Gwir brofodd glwysgor Brefi
Fawr gnwd ffydd ein Dyfrig ni:
Rho'dd yno ei urdduniant,
Do, was hên, i'n Dewi Sant:
O bob Archesgob ni chaid
Purach neu wynach enaid:
Rhoi ei fraint a'i ddirfawr fri
A'i anlloedd am hedd Enlli.
Deyrn o sant! oedranus oedd
A'i ddidwyll awydd ydoedd
Am dreulio yno ei oes
Yn llonydd, weddill einioes;
Byw mwy mewn cymmundeb mêl
A Duw, yn Enlli dawel—
Ryw Seion bêr o swn byd
Mwy, a'i elfen am eilfyd.—
Fawredig dduwiolfrydedd!
Pwy'n awr drwy fyd mawr a'i mêdd!
Byw beunydd, rhoi bob enyd
Yn ddigoll i Dduw i gyd:
Gado'r byd, dal gyda'r bedd
Ryw ofeb sobr a rhyfedd!
Aeth rhif o wyr difrifol
Drwy hyfryd unfryd o'i ol
1 fwynhau yr un dwfn hedd,
Yr un hygar unigedd.
A daethant o'i gymdeithas
Dirion, yn gryfion mewn Grâs;
Brwd elai ei brawdoliaeth,
Ac yn Nuw cynnyddu wnaeth.
*****
Finnau yn llesgedd f' henaint
Hoffwn cyfrifwn yn fraint
Gael yno dreulio mewn hedd
O dawel ymneillduedd
Eiddilion flwyddi olaf
Fy ngyrfa, yn noddfa Naf.
Byw arno, byw iddo Ef,
Mwy'n ddiddig mewn hedd—haddef:
A dal cymmundeb a'r dòn,
Byd ail, o ŵydd bydolion,
Heb dyrfau byd, heb derfyn
Ond y gwyrddfor, gefnfor gwyn
O'n holl fyd Enlli a fo
Iach wlad i'm haul fachludo.
Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/177
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
