Dirwest a Chred a Gweddi,
Orfydda bob caledi,
Mil canhaws gan Dduw roddi,
Na chan ddyn diddim erchi,
O chredir llyfr Generi,
Yr hwn a wiria ini,
Ni chafas ddyn ei eni,
Heb gael gan Dduw ei borthi."
Dywedir gan yr awdurdodau goreu i Cadfan, mab Eneas Ledwic a Gwen Teirbron, gyda thorf o saint yn ei ganlyn, ddyfod trosodd o Lydaw, ac ymsefydlu yn yr Ynys hon, pan yr oedd Ffrainc yn gwneuthur ei hymosodiad didrugaredd dan Clovis ar Armorica. Dilynwyd ef drachefn gan Dyfrig, Archesgob Caerlleon-ar-Wysg, neu Llandaf, Dewi, Esgob Tyddewi, Daniel, Esgob cyntaf Bangor, Einion, Brenhin Lleyn, ac o'r gyflafan ofnadwy ym Mangor Is Coed, A.D. 607, diamheu i lawer o'r trueiniaid ffoi yma am eu heinioes. Gelwid haf y flwyddyn 777 yr "Haf Gwaedlyd," o herwydd y rhyfel echryslawn a dorodd allan oblegyd newid amser y Pasg gan Elfod, ac nid oes amheuaeth na ychwanegodd hyn etto at rifedi y saint yn y lle hwn. Yr oedd yr Wyl ardderchog hon mor werthfawr yn eu golwg fel yr oeddynt yn barod i golli eu gwaed er ei mwyn; ac O! na welid mwy o barch etto yn cael ei ddangos yn yr oes oleu hon tuag at bethau cyssegredig o'r natur yma tros y rhai y rhoddodd ein cyndadau eu bywydau i lawr. Tybia Pennant fod dysgyblion i Sant Columba wedi dyfod yma, y rhai a adnabyddid wrth yr enw Cyldwys= Culdees Colidei (=cultores Dei=addolwyr Duw, neu Keltwys preswylwyr Gelltydd, neu Gelloedd, ac nid yw hyn yn ymddangos yn annichonadwy, gan y byddai yr hên Grefyddwyr hyn yn ymneillduo o ddadwrdd y byd i goedwigoedd, ogofëydd, ac ynysoedd, fel y gallent gael mwy o hamdden i weddio a myfyrio. Gwelwn oddiwrth yr holl bethau hyn, fod Enlli, yn yr hên oesoedd, yn gyrchfan pob cyflwr a gradd o ddynion, fel y daeth Esgobion, Offeiriaid, Brenhin-