Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ynys Enlli.

CYN y gallwn weled gogoniant Hynafiaethol yr Ynys brydferth hon, rhaid i ni edrych arni o leiaf ddeuddeg cant o flynyddoedd yn ol, a chymmeryd cip-olwg ar amgylchiadau ein gwlad yr amser hwnw, oblegyd nis gallwn ddeall yr effeithiau heb ddeall yr achosion. Dyna'r adeg yr oedd yr hên Gymry yng nghanol yr ystorm,—y Rhufeiniaid wedi eu hysbeilio, a'u gadael yn ddiamddiffyn; cigyddion Caledonia am eu llarpio, fel y cawn hwynt yn wylofain, "Y mae'r Barbariaid yn ein gwthio i'r môr, a'r môr yn ein gyru yn ol at y Barbariaid, a rhwng y naill a'r llall nid oes dim cyfrwng ond naill a chael ein lladd neu foddi;" newyn a phläu mewn canlyniad, fel y dywedir mai "prin y gallai y byw gladdu y meirw;" y dyfroedd yn gorlifo eu meusydd; "Brad y Cyllyll Hirion;" Cwymp Arthur; gwrthryfel y Ffrancod ar y Cyfandir, a Heresi Morgan fel y locust a'r lindys yn difa eu Crefydd. Nid ydym gan hyny yn rhyfeddu ddarfod i dywysogion a lluaws o bendefigion tra urddasol o wahanol ororau, lle yr oedd y Cymry yn cartrefu, encilio cyn, neu oddeutu dechreu y Chweched Ganrif tua'r parthau yma, ac ar eu diangfa iddynt wneuthur eu Dinas Noddfa yn Enlli.

"Yna y dywedes Gybi,
Pa fyd a geir yng ngweilgi?
Pa fwyd yn ymborth ini,
Yng nghanol y môr heli?

Catwg a ddywed wrth Ddewi,
Fel y gwnai y prophwyd Eli,
Duw a ro gynghor ichwi,
Ar foroedd a deieri:
Goddefwch bob caledi,
Nid ellir lles o ddiogi,
Trech doethineb no gwegi,
Trech llafur no direidi,