol ni a ddywedwn ychydig eiriau o barth, nid daeareg, ond daearyddiaeth y wlad. Mewn rhyw ystyr gallesid desgrifio Lleyn fel Penarth Deheuol swydd Gaernarfon. Ysgrifenid enw yr ardal hon yn "Llŷn" yn nheyrnasiad Sior yr Ail, ac wedi hyny. Yr ydym yn cael gan un awdwr galluog fod Ptolemy, y daearyddwr byd-enwog, yn galw y Pentir hwn yn "Promontorium Langanum"=Penrhyn-y-Lân-gân. Ond methwn gael allan fod "Langanum" ar lawr yn un o'r MSS. Ptolemæaidd, nac ychwaith yn y Dudlenas Hynafiaethol. Y darlleniad yn yr awdurdodau hyn ydyw "Canganorum Promontorium"="Penrhyn-y-Canganiaid." Cawn yn y Dudlenas Geltaidd fod trigolion y wlad a elwir yn awr Cumberland, gyferbyn ag Ynys Manaw, yn cael eu galw "Conganiaid," ac y mae yno Gymry hyd y dydd heddyw; a diamheu fod perthynas rhwng y "Conganiaid" uchod â "Changaniaid" Lleyn. Y darlleniad a gaf yn Ptolemy yw “Γαγγανων ἄκρον"=Penarth "Ganion" y Mabinogion, medd un, sef hen Dywysog ym Mhrydain; ond ein barn ni yw mai cyflead ieithyddol "Càn + gàn"=Cèn + cen ydyw Pen + pen Cyn ben, neu Cynbenaethiaid. Cf. gan yn Morgan Pen +mor, a càn yn Cantium=Kent.

Rhenid y dalaeth yma gynt yn dri Chwmmwd, sef I. Gaflogion, enw a gymmerwyd oddiwrth Fynydd-yrEifl. II. Committmaen-Cymmytmaen=Cwmmwd maen=Cwmmwd-Maen-Melyn-Lleyn, enw a fabwysiadwyd oddiwrth hen faen melyn mawr, sef carreggalch, a saif yn ddernyn rhydd fel delw ar wyneb y