oedd, Tywysogion, Dysgawdwyr, a Goreuon Duwiolion yr hên Eglwys Brydeinig yn dadmaethod iddi, pan yr oedd Crefydd ddilychwin y Cymry efallai dan yr erledigaeth fwyaf—cleddyf yr estron am ei lladd, Paganiaeth am ei difodi, Awstin am ei llygru â defodau y Pab, a Morganiaeth am ddiffodd holl ddylanwadau yr Yspryd Glân. Cafodd yr hên Fangor hon hefyd ei gwaddoli yn anrhydeddus; ac nid ydym yn darllen i neb geisio ei ddwyn oddi arni hyd nes y gwelwn yn yr "Ysgrifau Sefryddol" i ddeiseb gael ei chyflwyno gan Abad Enlli i Iorwerth-yr-Ail, yn yr hon yr achwynai fod Sirydd Caernarfon yn hawlio rhyw swm o arian oddi arno yn anghyfiawn; ac wedi gwneuthur archwiliad, archodd y Brenhin, o'i fawr haelioni, a thrwy gyfarwyddyd ei gynghor, "ar i'r swm ddywededig, a phob ol—ddyledion eraill, gael eu dychwelyd am byth, a gorchymynodd na fyddai i neb, nac yn ei enw ef, nac yn enw ei etifeddion, aflonyddu y Fynachlog mwyach;" ond ni wrandawodd Harri VIII ar gais Iorwerth, nac ychwaith ar orchymyn yr Arglwydd, canys efe a ladratodd bron yr holl olud oedd yn perthyn i'r hên sefydliad cyssegredig, a John Conwy, etifedd Bodnithoedd, plwyf Meyllteyrn, oedd yr Abad olaf.
Ymddengys fod gan Enlli, pan yr oedd yn ei gogoniant, ryw fath o Faenorlys mewn tŷ ym mhlwyf Aberdaron a elwir "Y Cwrt"=llys, lle yr oedd y cynghorwyr yn dyfod yng nghyd i wneuthur barn rhwng dyn a dyn; ac fe ddywedir wrthym fod y carchardy yn dra diweddar yno i'w weled. Enw y bryn ar gyfer y tŷ ydyw "Bryn y Crogbren," sef y fan yn ddiau y byddent yn dienyddio drwgweithredwyr. Gelwir tŷ arall yn y gymmydogaeth yn "Secar" Exchequer=trysorlys, lle yr oedd cyfrif, &c., cyllid yr Abadaeth yn cael ei gadw. Am Enlli, nis gellir dywedyd fod ond ychydig o weddillion yr hên Fangor odidog ar ol i siarad am fawredd yr Adail enwog fu unwaith yn fam i'r Eglwys yn Lleyn, os