Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oes gymmaint a gair o sôn. Hawddach meddwl, ar ol pwyso y cyfan, fod y lle wedi cael yr enw oddiwrth un o'r hên "Feini Hirion" gynt a fuasid yn wneuthur yn groesau i ddangos Croes Crist pan yr oedd y trigolion yn cael eu dychwelyd oddiwrth grefydd y Derwyddon at Gristionogaeth.

"FLEUR DE LIS"—Blodeuyn y Lily, sef nôdarwisg brenhinoedd Ffrainc hyd 1789. Gwelir ei arwyddlun ar y Bedyddfaen yn Eglwys Llangwnadl, a meddwl Camden yw iddo ddyfod i arferiad yn amser Rhyfeloedd y Groes. Os sylwir arno, y mae yn cynnwys tri bar, y rhai a arwyddocânt y Drindod yn y Bedydd; ac ar draws y tri bàr y mae bar croes, yr hwn yn ddiau a ddengys "Arwydd y Grog" gyda'r hwn y derbynir y plentyn i gynnulleidfa defaid Crist i ymladd yn wrol dan ei faner Ef yn erbyn trindod pechod, a pharhâu yn filwr ffyddlon felly holl ddyddiau ei einioes.

"LLAN-Y-PEDWARSAINT." — Dywed "Llewelyn ein Llyw Olaf," yn y Drydedd Ganrif-ar-Ddeg, fod plwyf o'r enw yma yn Lleyn, ond er pob trafferth a dyfais methasom gael allan ysmotyn ei fodolaeth, ac nid oes neb na dim i'n rhoddi ar ddeall pa le yr oedd. Dywedir wrthym fod "Llan Vair" yn rhywle gerllaw Llanfihangel, a bod esgyrn yn ddiweddar wedi eu darganfod yn y fan lle yr oedd y Fynwent, a sonir wrthym am ffynhon gyfagos yr hon a elwir "Ffynhon Fair."

CYFF ENGAN.—Y mae son ar lafar gwlad fod hên wraig yn byw tua chant a hanner o flynyddoedd yn ol, ac a gerddai ar ei gliniau bob modfedd o Abersoch i Lanengan i gael offrymu "am ei da" yng Nghyff Engan, yr hwn sydd etto i'w weled yn yr Eglwys grybwylledig.