Gwedi y boen, gyda Beuno
Gorphwysaf, mi drigaf dro:
Ac hefo Beuno o'r bedd
Codi ym mawr—rwysg adwedd.
Gwytherin goeth ei arawd,
'R enwog Tyfrïog ei frawd,
A Derfel mewn rhwysg dirfawr,
Gyfyd ar yr hyfryd wawr:
A'r doniog Cawrda' unwedd
Draw aiff i wlad yr hoff wledd.
A Phadarn hoff eheda
I fro lon anfarwol ha'.
Dwg Naf ein Tegwyn hefyd
O Enlli bàn i well byd.
Dof finnau—minnau'n y màn
Fry'n gydfyw â'r hên Gadfan!"
{{c|Nodyn:X—larger PENLLECH.— ueddir ni i farnu fod y Plwyf hwn wedi cymmeryd ei enw oddiwrth yr hên Gromlech ardderchog sydd gerllaw Cefnammwlch. Beth a wnaed i'r Ysgol oedd yn perthyn i'r Eglwys yma gynt, i'r hon y byddai yr Esgob Rowlands yn myned i gael ei ddysgu pan yn fachgen? Ac i ba le hefyd yr aeth yr Ysgol Rammadegol oedd yn Pwllheli, yn yr hon y bu Goronwy Owain yn llafurio?
LLECH PAN.—Yn ol pob tebyg, hwn ydoedd enw y Gromlech sydd ar dyddyn Y Gromlech ym mhlwyf Abererch. Enw ar dduw paganaidd oedd Pan, a gall y chwedl am dano fod mor hên â'r ymfudiad o Gaerdroia. Desgrifir ef yn chwareuwr gwefreiddiol ar ei offeryn cerdd, o liw yr haul, ac yn gwisgo seren ar ei fynwes. Dichon mai llygriad yr iaith Roeg yw "Pan" o'r Gymraeg "Pen," fel y gwelir ef etto yn