"Pen"—elope, yr hon, yn ol rhai awduron, oedd ei fam. Ac felly, nid yw yn amhossibl nad oedd y Derwyddon yn eu haddoliad gerllaw y Gromlech yn cyfeirio drwy y cyfrwng hwn at "Ben" mawr yr Eglwys ei hun. Gwelwn hefyd efallai yr elfen Geltaidd yn enw Tyndareus, tad Penelope.
BRYNCROES.—Gerllaw yr Eglwys y mae lle a elwid yn yr hên Ysgrifeniadau "Monatud"=Mynach-dir, ond a elwir yn bresennol yn "Mynachdy." Enw y tyddyn nesaf ato yw "Tŷ Fair" St. Mary's House; ac fel y dywedasom o'r blaen, gwelir yma adfeilion hynafol "Ffynhon Fair"="Fons Sanctae Mariae;" a phan yr oedd adeilad yr Eglwys yn cael ei adgyweirio erys llawer iawn o flynyddoedd yn ol, yr oedd pren, o fur i fur, uwchlaw y fynedfa i'r ganghell, a elwid "Pren Pumtheg," ar yr hwn gynt yr oedd "Llofft y—Groes," yr hon a adnabyddir yn gyffredin wrth yr enw "Llofft-y-Grog." Arweinia yr holl bethau hyn ein meddwl at gyflwr crefydd yn ein gwlad pan yr oedd "delw Engan yn cael ei haddoli," ac edmygedd "Monachos," "Ave Maria," a'r "Sanctae Cruces" yn uchel ei ben yn y Canol Oesoedd; ond y mae yr eulun-addoliaeth yma wedi cael ei ddiddymu, a "Dau Swllt Dirwy'r Groes" wedi cael eu dileu erys talm. Rhai a feddyliant fod yr Eglwys hon wedi cael ei chyssegru i St. Cross, hyny yw, y Groes Sanctaidd, ond methwn gael gafael ar un sicrwydd i gadarnhau hyn. Gwir fod y Tŵr Gwyn yn Llundain yn cael ei alw gynt yn "Bryn Gwyn" Neuadd-y-Cynghor, ac yn ol yr Hên Gymraeg a'r Wyddelaeg y gellir cyfieithu neu esbonio "Bryncroes" yn "Neuadd y Groes," etto, nid oes traddodiad, hanes, na sail i ystyried fod yr Eglwys hon wedi talu mwy o warogaeth neu sylw i'r Groes na rhyw Eglwys arall yn y gymmydogaeth—mewn gwirionedd fe fuasai yn fwy naturiol i'r hên Fynachlog yn Enlli wneuthur hyny, am yr hyn nid