nad i holl Esgobaeth Bangor, gan mai un o'i meibion hi oedd Deiniol ei chyn—sylfaenydd. Bu pererinion yn cyrchu yma am oesoedd i gael bendith i'w hanfarwol eneidiau; ac fe ddywedir fod dim llai nag ugain mil o saint wedi cael eu claddu yn yr Ynys hon. Cana Islwyn iddi fel hyn:
"I gynnar ddiffynfa'r Ffydd,
Deg Awen, can dy gywydd.
Enlli fach! ynnillaf hwyl,
O'th gofion union anwyl.
Cofio'th saint fel cyfoeth sydd,
Neu foeth i Hynafiaethydd.
Yr oedd Ffydd ar ddiffoddi
Yn y 'storm, hyd nes i ti
Fwrw gwyn dy fore—ganwyll
O'r môr uwch y tramawr wyll.
Dwy filldir gywir dy gylch,
A'r eigion yn gaer ogylch—
Un o hyd—os bychan oedd
Dy lêd, Oh diail ydoedd
Rhyfedd glod dy Grefydd glau,
Fel haul dy Ddwyfol Olau!
Er lleied am—led dy dir,
Y Fendith oedd Gyfandir!
Ni fu erwi gan feirwon,
O wir saint mor fras a hon:
Yn dirion cuddia d'oror
Ugain mil wrth eigion môr;
Ugain mil o'th seint—hil sydd
Yn llenwi'th erwi llonydd.
E feda'r Adgyfodiad
Wych doraeth o'th odiaeth had.
Ca Llawddog gawell heddwch
A hun lawn o fewn dy lwch.
Dirfawr Abad fu Derfel
I'r Ynys hon, o ran sêl;
Yntef sydd dan lonydd len
Dew orchudd dy dywarchen.
Diboen i'r Abad Beuno
Yw gwely rhad dy gul rô.
Mae Cadfan o dan dy dô
Hoff was i'r Ne'n gorphwyso,
Yn disgwyl egwyl agor
Ryw loew ddydd, ei farwol ddôr!